Sut gallai dronau a data helpu gydag adfer ar ôl trychinebau

28 Ebrill, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Drone_flying.jpg

Gallai ymchwil sy'n cael ei wneud ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) helpu i achub bywydau mewn ardaloedd y mae trychinebau naturiol wedi effeithio arnyn nhw.

Gallai’r gwaith gan y myfyriwr PhD Mthabisi Adriano Nyathi; yr Athro Cysylltiol Ymchwil a Datblygu Dr Jiping Bai; a'r Athro Cysylltiol Dr Ian Wilson sy'n arbenigo mewn Deallusrwydd Artiffisial,  hefyd helpu i leihau cost monitro strwythurau hanfodol, megis pontydd, rheilffyrdd, twneli, adeiladau, ac argaeau yn sylweddol.

Mae'r prosiect yn defnyddio deallusrwydd artiffisial (DA) i wella proses o'r enw monitro iechyd strwythurau (MIS), lle mae peirianwyr  yn gwerthuso strwythurau dros amser i sicrhau eu bod yn dal yn gadarn, heb berygl methu.

Eglurodd Mr Nyathi, sydd â gradd Peirianneg Sifil o Brifysgol Pretoria a Gradd Meistr mewn Peirianneg Sifil a Strwythurol o PDC, sut mae'r system yn gweithio.

"Mewn peirianneg sifil, gall strwythurau ddirywio dros amser oherwydd diffyg cynnal a chadw, sy'n gallu arwain at leihau integriti strwythurol a pheri iddyn nhw fethu yn y pen draw," dywedodd.

"Drwy fonitro iechyd strwythurau (MIS), mae strwythurau hanfodol - fel pontydd, rheilffyrdd, twneli, adeiladau, ac argaeau - yn cael eu harchwilio a’u monitro i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn ddibynadwy.

"Gall hyn atal methiannau trychinebus a allai arwain at ganlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol, ac economaidd difrifol, a marwolaethau hyd yn oed."

Fel arfer, mae MIS traddodiadol yn cynnwys cyfuniad o arolygiadau gweledol, wedi’u gwneud ar y safle gan beirianwyr neu arbenigwyr cymwys, sy'n chwilio am arwyddion o ddirywiad neu ddifrod, megis craciau, cyrydiad, neu anffurfiad. Gellir dilyn hyn gan brofion labordy. Gall y dulliau hyn fod yn ddrud, yn anghyson, ac efallai na fyddan nhw’n darparu data amser real.

Mae prosiect PDC wedi bod yn ceisio datblygu dull MIS arloesol drwy ddefnyddio technegau DA cyflym i adnabod diffygion, difrod, neu fethiannau posibl a allai ddigwydd.

"Trwy fonitro ac asesu integriti strwythurol yn barhaus, gallwn wneud atgyweiriadau prydlon ac ôl-ffitio’r strwythurau presennol, ac felly ymestyn oes y strwythurau hanfodol hyn, gan fynd i'r afael â'r heriau a achosir gan y newid yn yr hinsawdd a chreu dyfodol mwy gwydn i'n cymunedau," dywedodd  Dr Bai.   

"Pan fydd trychinebau naturiol, fel daeargrynfeydd, yn taro,  byddai’r gallu i fonitro strwythurau o bell yn fanteisiol mewn sawl ffordd" ychwanegodd Dr Wilson.

"Gellid defnyddio'r system o bellter diogel, gallai arbenigwyr ymhell o'r ardal fesur unrhyw ddifrod a gofynion trwsio, neu roi cyngor ynghylch a oes angen cyfyngu ar fynediad i strwythurau anniogel - gallai'r system gael ei defnyddio mewn llawer iawn o ffyrdd."

Placeholder Image 2

Bu gan Mr Nyathi ddiddordeb ers talwn iawn mewn defnyddio rhaglenni cyfrifiadurol datblygedig mewn peirianneg sifil a strwythurol, ac roedd am ddefnyddio ei PhD i edrych yn fanylach ar sut gall DA wneud y broses MIS yn gyflymach, yn fwy diogel, ac yn fwy cadarn.

"Mae ’na lawer o drafod am DA – peth ohono’n llawn cyffro, peth yn amau ei ddiogelwch a’i foesoldeb – ond os yw'n cael ei ddefnyddio'n gyfrifol fe allai gael effeithiau economaidd-gymdeithasol cadarnhaol," dywedodd.

Mae'r prosiect eisoes wedi cael derbyniad da.  Dyfarnwyd gwobr Cyflwyniad Poster Gorau i Mr Nyathi yn Niwrnod Cyflwyniadau Ymchwilwyr Ôl-radd PDC y  llynedd, a chyflwynodd y tîm ddau bapur yn y bedwaredd Gynhadledd Ryngwladol ar ddeg ar Dechnoleg Gyfrifiadurol Strwythurau a’r unfed Gynhadledd Ryngwladol ar ddeg ar Dechnoleg Gyfrifiadurol Peirianneg ym Montpellier, Ffrainc, ym mis Awst y llynedd.