Tîm monitro aer PDC o fewn trwch blewyn i ennill gwobr ryngwladol

3 Ebrill, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Air_monitor_1.jpg

Robert Tipping, Peiriannydd Ymchwil; Dr Leshan Uggalla, ac Adam Jones, Rheolwr y Prosiect Ymchwil

Bu prosiect dan arweiniad darlithydd o Brifysgol De Cymru (PDC) bron iawn ag ennill gwobr ryngwladol fawr.

Cafodd tîm roedd Dr Leshan Uggalla yn ei arwain ei drechu o drwch blewyn yn y Gwobrau Effaith mewn Cymdeithas, a gyflwynwyd gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET), am eu gwaith yn datblygu dull cost-effeithiol a dibynadwy o fonitro ansawdd aer.

Roedd y gwobrau wedi’u rhannu’n dri chategori - Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd: sicrhau dyfodol di-garbon; Bywydau iach: byw gyda chymorth, roboteg, ac ati; a Dyfodol Digidol: hyrwyddo moeseg ac ymddiriedaeth broffesiynol – a bu cystadleuwyr o bedwar ban byd.

Yn yr adran Bywydau Iach, roedd prosiect PDC yn cystadlu yn erbyn dau dîm, un yn Nigeria a'r llall ym Malaysia, gydag aelodau'n gweithredu yn Ewrop, Affrica, Asia a'r UDA. Y tîm o Nigeria ddaeth i’r brig yn y categori, am eu gwaith yn sicrhau llwyddiant prosiect telefeddygaeth.

Cafodd y monitor aer ei ddatblygu ar ôl i dîm PDC ddechrau pryderu am yr effaith y gall llygredd wrth  ochr y ffordd ei chael ar iechyd y cyhoedd, yn enwedig disgyblion ysgol, wrth gerdded gerllaw traffig prysur. Cafodd y prosiect gymorth gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Arloesedd Anadlol Cymru (AAC), a Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI).

"Cafodd y ddyfais ei dylunio i fod yn ddigon rhad i'w rhoi mewn amrywiaeth o leoliadau, ac i gael ei monitro'n hawdd er mwyn sicrhau bod y data ar gael yn rhwydd," dywedodd Dr Uggalla.

"Roedd monitorau aer yn gallu bod yn ddrud iawn gynt, a dim ond ar gael i gofnodi data am nifer benodol o ddyddiau neu wythnosau cyn cael eu symud i leoliadau eraill i gofnodi darlleniadau. Gall y ddyfais hon, fodd bynnag, gael ei gosod yn hawdd, heb lawer o waith cynnal a chadw, am gost lawer iawn llai, a gellir casglu a delweddu'r data yn hawdd iawn trwy rwydweithiau a dyfeisiau clyfar.

"Mae hyn yn golygu y gallan nhw aros yn eu lle am gyfnod llawer hirach a chasglu llawer iawn mwy o wybodaeth, gan roi cyfle i awdurdodau ddeall ble mae’r problemau, a rhoi rhagor o fanylion i lunwyr polisïau ynghylch yr hyn y gallai fod angen ei wneud i fynd i'r afael â phroblemau llygredd aer."

Ar ôl cael eu rhoi ar restr fer y wobr derfynol, dywedodd Dr Uggalla: "Yn gyntaf oll, hoffem longyfarch yr enillwyr a phawb gafodd le ar y rhestri byr ymhob categori am eu gwaith gwych hyd yn hyn.

"Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer gan fod hyn yn gydnabyddiaeth ragorol o effaith ein prosiect ar gymdeithas a gwaith caled holl bartneriaid ac aelodau’r tîm.

"Byddwn yn parhau â'n gwaith ac rydyn ni’n ddiolchgar i Brifysgol De Cymru a'r holl bartneriaid, Llywodraeth Cymru, Cyngor Rhondda Cynon Taf (RhCT), Arloesedd Anadlol Cymru (AAC), a Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru, am eu cyfraniad gwych at y prosiect.

"Yn olaf, diolch o galon i IET am drefnu'r digwyddiad."