Hanesion Graddio | Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf i'r arloeswr hedfan, Emily

19 Gorffennaf, 2023

Emily Creedy

Mae Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd unwaith eto wedi gweld miloedd o’n graddedigion yn croesi’r llwyfan yn eu cap a’u gŵn. I ddathlu, rydym yn rhannu storïau rhai o’n myfyrwyr ysbrydoledig.

Pan oedd hi'n ddim ond 18 oed daeth Emily Creedy yn dorrwr record, gan ddod y person ieuengaf erioed i weithio ar brototeip o awyren drydan.

Bellach yn 21 oed, mae Emily newydd raddio gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn ei gradd mewn Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau o Brifysgol De Cymru (PDC), ac mae ganddi amrywiaeth eang o opsiynau ar gael iddi wrth iddi symud i fyd peirianneg hedfan.

Dechreuodd Emily, sy’n wreiddiol o Gaerwysg yn Nyfnaint[GA1] , ei llwybr tuag at lwyddiant academaidd ar ôl cwblhau ei harholiadau TGAU pan gafodd ei derbyn ar gynllun prentisiaeth gyda’r cwmni hedfan Flybe[GA2] sydd bellach wedi peidio â bod.

“Fe wnes i gymryd y brentisiaeth ar ôl ysgol gan fy mod i wastad wedi bod â diddordeb mewn awyrennau a hedfan,” meddai. “Roeddwn i’n falch iawn o gael fy nerbyn ar y rhaglen ac o glywed fy mod yn ail orau allan o 650 a ymgeisiodd.”

Yn cael ei redeg trwy Goleg Caerwysg, roedd y cwrs a redir ar y cyd â Flybe yn fodd i Emily ddechrau gweithio tuag at ei gradd mewn cynnal a chadw awyrennau. A tra yn y coleg y dechreuodd ymwneud â chwmni hedfan Ampaire o Califfornia.

“Pasiodd y coleg e-bost ymlaen gan Ampaire yn gofyn a oedd gan unrhyw un ddiddordeb mewn gweld yr awyren a dysgu mwy amdani,” meddai Emily.

“Es i draw i gael golwg ac yna gofynnwyd i mi gymryd rhan yn y gwaith cynnal a chadw. Roedd hyn yn gyffrous i mi gan ei fod yn brototeip, yn defnyddio modur trydan i bweru’r awyren, sy’n seiliedig ar awyren fach debyg i Cessna. Mewn gwirionedd fe dorrodd y record am yr hediad awyren drydan hiraf pan aeth rhwng John O'Groats a Chaerwysg.

“Wrth weithio gydag Ampaire y des i’r hyn y gallech chi ei alw’n dorrwr record, gan mai fi oedd y person ieuengaf erioed i weithio ar gynnal a chadw’r math yma o awyren.”

Yn anffodus, byrhoedlog fu gwaith Emily gydag Ampaire, wrth i’r cwmni dynnu’n ôl o’i waith datblygu yn y DU. Yna cafodd Emily ergyd ddwbl pan aeth Flybe i ddwylo'r gweinyddwyr.

“Gyda Flybe yn mynd oddi tano roedd yn golygu nad oedd y cwrs yng Nghaerwysg yn rhedeg mwyach, felly roedd yn rhaid i mi ddod o hyd i le i orffen fy ngradd,” dywedodd Emily.

“Edrychais o gwmpas nifer o lefydd gwahanol, a gweld mai PDC oedd y dewis iawn i mi – roeddwn i wir yn hoffi’r hyn oedd ar gael yma, ac roeddech chi’n gallu gweld yr arbenigedd a’r profiad sydd ar gael gan y tîm addysgu.

“Ac, os ydych chi’n gwneud ochr ymarferol cynnal a chadw awyrennau, mae yna gyfleusterau da iawn ar gyfer hynny yn PDC, mae’n opsiwn da iawn.”

Bellach yn fyfyriwr graddedig gyda gradd o'r radd flaenaf i'w henw, beth sydd gan Emily wedi'i gynllunio ar gyfer y dyfodol?

“Mae gen i ddiddordeb mawr mewn parhau ym myd hedfan mewn rhyw ffordd ond nid wyf wedi penderfynu beth fyddaf yn ei wneud nesaf,” meddai. “Mae ochr peirianneg gofod y pwnc yn ddiddorol iawn, felly efallai y byddaf yn edrych ar fynd i’r cyfeiriad hwnnw gyda fy ngyrfa.”

[GA1]English correction - Deeon (Devon)

[GA2]Correction - Flybe throughout after this