Menywod Cymru mewn STEM yn ymgysylltu mewn cynhadledd i roi hwb i’w gyrfaoedd
4 Ebrill, 2023
Dr Louise Bright
Yn ddiweddar, ymunodd dros 60 o fenywod sy'n gweithio mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, a mathemateg (STEM) ag arweinwyr o bob rhan o'r sector ar gyfer digwyddiad rhyngweithiol i gynyddu cyfleoedd personol a phroffesiynol yn y diwydiant.
Agorwyd y digwyddiad Menywod Cymru mewn STEM – gwneud i’ch llais gael ei glywed' gan Jane Hutt AoS, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Trefnwyd y digwyddiad gan Rwydwaith Menywod Cymru mewn STEM, sy'n cael ei arwain gan Dr Louise Bright, Cyfarwyddwr Gweithredol Ymgysylltu a Menter Prifysgol De Cymru. Mae'r Rhwydwaith yn darparu cymorth, digwyddiadau, a chyfleoedd rhwydweithio i wella cyfranogiad menywod mewn STEM ar bob cam gyrfa, o ddysgwyr ysgol i weithwyr proffesiynol yn y diwydiant ac arweinwyr ymchwil.
Ymhlith y siaradwyr allweddol yn y digwyddiad, yn cyflwyno sgyrsiau ysbrydoledig, roedd Rituja Rao, Rheolwr Cyflawni Technegol, Deliveroo; Sam Toombs, Cyfarwyddwr Cymru a'r De-orllewin, BT; Dr Emma Yhnell, Uwch Ddarlithydd, Prifysgol Caerdydd; Alice Gray , Uwch Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Caerdydd; Yamni Nigam - Athro Gwasanaeth Gofal Iechyd, Prifysgol Abertawe; Sam Carrier, Rheolwr ariannol Grŵp, BBC Cymru; a Marina Lois, Cyd-sylfaenydd, Bengo Media.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Stiwdio Betty Campbell ym mhencadlys BBC Cymru ynghanol Caerdydd, hefyd yn cynnwys taith o amgylch yr adeilad, gyda’r cynadleddwyr hefyd yn cymryd rhan mewn gweithdai ymarferol ar 'Frandio Personol'.
Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Dr Bright, "Gwnaeth Swyddfa Prif Ymgynghorydd Gwyddoniaeth Cymru gomisiynu ymchwil annibynnol i ystyried cydraddoldeb o ran rhywedd ym maes STEM yng Nghymru, a gadarnhaodd fod modelau rôl gweladwy yn bwysig. Nod y digwyddiad hwn oedd cefnogi menywod ym maes STEM i fod yn hyderus wrth gyfathrebu a chodi proffil y gwaith maen nhw’n ei wneud.
"Gwnaeth ein siaradwyr drafod pwysigrwydd arweinyddiaeth ddilys a thrugarog, yr heriau a ddaw o fod yn y lleiafrif, a gwerth cynghreiriad."
Mae grŵp Menywod Cymru mewn STEM yn agored i bawb yng Nghymru sy'n gweithio ym maes STEM ac yn cynnal cyfarfodydd rhwydweithio rheolaidd drwy'r flwyddyn. I gael gwybod mwy ewch i www.waleswomenSTEM.org.