Disgyblion benywaidd yn cael blas o gyfleoedd yn y sector seiber

3 Gorffennaf, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/20230630_111937.jpg

Mae merched Blwyddyn 10 o ysgolion ledled De Cymru wedi cymryd rhan mewn digwyddiad i'w hannog i ystyried gyrfaoedd ym maes seiber.

Cynhaliodd Prifysgol De Cymru (PDC) y digwyddiad ar ei Champws Casnewydd, yn rhan o'i gwaith yn arwain prosiect CyberFirst yng Nghymru. Mae CyberFirst yn cael ei redeg gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC), sy'n rhan o'r GCHQ sy'n cael ei redeg gan y Llywodraeth, ac fe'i crëwyd i helpu pobl ifanc i archwilio eu hangerdd am dechnoleg trwy eu cyflwyno i fyd cyflym a chyffrous seiberddiogelwch.

Roedd yr ysgolion a oedd yn bresennol naill ai'n ysgolion â dyfarniad CyberFirst, neu ysgolion bwydo colegau Cymru sydd â’r dyfarniad CyberFirst, sef Ysgol Uwchradd Caerdydd, Corpus Christi, a Choleg Sant Ioan, yng Nghaerdydd; ac Ysgol Uwchradd Bishop Hedley ym Merthyr Tudful.

Mae gan yr ysgolion hyn fynediad at galendr o ddigwyddiadau CyberFirst gyda'r nod o gynyddu maint ac amrywiaeth eu carfannau Cyfrifiadureg fel rhan o'u statws CyberFirst, wedi’i ddyfarnu gan yr NCSC drwy'r prosiect CyberFirst yng Nghymru. Mae pob ysgol a choleg yng Nghymru yn cael eu hannog i wneud cais am y dyfarniad hwn.'

Dywedodd Holly Marie-Lidbury, Arweinydd Prosiect CyberFirst PDC: "Nod y digwyddiad hwn oedd rhoi blas i'r merched o'r hyn sydd gan y sector seiber i'w gynnig a'u hannog i aros ar y llwybr cyfrifiadureg at addysg uwch ac addysg bellach.

"Rydym yn aml yn gweld lleihad mewn diddordeb yn y pwnc gan ferched ar ôl TGAU, yn aml oherwydd mai nhw yw'r unig ferch, neu mewn lleiafrif yn y dosbarth, ac yna gallant ymddieithrio.

"Nod y digwyddiad oedd dangos i'r merched fod cymuned o ferched eraill â diddordebau a phrofiadau tebyg, ac nad oes rhaid iddyn nhw deimlo ar eu pennau eu hunain yn y maes."

Roedd siaradwyr y digwyddiad yn cynnwys Clare Johnson, ymgynghorydd galluedd seiber yn Itsus Consulting yng Nghaerdydd, a sylfaenydd Women in Cyber Wales, a ddangosodd sut mae amrywiaeth meddwl a barn yn hanfodol i seiber, a chafodd y rhai oedd yn bresennol, wybod hefyd am y grŵp 'Menywod Ifanc mewn Seiber Cymru' ar gyfer merched 16-25 oed, sy'n rhwydwaith ar gyfer menywod ifanc sy'n gweithredu yn y sector.

Daeth cynrychiolwyr partneriaid diwydiannol CyberFirst - Bridewell Consulting, PWC ac Airbus - hefyd i sôn am eu taith at seiber a sut mae sgiliau’n yn maes hwnnw’n ychwanegu at eu sylfaen sgiliau a'u diddordebau eraill, ac roedd academyddion seiberddiogelwch ac arbenigwyr eraill wrth law i roi cyngor ar ffyrdd o fynd i mewn i'r diwydiant.

"Rhan bwysicaf y diwrnod oedd dod â llawer o ferched at ei gilydd ar gyfer y digwyddiad, felly, hyd yn oed os mai nhw yw'r lleiafrif yn eu hystafell ddosbarth eu hunain, roedd hwn yn gyfle cwrdd â merched eraill ledled De Cymru sy'n cael yr un profiad," ychwanegodd Holly.

"Roedden ni hefyd yn gallu dangos iddyn nhw sut mae cyfrifiadureg a seiber yn cysylltu â'u sgiliau a'u diddordebau eraill, a sut nad oes angen iddyn nhw wneud dewis rhwng cyfrifiadura a llwybrau eraill - maen nhw'n gallu astudio'r pethau hyn gyda'i gilydd, gan wella'r ddau.

"Hoffem ddiolch i'r holl sefydliadau a gefnogodd y digwyddiad ac am ddarparu modelau rôl anhygoel i'r merched a ddaeth ynghyd."