Dyfarnu Cymrodoriaeth er Anrhydedd i’r Paralympiad dwbl Pippa Britton OBE
21 Gorffennaf, 2023
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2023/07-july/news-honorary-pippa-britton.png)
Mae Pippa Britton OBE, y Paralympiad Dwbl a Phencampwr y Byd ddwywaith, wedi derbyn cymrodoriaeth er anrhydedd gan Brifysgol De Cymru (PDC).
Mae Pippa wedi cael gyrfa sydd wedi torri record, a hi yw saethwr mwyaf llwyddiannus Cymru, gan orffen ar y podiwm mewn chwe Phencampwriaeth y Byd para-saethyddiaeth yn olynol a chynrychioli Cymru mewn cystadlaethau i bobl nad ydynt yn anabl dros 20 o weithiau. Yn ystod ei gyrfa derbyniodd lawdriniaeth asgwrn cefn mawr ddwywaith ac mae wedi defnyddio'r profiadau hyn fel ffordd o ysbrydoli eraill.
Ers hynny mae Pippa wedi ymddeol o gystadlu ond mae wedi defnyddio ei phrofiad fel ffordd o roi yn ôl, dod yn siaradwr ysgogol, a chamu i rôl Is-gadeirydd ar wahanol fyrddau gan gynnwys ar gyfer Chwaraeon Cymru, ymgyrch Gwrth Gyffuriau’r DU, a Chymdeithas Paralympaidd Prydain.
Mae Pippa hefyd yn llysgennad elusen, BRIT, sy'n darparu cymorth ar gyfer iechyd meddwl oedolion ifanc yn y DU. Trwy BRIT, mae Pippa yn cynrychioli sefydliadau addysgol Cymru, gan gynnwys Prifysgol De Cymru.
Derbyniodd Pippa OBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin 2023.
Cyflwynwyd yr anrhydedd i Pippa yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru Casnewydd (ICC Cymru) ddydd Iau 20 Gorffennaf.
Dywedodd Pippa: “Rwy’n falch iawn ac mae’n anrhydedd mawr i gael fy nghymrodoriaeth er anrhydedd gan Brifysgol De Cymru a chael fy nghydnabod nid yn unig am fy ngyrfa chwaraeon, ond am fy ngwaith parhaus yn y sector chwaraeon ac iechyd.
“Rydw i bob amser eisiau bod y gorau yn yr hyn rydw i'n ei wneud ac rydw i'n ddigon ffodus nawr i wneud yr hyn rydw i'n ei wneud orau, er budd eraill. Os oes gen i neges, yr hyn fyddai yw na ddylech adael i'ch gorffennol eich diffinio chi, gweithiwch yn galed a breuddwydio pethau mawr ac addasu i'r holl newidiadau y mae bywyd yn eu taflu atoch chi. Cofiwch chwerthin yn aml a pheidiwch byth â rhoi’r gorau iddi pan fydd gennych nod i weithio tuag ato.”