PDC ar y brig am ei gwaith yn cefnogi busnesau newydd graddedigion
26 Ebrill, 2023
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2023/04-april/networking.jpg)
Am y drydedd flwyddyn yn olynol, Prifysgol De Cymru yw'r sefydliad addysg uwch sy'n perfformio orau yng Nghymru o ran helpu busnesau graddedigion i ddechrau.
Mae ffigyrau gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn dangos mai PDC hefyd yw'r 11eg o blith 220 o brifysgolion ledled y DU ar gyfer cymorth busnes i raddedigion newydd – pe bai ond pum busnes newydd arall wedi’u creu, byddai ymhlith y 10 uchaf.
Yn 2021-22 rhoddodd PDC gymorth i 123 o fusnesau newydd gychwyn, cynnydd o 52% o'r 81 a helpodd yn 2020-21, a chynnydd sylweddol ar y 15 a gefnogwyd ddim ond saith mlynedd yn ôl yn 2015-16.
Mae'r ffigurau, sy'n dangos cynnydd yn nifer y graddedigion sy'n cael eu cefnogi gan PDC i ddechrau busnesau newydd, yn cyd-fynd ag agor trydedd Stiwdio Start-up y Brifysgol, gofod deori pwrpasol ar gyfer busnesau graddedigion PDC. Agorodd y Stiwdio gyntaf ei drysau ar Gampws Caerdydd PDC yn 2019, ac yna Stiwdio Campws Casnewydd yn 2022, a thrydedd Stiwdio yn agor ei drysau eleni ar Gampws Trefforest PDC.
Yn ôl Dr Louise Bright, (isod gyda Richie Turner) Cyfarwyddwr Gweithredol Ymgysylltu a Menter PDC, mae'r ffigyrau'n dangos sut mae ffocws y Brifysgol ar entrepreneuriaeth, a’i buddsoddiad ynddo, yn talu ar ei ganfed.
"Mae menter yn llinyn arian drwy bopeth a wnawn yn PDC ac rydym yn ffocysu ar ymwreiddio mentergarwch ymhob cwrs - ein strategaeth yw helpu ein myfyrwyr i ffynnu yn eu sectorau, a does dim ffordd well o’u cefnogi na thrwy eu helpu i sefydlu eu busnesau eu hunain mewn diwydiannau y maen nhw’n eu hadnabod yn dda.
"Mae'r gefnogaeth rydyn ni'n ei chynnig ar gael drwy PDC gyfan – yn amrywio o’r wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol sy’n cael eu haddysgu drwy ein cyrsiau, i'n hamserlen fywiog o weithdai busnes, sy’n cynnig cyfleoedd cyflwyno syniadau, rhwydweithio a phrofi’r farchnad. Mae cyllid ar gael hefyd ar gyfer cychwyn a thyfu busnesau, a bootcamps busnes arbenigol. Mae gennym Raglen Lansio 'cymhorthdal cyflog' arloesol ar gyfer gweithwyr llawrydd a chysylltiadau parhaus gydag arweinwyr busnes llwyddiannus, gyda chyn-fyfyrwyr yn eu plith, a darparwyr cymorth busnes. Rydym yn ddiolchgar dros ben am y cymorth parhaus gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a Gwasanaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru sydd wedi ein helpu i gyflwyno’r gweithgareddau hyn.
"Mae'r gweithgaredd hwn yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â thîm Menter gwasanaeth Gyrfaoedd PDC, ac mae cyngor busnes ar gael trwy gyfnewidfa PDC - sy'n cynnig mynediad i entrepreneuriaid at gymorth gan ein hacademyddion – sy’n cryfhau ein cynnig hyd yn oed ymhellach.
"Mae ffigyrau HESA yn dangos bod y sylfaen mae PDC yn ei roi i fusnesau newydd ar flaen y gad o fewn y sector, yn gryf ac yn ddibynadwy."
Mae gwaith Cyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol PDC yn amlwg ymhlith y busnesau newydd graddedigion sy’n sail i ffigurau HESA, yn cynrychioli 77% o'r mentrau newydd. Mae'r mwyafrif o'r rhain yn gweithredu yn y diwydiannau ffilm/teledu/cyfryngau a cherddoriaeth. Roedd mwy o fusnesau newydd gan raddedigion Cyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg PDC yn y ffigurau diweddaraf, cynnydd o 9 i 24, gyda nifer sylweddol o’r cyrsiau Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig a Therapi Cerdd. Roedd y gweddill yn cynnwys busnesau a sefydlwyd gan raddedigion o'r Gyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg, a Gwyddoniaeth.
Dywedodd Richie Turner, Rheolwr Cymunedol tair Stiwdio Start-up PDC, fod y gefnogaeth arbenigol mae’r cyfleusterau yn ei chynnig yn cyfoethogi gwaith entrepreneuraidd y Brifysgol ymhellach.
"Pan sefydlwyd y Stiwdio yng Nghaerdydd yn 2019, hi oedd deorydd busnes annibynnol cyntaf Cymru, gyda'r nod o annog a chefnogi entrepreneuriaeth ymysg ein graddedigion a’n cynfyfyrwyr, a chreu hafan ddiogel lle gallen nhw brofi a datblygu syniadau mentrus.
"Mae'n deg dweud iddi fod yn llwyddiant mawr, gyda busnesau sydd wedi dechrau yn y Stiwdio yn amrywio o fusnesau’n defnyddio droniau i arolygu i rai’n gweithio ym myd peirianneg sain, ac o fusnesau’n gweithio ar ddatblygiad cyfannol gôl geidwaid i rai’n darparu eitemau storio dis ar gyfer Dungeons and Dragons – y cyfan yn hynod amrywiol a diddorol.
"Mae'r Stiwdio yng Nghasnewydd yn mynd o nerth i nerth ac yn croesawu entrepreneuriaid newydd yn rheolaidd, ac mae safle Trefforest yn creu enw da iawn iddo’i hun fel man gwych i weld syniadau busnes graddedigion yn ffynnu.
"Mae’r hyn mae’r Stwidios yn ei gynnig – gan gynnwys cefnogaeth i entrepreneuriaid gan arbenigwyr o fusnesau allanol - ochr yn ochr â'r gefnogaeth fenter arall rydyn ni'n ei chynnig yma yn PDC, yn gyfuniad effeithiol a chryf."