PDC yn ennill Coleg Sector Cyhoeddus y Flwyddyn mewn gwobrau cenedlaethol

25 Ebrill, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/PQ_Awards_2023_Public_Sector_College_of_the_Year.jpg

Y darlithwyr Cyfrifeg Joanna Howell a Rosemary Eaton yng Ngwobrau Cylchgrawn PQ 2023

Mae Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol De Cymru wedi’i henwi’n Goleg Sector Cyhoeddus y Flwyddyn – am y pedwerydd tro – yng Ngwobrau PQ Magazine.

Mae PQ Magazine yn deitl cenedlaethol sydd wedi'i anelu at gyfrifwyr â chymwysterau rhannol, ac mae ei wobrau blynyddol mawreddog yn cydnabod y sefydliadau, athrawon, deunyddiau, myfyrwyr a llwyfannau dysgu gorau ym maes addysg gyfrifeg broffesiynol.

Enillodd PDC yr un wobr yn 2010, 2012 a 2016, yn ogystal â gwobr Darlithydd y Flwyddyn yn 2021, a aeth i Rebecca Wright, uwch ddarlithydd mewn Cyfrifeg Broffesiynol.

Mynychodd Joanna Howell a Rosemary Eaton, o dîm addysgu Cyfrifeg a Chyllid PDC, y seremoni wobrwyo neithiwr (24 Ebrill) yn Llundain.

Cyrhaeddodd y Brifysgol y rhestr fer ochr yn ochr â Choleg Caerdydd a’r Fro, Prifysgol Newcastle, Prifysgol Lerpwl a Phrifysgol Winchester, a chafodd ganmoliaeth am ei gwaith yn hyfforddi myfyrwyr ACCA (Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig) o bedwar ban byd.

Dywedodd Dr Jared Davies, Pennaeth Cyfrifo a Chyllid PDC: “Mae’n anrhydedd i ni ennill y wobr hon am y pedwerydd tro. Mae’n dyst i’r gwaith caled, y rhagoriaeth addysgu a’r gofal myfyrwyr a ddarperir gan ein darlithwyr.

“Yn ystod haf 2022, crëwyd maes pwnc Cyfrifeg a Chyllid cyfun newydd yn y Brifysgol a ddaeth â holl arbenigedd cyrsiau cyfrifeg israddedig, ôl-raddedig a phroffesiynol ynghyd. Rwy’n hynod falch o’n tîm sy’n gweithio ar draws ein campysau yn Nhrefforest a Chasnewydd, gan sicrhau ein bod yn darparu cyrsiau rhagorol i’n myfyrwyr o israddedigion Blwyddyn Un i rai cwbl broffesiynol (ac ôl-raddedig).

“Mae uchafbwyntiau ein darpariaeth yn cynnwys nifer sylweddol o eithriadau gradd israddedig; Tystysgrif Sage CIMA; datblygu sgiliau uwch ym meysydd cyfrifeg fforensig, fintech, trethiant digidol a masnachu gwarantau; prosiectau busnes byw gyda phartneriaid lleol; rhaglenni gradd Meistr arloesol, blaengar; hyfforddiant cymhwyster proffesiynol sydd wedi cynhyrchu pedwar enillydd gwobr ACCA ‘gorau yn y byd’ rhwng 2019 a 2022, ac ymgysylltu parhaus â chyrff proffesiynol a chyflogwyr lleol a chenedlaethol.”