Ymchwil plismona PDC yn creu argraff ffafriol ar yr Ysgrifennydd Gwladol
14 Chwefror, 2023
Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies
Ar ddydd Llun 13 Chwefror, daeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, i Brifysgol De Cymru (PDC) i ddysgu mwy am raglenni ymchwil a datblygu'r Brifysgol.
Ffocws yr ymweliad oedd ymchwil plismona PDC. Cyfarfu’r Ysgrifennydd Gwladol â Dr Louise Bright, Cyfarwyddwr Gweithredol, Ymchwil ac Ymgysylltu â Busnes, a'r Athro Peter Vaughan, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Plismona a Diogelwch.
Roedd yr ymweliad yn cynnwys taith o amgylch Canolfan Efelychiadau Hydra, sy'n darparu amgylchedd dysgu ac addysgu unigryw i fyfyrwyr PDC, o feysydd pwnc amrywiol, drwy gynnal senarios efelychiadol.
Yn ogystal, bu myfyrwyr sy’n aelodau o Uned Achosion Oer y Brifysgol yn sôn wrth David TC Davies am eu profiadau’n ymchwilio i achosion troseddol sydd heb eu datrys, achosion o bobl sydd ar goll, ac achosion o gamweinyddu cyfiawnder. Dan arweiniad Dr Cheryl Allsop, mae'r uned yn chwilio am gyfleoedd i symud achosion yn eu blaen, na fyddai o bosib yn cael y sylw a’r ffocws sydd eu hangen arnynt fel arall.
Dywedodd yr Athro Peter Vaughan: "Roeddem yn falch iawn o groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac arddangos yr ymchwil helaeth sy'n cael ei gwneud yn y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Plismona a Diogelwch.
"Mae strategaeth PDC 2030 yn nodi trosedd, diogelwch a chyfiawnder yn faes ymchwil ag effaith uchel, ac mae ffocws ar fuddsoddi yn y maes, a’i ddatblygu. Mae ein hymchwil yn creu atebion ar gyfer heriau cymdeithasol ac economaidd, gydag ymchwilwyr yn gweithio ar draws ffiniau disgyblaethau i helpu busnesau, cymunedau, a llunwyr polisi i elwa ar eu hallbynnau ymchwil."
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies: "Mae wedi bod yn wych ymweld â PDC a chlywed yn uniongyrchol gan ymchwilwyr a myfyrwyr am y gwaith maen nhw’n ei wneud ym maes pwysig plismona a diogelwch. Dyma ymchwil y gellir ei gymhwyso at nifer o sectorau a bydd ganddo oblygiadau yn y byd go iawn i lawer o bobl.
"Mae Prifysgol De Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil i faterion diogelwch allweddol, a hoffwn ddiolch iddi am ei gwaith anhygoel. Mae'n cyfrannu at yr enw ragorol sydd gan Brifysgolion Cymru am waith ymchwil a datblygu o'r radd flaenaf."