PDC yn noddi Marathon a 10k Casnewydd Cymru ABP 2023
6 Ebrill, 2023
Bydd Prifysgol De Cymru (PDC) yn noddwr swyddogol ar gyfer Marathon a 10K Casnewydd Cymru ABP eleni.
Bydd y rasys, a gynhelir ddydd Sul 16 Ebrill 2023, yn dechrau ac yn gorffen o flaen Campws Casnewydd PDC.
Bydd y llwybrau’n mynd heibio rhai o dirnodau mwyaf eiconig y ddinas, gan gynnwys Pont Gludo Casnewydd, a byddant yn parhau i Wastadeddau Gwent cyn gorffen yn ôl ar Gampws Casnewydd. Ar lan yr afon, mae'r campws yn gartref i gymuned ddysgu sy'n ymroddedig i bobl, technoleg a busnes, o gwnsela i seiberddiogelwch, ac o addysg i ddeallusrwydd artiffisial. Mae'r campws hefyd wedi'i gynnwys ar ddyluniad y medalau a'r crysau-t a fydd yn cael eu gwisgo gan redwyr ar y diwrnod.
Ystyrir y digwyddiad, a fydd yn cael ei gyflwyno gan Run4Wales, yn ffefryn mawr yng nghalendr rhedeg Cymru ac mae'n cynnwys un o'r cyrsiau mwyaf gwastad yn y DU.
Dywedodd Matt Newman, Prif Weithredwr Run4Wales: “Rydym wrth ein bodd bod Prifysgol De Cymru unwaith eto yn cefnogi’r digwyddiad fel Partner Swyddogol.
"Mae eu Campws yng Nghasnewydd wrth galon ein digwyddiad, fel y tirnod mawr cyntaf ac olaf ar y llwybrau marathon a 10K. Mae’n gartref i lu o weithgareddau cymunedol sy’n digwydd ochr yn ochr â’r rasys.”
Dywedodd Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor PDC, “Rydym yn falch iawn o fod yn noddwr swyddogol unwaith eto ar gyfer Marathon a 10k Casnewydd Cymru ABP.
"Mae hwn yn ddigwyddiad gwych, sy'n dod â rhedwyr o bob rhan o'r byd i Gasnewydd. Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan ohono."