Ffilmiau myfyrwyr yn cael eu cydnabod yng ngwobrau Cymdeithas Deledu Frenhinol Cymru
26 Ebrill, 2023
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2023/04-april/RTS_Cymru_awards.png)
Mae myfyrwyr Ffilm ac Animeiddio Cyfrifiadurol ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi ennill dwy wobr gan Gymdeithas Deledu Frenhinol Cymru, sy'n dathlu'r gorau o ran cynnwys a wnaed gan fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Cafodd pob un o’r chwe ffilm a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer y categorïau Myfyrwyr Animeiddio a Drama israddedig eu gwneud gan fyfyrwyr PDC, gyda Kirstie Murray-Dale yn ennill y teitl Animeiddio am ei ffilm, Morlyn Sbwriel (Litter Lagoon), a Dan McCadden yn ennill y teitl Drama am ei ffilm, Benighted.
Mae Morlyn Sbwriel yn stori hudolus am natur a chwedl, yn dilyn taith Dylan, bachgen bach direidus, dewr sy’n dod o hyd i bwll glan môr ac yn ei lenwi â theganau plastig – dim ond i ddarganfod bod y pwll glan môr, mewn gwirionedd, yn borth i ffau llawn sbwriel morwas anfodlon iawn.
Dywedodd Kirstie Murray-Dale, a gyfarwyddodd y ffilm: “Nod Morlyn Sbwriel yw dysgu plant am beryglon llygredd plastig yn ein cefnforoedd, a bod dewrder, caredigrwydd a chwilfrydedd yn nodweddion personoliaeth y mae angen i ni eu hannog fwyaf ymhlith plant.
“Roedd yn anrhydedd derbyn gwobr Animeiddio israddedig yr RTS ar ran fy nhîm.
"Fe wnaethon ni roi llawer iawn o amser, egni a chariad i greu’r ffilm hon, ac mae’r fath gydnabyddiaeth o’n hymdrechion yn sicr wedi rhoi hwb i’n hyder ac wedi rhoi cyfle i ni ddathlu!”
Mae Benighted wedi’i gosod ym 1940, ac mae’n archwiliad seicolegol i feddyliau milwyr ifanc oedd yn ymladd yn yr Ail Ryfel Byd, ac mae’n seiliedig ar adroddiadau o ddyddiaduron rhyfel a hunangofiannau.
Dywedodd Dan McCadden, a gyfarwyddodd Benighted: “Mae’r wobr hon yn fy llenwi â diolchgarwch am fy ngorffennol a gobaith ar gyfer y dyfodol. Roedd fy narlithydd, Nigel Orrillard, yn ganolog i ddarparu arweiniad ond yn bwysicach fyth yn ein hannog i roi cynnig ar rywbeth uchelgeisiol.
“Roedd y cast a’r criw mor benderfynol o gwblhau’r hyn oedd yn teimlo fel tasg anorchfygol; roedd yn heriol iawn drwyddi draw, ond rydym mor falch ohonom ein hunain am wneud y ffilm hon ac mae derbyn y wobr wedi ei gwneud yn werth chweil.”
Ychwanegodd Gareth Hutchinson, Arweinydd Cwrs BA (Anrh) Animeiddio Cyfrifiadurol yn PDC: “Mae’n bleser mawr cael y tair ffilm sydd ar restr fer gwobr Animeiddio Myfyrwyr RTS yn dod o’r un garfan o’n cwrs Animeiddio Cyfrifiadurol.
“Mae’n gyflawniad yr ydym mor falch ohono, sy’n dyst i’r ymdrech aruthrol gan staff a myfyrwyr i greu’r amgylchedd cydweithredol hudolus sy’n cynhyrchu gwaith o safon mor uchel gan dimau o fyfyrwyr hynod dalentog.
“Mae hefyd yn nodedig bod pob un o’r tri enwebiad hyn yn cael eu harwain gan gyfarwyddwyr benywaidd, mewn byd a oedd gynt wedi’i arglwyddiaethu llawer gormod gan ddynion. Boed iddo barhau!”
Dywedodd Dr Laura Stephenson, Arweinydd Cwrs BA (Anrh) Ffilm yn PDC: “Allwn i ddim bod yn hapusach gyda sut mae Gwobrau'r Gymdeithas Deledu Frenhinol wedi mynd eleni; roedd safon gwaith ein graddedigion diweddar mor uchel fel ein bod ni wedi tra-arglwyddiaethu ar yr enwebiadau ar gyfer y categori Drama, a daethom allan gyda buddugoliaeth haeddiannol i Benighted.
"Mae’n wych gweld myfyrwyr ffilm PDC yn cael cydnabyddiaeth ar ddechrau eu gyrfaoedd – dyma’r union anogaeth sydd ei angen ar lawer o wneuthurwyr ffilm i ddyfalbarhau mewn diwydiant cystadleuol.”