Panel y Llywodraeth o arbenigwyr, yn cynnwys yr Athro Bailey o Brifysgol De Cymru, yn cyhoeddi canllawiau cyfergyd cyntaf i’r DU gyfan
28 Ebrill, 2023
Gwahoddwyd Damian Bailey, Athro Ffisioleg a Biocemeg a Chymrawd Ymchwil Wolfson y Gymdeithas Frenhinol, i fod ar banel arbenigol oedd â’r nod o geisio diogelu chwaraewyr llawr gwlad yn well rhag effeithiau anafiadau i'r pen a chyfergydion, a all fod yn hynod ddinistriol.
Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth y DU a'r Gynghrair Chwaraeon a Hamdden Ganllawiau cyntaf y DU gyfan ar Gyfergydion ar gyfer Chwaraeon llawr gwlad a fydd yn helpu chwaraewyr, hyfforddwyr, rhieni, ysgolion, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, a gweinyddwyr chwaraeon i adnabod, rheoli, ac atal y mater.
Mae'r canllawiau, a ddatblygwyd gan banel arbenigol o glinigwyr domestig a rhyngwladol ac academyddion mewn niwroleg a meddygaeth chwaraeon, yn nodi camau i wella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ynghylch atal a thrin cyfergydion mewn chwaraeon ar lawr gwlad lle mae gweithwyr meddygol proffesiynol hyfforddedig yn llai tebygol o fod yn bresennol fel arfer. Mae wedi ei dargedu at bobl o bob oed.
'Os oes amheuaeth, peidiwch â chwarae' yw'r is-bennawd, sy’n ei gwneud yn glir na ddylai unrhyw un ddychwelyd at chwaraeon o fewn 24 awr i gyfergyd posibl ac mae’n adeiladu ar ganllawiau sydd eisoes ar waith yn yr Alban.
Gofynnir i chwaraewyr, rhieni, hyfforddwyr, athrawon, a gweinyddwyr ddarllen y canllawiau ac ymgyfarwyddo â'r camau angenrheidiol i:
· ADNABOD arwyddion cyfergyd
· TYNNU unrhyw un yr amheuir ei fod wedi dioddef cyfergyd ar unwaith a
· DYCHWELYD yn ddiogel i weithgaredd addysg/gwaith dyddiol, ac, yn y pen draw, chwaraeon
Mae'r canllawiau'n cynnwys argymhelliad i ffonio GIG 111 o fewn 24 awr i gyfergyd posib, i orffwys a chysgu cymaint ag sydd ei angen am y 24 i 48 awr cyntaf ac osgoi defnyddio dyfeisiau sy'n cynnwys amser sgrîn.
Yn ogystal, cynghorir i bobl ddychwelyd yn raddol at weithgareddau fel gwaith, addysg a chwaraeon i leihau'r risg o gael adferiad mwy araf, anaf pellach i'r ymennydd a phroblemau mwy hirdymor. Dylai unigolion gael eu hasesu gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol os yw'r symptomau'n parhau am fwy na phedair wythnos.
Dywedodd yr Athro Bailey: "Trwy archwilio mecanweithiau ffisiolegol integredig, mae fy nhîm yn y Labordy Ymchwil Niwrofasgwlaidd wedi ffocysu ar fanteision ymarfer corff i’n hymennydd, a'r niwed a wneir drwy gyswllt ailadroddus. Mae'r canllawiau hyn yn cynnig argymhellion gwrthrychol ar sail tystiolaeth a fydd yn helpu i ddiogelu ein hymenyddiau ni i gyd, ar draws y sbectrwm oedran a gallu, fel y gallwn fyw bywydau hirach ac iachach".
Dywedodd Stuart Andrew, Gweinidog Chwaraeon Llywodraeth San Steffan: "Mae chwaraeon yn ein cadw ni'n iach ac yn egnïol, ond mae risgiau ynghlwm wrthynt, ac mae anafiadau mawr i'r pen yn gallu digwydd, ac yn digwydd.
"Mae ymchwil wedi dangos pwysigrwydd triniaeth gyflym ac effeithiol wedi'i theilwra ac rydym yn cyhoeddi canllawiau arbenigol i helpu pobl i adnabod a thrin anafiadau i'r pen.
"Boed yn cael eu defnyddio mewn canolfan hamdden leol yn ystod gwers nofio neu ar lawnt pentref yn ystod gêm griced, bydd y canllawiau’n gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl."
Mae'r gwaith hwn yn cyflawni ymrwymiad a nodwyd yng Nghynllun Gweithredu’r Llywodraeth ar Gyfergydion yn 2021 i gyflwyno dull cenedlaethol o atal cyfergydion ac anafiadau i'r ymennydd mewn chwaraeon, a gwneud hynny drwy gyfuniad o ymchwil well a thechnolegau newydd.
Daw yn sgil ffocws cynyddol ar effeithiau iechyd hirdymor andwyol anafiadau i’r ymennydd a chyfergydion drwy gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae hyn yn gysylltiedig â datblygiadau ym maes hyfforddi, offer, a thechnoleg, sydd wedi arwain at chwaraewyr cryfach a chyflymach, sydd wedi'u hyfforddi'n well, ar bob lefel.
Dywedodd yr Athro Chris Whitty, Prif Swyddog Meddygol Lloegr a Phrif Ymgynghorydd Meddygol Llywodraeth y DU: "Mae'r canllawiau hyn yn helpu chwaraewyr, dyfarnwyr, ysgolion, rhieni ac eraill i gydbwyso'r manteision iechyd a chymdeithasol sylweddol a’r mwynhad a ddaw o gymryd rhan mewn chwaraeon gyda lleihau effeithiau prin ond difrifol cyfergydion, y gallan nhw bara oes."