Hanesion Graddio | Dan penderfynol yn dilyn ei fam i'r byd academaidd
24 Gorffennaf, 2023
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2023/07-july/news-graduate-dan-richardson.png)
Roedd Daniel Richardson, o Bontprennau, yn cael trafferth trwy'r ysgol ond roedd yn benderfynol o roi cynnig arall ar addysg. Nawr, mae wedi graddio o Brifysgol De Cymru (PDC) gyda BA (Anrh) Cwnsela ac Ymarfer Therapiwtig.
Wedi cael diagnosis o Ddyslecsia yn ifanc, ac ADHD yn ddiweddarach, roedd strwythur yr ysgol yn anodd i Dan. Meddai: “Nid dim ond y darllen a’r ysgrifennu oedd yn anodd i mi. Roedd disgwyl hefyd i mi aros mewn ystafell, eistedd am gyfnodau hir o amser, ddydd ar ôl dydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
“Fe ges i drafferth mawr gyda dysgu. Roeddwn i’n cael fy ystyried yn ddisgybl drwg, ond wrth edrych yn ôl nawr, rwy’n gwybod fy mod wedi diflasu.”
Er i Dan gael cymorth yn yr ysgol gyda’i ddyslecsia, nid yw’n teimlo ei fod wedi cyrraedd ei lawn botensial.
“Roedd y gefnogaeth yn fuddiol, ond ni wnaeth fy helpu i symud ymlaen. Yr unig beth a wnaeth oedd fy ngalluogi i gael y lleiafswm lleiaf posibl, felly nid oeddwn yn hapus gyda’r cymwysterau y gadewais yr ysgol gyda nhw.”
Yn benderfynol o barhau â'i astudiaethau, aeth i'r coleg lle darganfu ei ddiddordeb mewn cwnsela. Dywedodd: “Allan o fy ffrindiau, mae’n debyg fy mod i’n un o’r rhai mwy sensitif yn y grŵp. Gall fy ffrindiau siarad â mi am eu problemau. Ond doedd cwnsela ddim yn rhywbeth roeddwn i wedi’i ystyried fel gyrfa. Wyddwn i ddim bod hyn yn rhywbeth y gallwn ei wneud yn y brifysgol.
“Mae cwnsela yn hynod werth chweil. Pan fyddwch yn adolygu cynnydd cleient a gweld pa mor bell y maent wedi dod, ac yn gwybod eich bod wedi eu helpu, mae'n rhoi boddhad mawr."
Nawr mae Dan yn dilyn ei freuddwyd i ddod yn Ddoethur mewn Seicoleg.
“Rwy’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gefais gan Wasanaethau Myfyrwyr PDC, sydd wedi fy helpu i ddeall sut mae fy Nyslecsia ac ADHD yn rhyngweithio, sydd wedi fy ngalluogi i fynegi fy hun yn academaidd. Rwyf o'r diwedd wedi gallu dangos y fersiwn orau ohonof fy hun. Bydd diffygion yn fy sillafu bob amser, er enghraifft, ond nid yw hynny'n tynnu oddi ar y cynnwys yr wyf yn ysgrifennu amdano.
“Rwyf wedi dysgu llawer amdanaf fy hun a sut yr wyf yn gweithredu.
“Mae gan fy mam ddoethuriaeth a doeddwn i byth yn meddwl y gallwn i ddilyn yn ôl ei thraed. Rwy'n gweld faint o foddhad mae hi'n ei gael o'i hymchwil a sut mae'n gwneud gwahaniaeth. Mae gen i le ar y cwrs MSc Seicoleg ac ar ôl hynny rydw i eisiau gwneud PhD.”
Mae Dan yn bwriadu ymchwilio i PTSD mewn pobl sy’n Ddiffoddwyr Tân a gweld sut y gallai gwahanol fathau o gwnsela eu helpu.
“Mae’r gwasanaethau brys yn gyffredinol o ddiddordeb i mi. Gyda fy mam yn gweithio yn y sector iechyd, maent yn hynod o agos at fy nghalon. Rwyf wedi siarad â Diffoddwyr Tân sydd wedi dweud wrthyf fod salwch meddwl yn broblem fawr yn y diwydiant, sy’n ddealladwy pan feddyliwch am y pethau y maent yn dyst iddynt. Rwyf am dynnu sylw at hyn ac ymchwilio iddo ymhellach,” meddai Dan.
Wrth edrych yn ôl i’w ddyddiau ysgol, ni all Dan gredu ei fod wedi croesi’r llwyfan yn ei gap a’i wn graddio.
“Mae hyd yn oed meddwl am raddio yn eithaf swreal, a dweud y gwir,” meddai.
“Roedd yn emosiynol, oherwydd nid wyf erioed wedi meddwl ei bod yn bosibl mynd o’r bachgen bach ‘drwg’ a gamddeallwyd i gynllunio fy ymchwil doethurol.”