Brawd a chwaer technegol eu hanian yn dilyn trywydd gwahanol at rolau arbenigol

5 Ebrill, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Network_75_siblings_2.jpeg

Mae'r ddau’n gweithio mewn swyddi uwch-dechnoleg, ond allai'r brawd a’r chwaer Aisha ac Awais Saeed ddim bod wedi dilyn trywydd mwy gwahanol tuag at eu rolau presennol.

Tra bo’r chwaer a’r brawd o Gaerdydd ill dau’n gweithio tuag at eu prentisiaethau gradd - wedi'u trefnu drwy arbenigwyr Rhwydwaith 75, sydd wedi ei leoli ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) - roedd eu llwybrau tuag at y swyddi maen nhw'n eu gwneud nawr yn wahanol iawn i’w gilydd.

Mae hynny oherwydd i Aisha, sy’n 25 oed, gychwyn ei thaith i'w swydd bresennol – fel datblygwr Awtomeiddio Prosesau Robotig (APR) gyda thîm APR y Monmouthshire Building Society (MBS) – a mynd i gyfeiriad gwahanol iawn drwy ganolbwyntio ar fusnes a rheoli.

Bellach ym mhumed flwyddyn ei phrentisiaeth gradd, ei blwyddyn olaf, mae Aisha yn dweud bod y sylfaen a gafodd ar ddechrau ei chwrs, a drefnwyd gan MBS mewn partneriaeth â Rhwydwaith 75, wedi ei helpu i gael dealltwriaeth drwyadl o’r sefydliad.

"I ddechrau, roeddwn i'n gwneud yr hyn y gallech chi ei alw'n radd busnes a rheoli ‘generig’, yn treulio fy nghyfnod gyda’r gymdeithas adeiladu yn symud rhwng gwahanol adrannau, fel gwasanaethau morgais a chynilon, i gael dealltwriaeth o sawl rhan o'r sefydliad," dywed Aisha.

"Roedd hyn yn ddefnyddiol iawn gan fy mod wedi dysgu am fara menyn y busnes, a gwnaeth fy helpu i gymryd rhan mewn prosiectau newid yn y tîm gwella parhaus.

"Dros y tair neu bedair blynedd ddiwethaf mae hynny wedi datblygu ac rwyf wedi cymryd mwy o ran mewn newid busnes a gweithio ar wahanol brosiectau, ac un ohonynt oedd y prosiect digidol ar gyfer APR – sy’n cefnogi nod y Gymdeithas o fod yn gymdeithas gydfuddiannol fodern."  

O ran y brawd iau, Awais, sy’n 20 oed, dechreuodd ymwneud â'r sector technoleg yn gynharach yn ei yrfa nag y gwnaeth ei chwaer.

Yn Beiriannydd Diogelwch Gwybodaeth gyda Future Publishing - llwyfan byd-eang ar gyfer cyfryngau arbenigol - roedd Awais eisoes yn cael ei gyflogi gan y cwmni pan fu modd iddo wneud cais i Academi Broffesiynol Rhwydwaith 75 i wneud prentisiaeth gradd, ac mae bellach yn nhrydedd flwyddyn gradd Datrysiadau Digidol A Thechnoleg (Diogelwch Seiber) yn PDC.

"Roeddwn i'n gwybod yn syth ar ôl fy Safon Uwch fy mod i eisiau gwneud prentisiaeth gradd, yn hytrach na gradd lawn amser draddodiadol, oherwydd doeddwn i ddim eisiau cael dyled myfyriwr," meddai. "Roeddwn i am ddechrau ennill arian, a dyna'n union mae hyn wedi fy ngalluogi i’w wneud."

I Awais, mae  nifer o fanteision i weithio ac astudio'n rhan amser.

"Pan rwy’n gweithio, rwy’n ei fwynhau’n fawr ac rwy’n gweithio gyda phobl wych," dywed. "Ond mae gyda chi’r elfen addysg hefyd, sy'n gallu rhoi newid i chi a rhywbeth arall i ganolbwyntio arno, a gallwch chi hefyd wneud cysylltiadau gwahanol yn y brifysgol.

"Felly mae'n gyfuniad braf iawn, lle rydych chi’n cael yr agweddau gorau ar fod mewn prifysgol, yn ennill gradd, a phopeth wedi ei dalu amdano, ac yn y gwaith rydych chi’n cael eich cyflog ac yn creu perthynas dda gyda’ch cydweithwyr - mae'n gyfuniad da."

Wrth edrych tua'r dyfodol, mae Aisha ac Awais yn bwriadu datblygu eu galluoedd technegol ymhellach wrth i'w gyrfaoedd barhau i esblygu.

"Rwy’n meddwl fy mod i'n bendant eisiau aros ym maes diogelwch gwybodaeth, ond rwy’n sicr yn mynd i ddefnyddio’r pethau rwy’n eu dysgu yng ngweddill fy ngradd," meddai Awais.

"Mae'r radd yn eithaf eang – yn cynnig cyfle i chi ddeall rhaglennu, diogelwch cyfrifiaduron, a phethau eraill fel hacio moesegol - felly efallai y bydd agwedd arall ar y maes yn denu fy niddordeb ar ôl i fi gwblhau fy ngradd, ond rwy'n credu fy mod yn sicr eisiau aros o fewn y maes gwybodaeth a seiberddiogelwch."

"Rwy’n teimlo'n eithaf tebyg," dywed Aisha. "Mae'r profiad rheoli newid wedi bod yn wych, a nawr, ar ôl symud i'r maes digidol ac ennill sgiliau technoleg - sydd ddim yn gysylltiedig â fy ngradd na fy nghefndir busnes/dyniaethau – rwyf wedi sylweddoli fy mod i wir yn mwynhau bod yn ddatblygwr yn y maes Roboteg a Deallusrwydd Artiffisial.

"Mae pob profiad gwaith a gefais wrth astudio yn mynd i fy helpu tuag at ddilyn gyrfa yn y math yna o rôl."

A nhwythau wedi gallu elwa ar raglen Rhwydwaith 75, a fyddai'r brawd a’r chwaer yn annog pobl eraill i ddilyn eu hesiampl?

"Rwyf wedi cael profiadau eang iawn yn y cwmni a byddaf bob amser yn eu gwerthfawrogi am roi'r cyfleoedd hynny i fi, oherwydd rwy'n credu ei fod wedi cyfoethogi'r hyn a fyddai fel arall wedi bod yn  radd busnes a rheoli eithaf cyffredinol," meddai Aisha.

"Gan fod gan y gymdeithas adeiladu berson dynodedig yn y tîm Adnoddau Dynol i ofalu amdanon ni o Rwydwaith 75, rwyf bob amser wedi teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi wrth wneud fy mhrentisiaeth gradd. Rwyf wedi elwa’n fawr o'r pum mlynedd."

Yn ôl Awais, "Rwy'n credu bod Rhwydwaith 75 wedi sicrhau cydbwysedd da iawn. Rydych chi bob amser yn teimlo eich bod yn cael eich cefnogi fel myfyriwr ac  fel gweithiwr cwmni, ac maen nhw wastad yno i gynnig cyngor os oes gyda chi unrhyw gwestiynau.”

Mae Rhwydwaith 75 yn llwybr lleoliad gwaith ac astudio rhan amser cyfun tuag at radd. Mae hyfforddeion Rhwydwaith 75 yn gallu cymhwyso eu gwybodaeth academaidd i waith go iawn yn eu cwmni lletyol, gan ennill y sgiliau, y profiad, a'r cymwysterau angenrheidiol y mae’r galw amdanyn nhw’n fawr mewn diwydiant.