Dyfarnu arian o gronfa werth £5m gan lywodraeth y DU i brosiect lleihau niwed cyffuriau ymhlith myfyrwyr

11 Ebrill, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Girl_on_tablet.jpg

Mae Katy Holloway, Athro Troseddeg Prifysgol De Cymru (PDC), yn rhan o dîm ymchwil sy'n gweithio tuag at leihau niwed i fyfyrwyr y DU yn deillio o gyffuriau.

Mae'r Rhaglen Cadw'n Ddiogel/Staying Safe Programme (SSP) yn un o bum prosiect i dderbyn arian gan Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU.

Fel arfer, yn y brifysgol y bydd pobl ifanc yn byw ar wahân i’w rhieni am y tro cyntaf. I rai, gall y rhyddid newydd hwnnw rhag rheolau eu rhieni - ynghyd â chyfleoedd newydd i gymryd cyffuriau - arwain at arbrofi. Mae tystiolaeth bod myfyrwyr prifysgol bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod wedi defnyddio cyffur anghyfreithlon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o’u cymharu â phobl eraill o'r un oed.

Mae’r brifysgol felly yn lleoliad delfrydol i ddarparu gwybodaeth addysgol gyda'r nod o helpu myfyrwyr i gadw'n ddiogel - boed hynny drwy ymatal, drwy annog defnydd cymedrol, neu drwy leihau'r galw am gyffuriau ymhlith pobl ifanc.

Mae'r Rhaglen Cadw’n Ddiogel (SSP) yn brosiect addysg ar ffurf fideos dogfen sydd wedi'i gynllunio i leihau'r galw am gyffuriau drwy atal neu oedi myfyrwyr rhag dechrau eu defnyddio, atal pobl rhag troi at gyffuriau trymach neu fwy peryglus, a rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar fyfyrwyr i leihau'r niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau.

Datblygwyd y rhaglen, sy'n cael ei pheilota ym Mhrifysgol De Cymru a Phrifysgol Manceinion, gan arbenigwyr ym meysydd meddygaeth, dibyniaeth, seiciatreg, plismona ac ymosodiadau rhyw, ochr yn ochr â chyrff lles myfyrwyr a phrifysgolion. Mae'n cael ei chefnogi gan Gronfa Arloesi werth £5 miliwn gan Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU i leihau defnydd cyffuriau.

Mae Dr William Floodgate, yr Athro Judith Aldridge a Lydia Swann o Brifysgol Manceinion, a'r Athro Katy Holloway a Shannon Murray o Brifysgol De Cymru, yn cynnal gwerthusiad o'r rhaglen gyda'r nod o'i mireinio a'i chyflwyno i brifysgolion eraill ledled y wlad.

Dywedodd yr Athro Katy Holloway, PDC: "Mae bod yn rhan o'r prosiect pwysig hwn, sy'n  ceisio lleihau’r niwed i fyfyrwyr, yn deillio o gyffuriau, yn gyffrous iawn. Rydyn ni’n yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr o Brifysgol Manceinion i helpu i fireinio'r Rhaglen Cadw’n Ddiogel a datblygu cynlluniau ar gyfer gwerthusiad mawr ymhlith prifysgolion y DU."

Dywedodd Dr William Floodgate, Prifysgol Manceinion: "Bydd ein prosiect yn mireinio rhaglen addysg gyffuriau newydd sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n canolbwyntio ar leihau newid, ac y gellir ei defnyddio mewn prifysgolion eraill ledled y DU.”

"Mae’r SSP wedi'i chynllunio i roi'r wybodaeth sydd ei hangen ar oedolion ifanc i leihau'r niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau. Byddwn yn defnyddio ystod o ddulliau i werthuso priodoldeb y rhaglen, sut mae’n asesu ei chanlyniadau ei hun, a’i heffaith ar y myfyrwyr sy'n ei chwblhau."