PDC yn dysgu cwrs Saesneg arbenigol i academyddion o Wcráin

12 Ebrill, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Kharkiv_State_Academy_of_Physical_Culture_Ukraine.jpg

Mae tiwtoriaid Saesneg o Brifysgol De Cymru (PDC) wedi cyflwyno cwrs arbenigol i academyddion yn Academi Diwylliant Ffisegol Kharkiv (KSAPC) –  y brifysgol yn Wcráin sydd wedi'i gefeillio â PDC – i'w helpu i gynnal ymchwil ac i addysgu eu myfyrwyr.

Yn rhan o'r cytundeb gefeillio, sy'n cynnig cefnogaeth a solidariaeth i gydweithwyr a myfyrwyr y mae’r rhyfel yn Wcráin wedi effeithio arnyn nhw, dysgodd Canolfan Saesneg Rhyngwladol PDC gwrs ar-lein pum wythnos Saesneg at Ddibenion Academaidd (EAP) i ymchwilwyr a darlithwyr yn Kharkiv.

Roedd y tiwtoriaid Gunita Sapa a Gabby Albertelli yn cwrdd â'u cymheiriaid o Wcráin bob wythnos i'w helpu i ddysgu Saesneg, ac ymarfer, gyda phwyslais arbennig ar eiriau ac ymadroddion y byddai eu hangen arnyn nhw wrth ddysgu myfyrwyr neu ymchwilio yn eu meysydd arbenigol.

Dywedodd Viacheslav Mulyk, Rheithor [sy'n cyfateb i rôl Is-Ganghellor] Academi Diwylliant Ffisegol  Kharkiv: "Hoffwn ddiolch o galon am holl amser, ymdrech, ac ymroddiad Gunita, Gabby a'r tîm yn PDC yn dysgu Saesneg i’n hacademyddion.

"Mae gwybodaeth ac arbenigedd y tiwtoriaid wedi helpu ein staff academaidd i wella eu sgiliau iaith a bod yn gyfathrebwyr gwell. Rydyn ni’n gwerthfawrogi eu hamynedd a'u parodrwydd i fynd yr ail filltir i sicrhau bod ein hathrawon yn llwyr ddeall y cysyniadau a'r technegau sydd wedi eu dysgu iddyn nhw. Mae'r dulliau addysgu i gyd wedi bod yn effeithiol ac yn atyniadol, ac mae athrawon PDC wedi creu amgylchedd cefnogol a chyfeillgar i ddysgu ynddo."

Dywedodd Daria Okun (yn y llun uchod ar y chwith), Athro Cysylltiol Chwaraeon Olympaidd a Phroffesiynol yn KSAPC): "Hoffwn ddiolch i Gunita a  Gabby am y profiad, y wybodaeth a'r sgiliau a rannwyd ganddynt yn hael gyda ni. Diolch, PDC, am y cyfle i ennill gwybodaeth a sgiliau newydd mewn cyfnod mor anodd i'n gwlad."

Ychwanegodd Tetiana Gryneva (yn y llun uchod yn y ganol), Athro Cysylltiol Twristiaeth Chwaraeon yn KSAPC: "Roedd y cwrs yn ateb ein hanghenion yn berffaith. Wnaeth y tiwtoriaid ddim ein trin fel dysgwyr Saesneg traddodiadol, fe wnaethon nhw chwilio am dasgau a gwybodaeth arbennig i wella ein Saesneg academaidd."

Dywedodd Iryna Soina (yn y llun uchod ar y dde), Athro Cysylltiol Wcreineg ac Ieithoedd Tramor yn KSAPC: "Fe wnes i fwynhau mynychu dosbarthiadau Gunita yn fawr a dysgu manylion Saesneg Academaidd; Bydd y dosbarthiadau hyn yn fy helpu i drosglwyddo gwybodaeth wyddonol i fy myfyrwyr. Dysgais lawer hefyd am Gymru, ei diwylliant, ei phobl a'u hiaith frodorol. Rwy'n ddiolchgar iawn i Gunita a Gabriella am y dosbarthiadau ardderchog, a byddaf yn gweld eu heisiau’n fawr iawn!”

Dywedodd Gunita: "Roedd yn brofiad anhygoel dysgu'r grŵp hwn o academyddion. Rwyf mor ddiolchgar am y cyfle gan i fi gyfarfod pobl mor ysbrydoledig! Fe wnaethon ni chwerthin, rhannu ein barn a'n profiadau a bondio dros gyfnod y gwersi."

Ychwanegodd Gabby: "Rwy’n hynod ffodus fy mod wedi cael cyfle i dreulio amser gyda chydweithwyr o Kharkiv dros y pum wythnos diwethaf. Roedd yn un o uchafbwyntiau fy mhrofiad addysgu;  profiad gwerth chweil i'r academyddion o Wcráin ac i finnau."