Stephen Lawrence: sut daeth swyddogion cyswllt teuluoedd yn rhan annatod o blismona yn sgil ei lofruddiaeth
21 Ebrill, 2023
Gan yr Athro Fiona Brookman
Cafodd Stephen Lawrence ei lofruddio ar 22 Ebrill 1993 mewn ymosodiad hiliol direswm gyda chyllell yn ne Llundain. Dim ond deunaw oed oedd Stephen. Roedd wedi bod yn disgwyl am fws gyda'i ffrind, Duwayne Brooks. Cafodd ei amgylchynu gan grŵp o bump neu chwe pherson ifanc gwyn, a gwnaeth o leiaf un ohonyn nhw ei drywanu i farwolaeth. Bron i 20 mlynedd yn ddiweddarach yn 2012, cafwyd dau ddyn yn euog o lofruddiaeth Stephen.
Ysgogodd y llofruddiaeth a'i ganlyniadau gyfres o newidiadau i ymchwiliadau'r heddlu, yn fwyaf arbennig o ran cyswllt â theuluoedd. Daeth yr ymchwiliad cyhoeddus a ddilynodd i benllanw gydag adroddiad Macpherson yn 1999. Datgelodd hyn fethiannau mawr yn ymchwiliad yr heddlu a'r ffordd y cafodd teulu Stephen a'i ffrind eu trin.
Roedd hiliaeth ac ymateb yr heddlu i droseddu wedi eu hysgogi gan hiliaeth yn rhan fawr o ymchwiliad Stephen Lawrence. Roedd ynddo hefyd argymhellion newydd ynghylch y ffordd mae'r heddlu'n delio â theuluoedd pobl sydd wedi cael eu llofruddio.
Defnyddiwr y geiriau "cyswllt â theuluoedd" 136 o weithiau yn Adroddiad Macpherson. A disgrifiwyd methiannau o ran cyswllt â’r teulu fel "un o elfennau mwyaf trist a gresynus yr achos". Cafodd rhieni Stephen, Doreen a Neville, eu trin yn nawddoglyd ac yn ansensitif a chafodd gwybodaeth am yr ymchwiliad, yr oedd ganddyn nhw hawl iddi, mo’i rhoi iddyn nhw.
Yn naturiol, felly, gwnaeth yr ymchwiliad lawer o argymhellion ynglŷn â chyswllt â theuluoedd. Roedd y rhain yn cynnwys sicrhau bod swyddogion cyswllt teuluoedd (SCTau) ar gael ar lefel leol, yn gweithio ar achos penodol a heb gael eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau eraill ar yr un pryd. Argymhellodd hefyd fod hyfforddiant SCTau yn cynnwys ymwybyddiaeth o hiliaeth ac amrywiaeth.
Dywedodd argymhelliad arall ei bod yn "dyletswydd gadarn" ar yr heddlu i roi "pob gwybodaeth bosib i deuluoedd am y drosedd dan sylw a'r ymchwiliad iddi". Yng nghyd-destun yr oes oedd ohoni, roedd hyn yn newid enfawr yn niwylliant ymchwilio’r heddlu. Roedd ditectifs wedi arfer penderfynu ar yr hyn roedd angen i deuluoedd ei wybod. Nawr roedd yn rhaid iddyn nhw ddilyn yr hyn roedd teuluoedd ei angen ac yn ei ddewis.
Roedd yr argymhellion SCT i’w gweithredu’n syth a symudodd yr Heddlu Metropolitan bron ar unwaith i gyfnod lle roedd cyrsiau hyfforddi’n cael eu cynnal bob wythnos yng Ngholeg Heddlu Hendon.
Mae rôl y SCT bellach yn rhan annatod o ymchwiliadau llofruddiaeth ac mae'n un o'r rolau cyntaf i'w llenwi pan fydd ymchwiliad yn dechrau. Mae iddi ddiben deublyg.
Yn gyntaf, mae SCTau yn ymchwilwyr hyfforddedig sy'n casglu, ac yn helpu i asesu perthnasedd, unrhyw wybodaeth y gall perthnasau ei darparu i ymchwiliad. Yn ail, mae'r SCTau yn bont rhwng y teulu a'r ymchwiliad. Maen nhw'n sicrhau bod y teulu'n deall y broses ac yn cael cynifer o fanylion ag y gellir eu rhannu ynghylch cynnydd yr ymchwiliad.
Mae'r SCT yn helpu i baratoi'r teulu ar gyfer yr hyn sydd, yn anochel, yn brofiad trawmatig, ac yn eu cefnogi drwy adegau pwysig fel cynadleddau i'r wasg, apeliadau, a'r achos llys ei hun. Mae'r rôl yn gofyn am arbenigedd a sensitifrwydd mawr ac, wedi'i chyflawni’n iawn, gall helpu i adnabod llofruddion a gwella ymddiriedaeth a ffydd yn yr heddlu.
Mae swyddogion cyswllt teuluoedd hefyd wedi bod yn amhrisiadwy mewn digwyddiadau eraill gartref a thramor. Er enghraifft, defnyddiwyd SCTau yn dilyn damwain rheilffordd Ladbroke Grove ym mis Hydref 1999, ymosodiadau 11 Medi yn Efrog Newydd yn 2001 a Tswnami Dydd San Steffan 2004 yng nghefnfor yr India.
Hyfforddiant
Fodd bynnag, mae mwy y gellid ac y dylid ei wneud i asesu'n barhaus a yw heddluoedd yn defnyddio SCTau yn briodol ac yn y ffordd orau. Mae hyfforddi SCTau yn rheolaidd yn bwysig i gynnal a gwella'r rôl, ac mae paru SCTau yn ofalus â theuluoedd hefyd yn hanfodol. Mae hyn yn sicrhau bod amrywiaethau cymdeithasol, demograffig a diwylliannol yn cael eu cydnabod ac y gall SCTau ymgysylltu'n effeithiol â'r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.
Mae'n bwysig cydnabod hefyd y gall bod yn swyddog cyswllt teuluoedd fod yn brofiad dwys a dirdynnol ac felly mae'n angenrheidiol bod yr heddlu’n gofalu am y rhai sy'n gwirfoddoli i ymgymryd â'r rôl hon, ac a’u bod yn cael eu cydnabod am eu gwaith.
Dylai teuluoedd a chymunedau gael cyfle i asesu a yw'r heddlu'n defnyddio SCTau yn y ffordd orau bosibl. Byddai cynnal cyfweliadau gyda theuluoedd ar ddiwedd ymchwiliad yn un ffordd o gyflawni hyn.
Yn drist iawn, dim ond ar ôl llofruddiaeth Stephen Lawrence y daeth y math hwn o blismona i gael ei gydnabod fel hawl ddiymwad i deuluoedd mewn profedigaeth. Mae'n ddyletswydd nawr ar yr heddlu i sicrhau bod cyswllt â theuluoedd yn parhau'n flaenoriaeth ac yn derbyn yr adnoddau priodol.
Ailgyhoeddir yr erthygl hon o The Conversation dan Drwydded Creative Commons. Darllen yr erthygl wreiddiol.