Gwobrau Athrawon a Chynghorwyr PDC 2023

14 Gorffennaf, 2023

Olivia Sills, Timothy Raggett, Bethan Howell, Deborah Crockett and Lucinda Coultas holding star-shaped trophies in front of a white backdrop with USW logo tiles and a red wall

Mae enillwyr trydedd flwyddyn Gwobrau Athrawon a Chynghorwyr Prifysgol De Cymru (PDC) wedi’u cyhoeddi.

Mewn digwyddiad a gynhaliwyd ar Gampws Pontypridd PDC, dyfarnwyd y gwobrau i athrawon a chynghorwyr o ysgolion uwchradd a cholegau ar draws y DU sydd wedi dangos rhagoriaeth mewn pedwar categori yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Derbyniodd pob enillydd wobr o £500 tuag at DPP a/neu fentrau lles staff yn eu hysgol neu goleg.

Dywedodd Sera Evans, Cyfarwyddwr Cyswllt Recriwtio Myfyrwyr y DU PDC: “Cawsom ymateb gwych i’r gwobrau, gyda dros 50 o enwebiadau. Mae’r cyflwyniadau ar gyfer y gwobrau yn dangos bod gennym ni rai pobl wirioneddol ysbrydoledig ar draws y DU sy’n gweithio’n ddiflino i helpu’r genhedlaeth nesaf i gyflawni eu llawn botensial.

“Roedd yn anodd dewis enillwyr yn y categorïau, heb fawr o ddewis rhwng yr enwebeion.

“Er mai dim ond un enillydd sydd ym mhob categori a dau â chanmoliaeth uchel, roedd yr holl ymgeiswyr yn enillwyr, ac mae’r disgyblion a’r myfyrwyr y maent yn eu cefnogi yn elwa bob dydd o’u hymrwymiad i ragoriaeth. Rydym yn canmol eu gwaith caled a’u hymroddiad.”

Yn y categori Cymorth Bugeiliol a Lles Eithriadol, enillodd Ceri Bailey, sy’n dysgu yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, y wobr.

Amlygodd yr enwebiad ei hymroddiad i'r ysgol a'i disgyblion.

Dywedwyd ei bod yn “dysgu gyda charedigrwydd, cydraddoldeb a pharch”. “Ceri yw’r un athrawes honno y galla’ i wastad fynd ati os ydw i’n poeni am unrhyw beth hyd yn oed os nad yw’n ymwneud â’r ysgol.

“Mae cymaint o bethau da i’w ddweud amdani na ellir ei roi mewn geiriau. Mae hi wir yn haeddu’r wobr hon i ddangos cymaint rydym yn gwerthfawrogi ei haddysgu a’i charedigrwydd tuag at fyfyrwyr.”

Yn y categori Cefnogi Dilyniant i Addysg Uwch, cafodd Deborah Crockard, sy’n Ddarlithydd Biowyddoniaeth ym Mharth Dysgu Torfaen, Coleg Gwent, ei henwi’n enillydd.

“Mae Debbie yn mynd gam ymhellach,” meddai’r enwebiad.

“Mae hi’n gwneud profiadau dysgu mor gadarnhaol ac yn rhoi anogaeth a hyder i’w myfyrwyr. Mae hi'n newid bywydau."

Enillydd y categori Arloeswr Digidol y Flwyddyn oedd Olivia Sills, Arweinydd TAR a Hyfforddwr Addysgu a Dysgu yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, y tynnwyd sylw at ei meddylfryd creadigol yn yr enwebiad.

“Mae Olivia bob amser yn meddwl y tu allan i’r bocs ac yn mynd allan o’i ffordd i gefnogi ei dysgwyr trwy ddefnyddiau addysgeg digidol arloesol ac effeithiol,” meddai’r enwebiad.

“Mae hi’n mynd gam ymhellach, gydag unrhyw beth a ofynnir ohoni, ac mae ei hangerdd, brwdfrydedd a natur agored i archwilio yn ei gwneud hi’n ymgeisydd delfrydol ar gyfer y wobr hon. Byddem ar goll hebddi.”

Enillwyd gwobr Athro neu Gynghorydd Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn gan Timothy Raggett, Athro Troseddeg a Seicoleg yng Ngholeg Catholig Dewi Sant.

“Mae Mr Raggett yn gwneud dysgu yn hwyl,” dywedodd yr enwebiad.

“Mae’n cefnogi ei fyfyrwyr yn unigol. Mae'n cymryd yr amser i'n hadnabod ar lefel bersonol ac rydym yn teimlo y gallwn fynd ato unrhyw bryd y mae gennym broblem. Bydd yn gwirio ein bod yn iawn os ydym yn cael diwrnod gwael. O’r holl athrawon yr wyf wedi cwrdd â nhw, ef yw’r mwyaf gofalgar i’w fyfyrwyr a phan fyddaf yn gadael y coleg mae’n mynd i fod yn anodd iawn gadael athro mor anhygoel.”

Roedd canmoliaeth arbennig hefyd i Bethan Howell, Athrawes Ysgol Gyfun Treorci, a Lucinda Coultas, Technegydd Gwyddoniaeth yn Ysgol De Aston.

Llun: Rhes gefn - Olivia Sills, Timothy Raggett, Bethan Howell
Rhes flaen - Deborah Crockett, Lucinda Coultas
Ddim yn bresennol - Ceri Bailey