Ethol Is-Ganghellor PDC yn Gymrawd o’r Gymdeithas Ddysgedig
25 Ebrill, 2023
Mae Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru, Dr Ben Calvert, yn un o 41 o Gymrodyr newydd sydd wedi eu hethol i Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Mae'r Cymrodyr newydd yn cynnwys academyddion o brifysgolion Cymru a'r DU, ac awduron, ymchwilwyr ac arweinwyr o fyd addysg uwch yn ogystal â'r gyfraith, meddygaeth, a'r cyfryngau.
Yn y flwyddyn pan lansiodd y Gymdeithas ei hymrwymiad Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant newydd, mae mwy na hanner y Cymrodyr newydd yn fenywod.
Yn ymuno â nhw mae'r Athro Hannah Fry, sy'n dod yn Gymrawd er Anrhydedd diweddaraf y Gymdeithas.
Mae'r Athro Fry, y mae ei hymchwil yn ffocysu ar systemau cymdeithasol ac economaidd cymhleth, wedi sefydlu enw da am ei dull eithriadol o gyfleu materion gwyddonol, a defnyddio data a rhifau mewn ffyrdd hygyrch i archwilio realiti a phrofiad byw bywyd bob dydd.
Ochr yn ochr â diddordebau eang yr Athro Fry, mae arbenigeddau'r Cymrodyr newydd yn amrywio o seilwaith cerbydau trydan i becynnu bwyd a chlefyd y galon i gerddoriaeth "bop" yn y Gymraeg a llond gwlad o bethau eraill.
"Rwyf wrth fy modd gydag ehangder yr arbenigedd o safon fyd-eang sydd ymhlith ein Cymrodyr newydd," dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
"Mae'r ystod o arbenigeddau'n hynod ddiddorol ac ansawdd yr ymchwil yn eithriadol. Mae'n dangos faint o bobl arbennig y gall Cymru ymfalchïo ynddynt, bob un ohonyn nhw’n cyfrannu eu syniadau, eu hangerdd, a'u harbenigedd, ac yn dyfnhau ecosystem ein hymchwil er budd cymdeithas Cymru a’r tu hwnt.
"Nid yw Cymdeithas Ddysgedig Cymru fawr mwy na degawd oed ond rydym yn cyflawni rôl gynyddol yn yr ymdrech i greu amgylchedd cynhyrchiol a chefnogol ar gyfer ymchwil o'r radd flaenaf yng Nghymru, ac yn cyfrannu llais gwybodus mewn trafodaethau polisi.
"Rwy'n falch iawn o groesawu ein Cymrodyr newydd i'r Gymdeithas ac yn edrych ymlaen at eu cysylltiad gweithredol â ni dros y blynyddoedd nesaf."
Ychwanegodd Dr Calvert: "Mae'n anrhydedd cael fy ethol yn Gymrawd ac rwy’n edrych ymlaen at chwarae fy rhan drwy'r Gymdeithas i ysbrydoli eraill ar eu taith addysgol, hybu trafod, ac hyrwyddo arbenigedd."
Mae'r Cymrodyr newydd yn golygu bod gan y Gymrodoriaeth bellach 687 o aelodau.