Hanesion Graddio | Pam y cymerodd y myfyriwr Seiber graddedig, Shafiul, i'r cylch ac ymuno â'r Fyddin Wrth Gefn

19 Gorffennaf, 2023

Graddedig Shafiul Mannan yn gwisgo gwisg graddio a chap graddio o flaen y ddraig goch y tu allan i ICC Casnewydd

Mae Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd unwaith eto wedi gweld miloedd o’n graddedigion yn croesi’r llwyfan yn eu cap a’u gŵn. I ddathlu, rydym yn rhannu storïau rhai o’n myfyrwyr ysbrydoledig.

Mae Shafiul Mannan yn cyfaddef yn barod iawn ei fod yn agos at ‘fynd ar gyfeiliorn’ pan oedd yn ei arddegau.

Ond nawr, mae gan y chwaraewr 22 oed o Gasnewydd ddyfodol mawr o’i flaen, ar ôl ennill Gradd Anrhydedd mewn Seiberddiogelwch o Brifysgol De Cymru (PDC), cael ei goroni’n bencampwr bocsio Cymru, ac yn ildio llawer iawn o'i amser rhydd fel milwr wrth gefn yn y fyddin.

Dechreuodd taith Shaf at gymhwyster addysg uwch pan oedd yn astudio ar gyfer ei Lefel A, yn gyntaf yn Ysgol John Frost Casnewydd, ac yna yng Ngholeg Cross Keys, ond dyma hefyd yr amser pan oedd yn teimlo bod angen newid ffordd o fyw.

“Mae’n dipyn o stori cliche, ond roeddwn i’n ymwneud â’r dorf anghywir ac yn gwneud pethau na ddylwn i fod yn eu gwneud mewn gwirionedd,” meddai Shaf.

“Yna fe wnes i benderfynu, wyddoch chi, nawr neu byth – mae’n bryd newid fy mywyd a mynd ar lwybr gwell i gyflawni’r math o bethau rydw i eisiau eu cyflawni.”

Er ei fod wedi bod yn awyddus erioed i fod yn rhan o gefnogi’r byd o’i gwmpas, daeth ysbrydoliaeth gyntaf Shaf i ymwneud â’r Fyddin Wrth Gefn yn rhannol o gwrs gwasanaeth cyhoeddus yr oedd yn ei astudio wrth wneud ei Lefel A.

“Pan oeddwn i’n blentyn roedd gen i ddiddordeb bob amser yn sut beth fyddai bod yn filwr a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymdeithas, felly pan glywais am y Milwyr Wrth Gefn roedd yn ymddangos fel y cyfle delfrydol,” meddai.

Ers ymuno, mae Shaf bellach yn rhoi nifer o benwythnosau’r mis i’r Milwyr Wrth Gefn, diddordeb sydd wedi cyflwyno un o’i eiliadau gorau iddo.

“Fel Milwr Wrth Gefn[GA1] roeddwn yn rhan o’r Orymdaith Goffa yng Nghaerdydd, a dyna oedd un o’r adegau mwyaf balch yn fy mywyd. Roedd yn rhywbeth arbennig iawn mewn gwirionedd,” meddai Shaf.

Mae hefyd wedi profi ei hun i fod yn berfformiwr o'r radd flaenaf pan fydd yn camu i'r cylch bocsio.

“Tua’r un amser edrychais ar ymuno â’r Milwyr Wrth Gefn penderfynais gymryd rhan mewn bocsio,” meddai. “Rydw i wedi bod yn bocsio ers cwpl o flynyddoedd bellach, ac roedd hefyd yn deillio o fod eisiau cael rhywfaint o ddisgyblaeth i mewn i fy mywyd. Gwyddwn fod gen i’r ddawn ac rydw i bob amser wedi hoffi’r gamp.”

Ar ôl ymuno â Chlwb Bocsio Amatur Sant Joseff yng Nghasnewydd, hyfforddodd Shaf am nifer o flynyddoedd cyn cael ei hun yn y pen dwfn.

“Roedd yna ddigwyddiad bocsio yn digwydd yng Nghasnewydd ond roeddwn i’n meddwl na fyddwn i’n gallu cymryd rhan oherwydd doeddwn i ddim wedi derbyn fy nhrwydded,” meddai Shaf. “Fodd bynnag, ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad, daeth y drwydded drwodd, a oedd yn golygu y gallwn i baffio – a diolch byth, aeth terfyn amser aseiniad heibio’r diwrnod cynt felly nid oedd hynny ar fy meddwl.

“Yna, fis yn ddiweddarach – sef y diwrnod cyn bod aseiniad arall i fod i gael ei gyflwyno – cefais fy nghoroni’n Bencampwr Amatur Cymru. Cyn yr ornest roeddwn i’n nerfus iawn a doeddwn i ddim yn gwybod sut byddwn i’n gwneud – fodd bynnag, yn yr ail rownd enillais ar TKO – bwrw allan technegol. Er fy mod yn nerfus roedd gen i hyder yn fy set sgiliau.”

Gyda nifer o ganmoliaethau eisoes dan ei wregys, mae llwyddiannau Shaf wedi parhau yr haf hwn gyda chwblhau ei radd mewn seiberddiogelwch - ac ar ddiwrnod arbennig arall y clywodd ei fod wedi pasio.

“Roeddwn i ar wyliau yn Nhwrci yn ystod Eid pan ges i’r newyddion fy mod wedi pasio fy nghwrs, felly roedd yn ddathliad dwbl. Alhamdulillah am bopeth.” meddai Shaf.

“Roedd yn wych cael y newyddion bod blynyddoedd o waith caled wedi talu ar ei ganfed. Roeddwn i wastad wedi bod â diddordeb mewn astudio rhywbeth yn ymwneud â thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu, sef y llwybr gyrfa rydw i wedi bod yn ei ddilyn trwy fy nghymwysterau TGAU a Lefel A, ac astudiais hwnnw yn y coleg hefyd.

“Mae cael lle ar y cwrs gradd, a phasio nawr, yn golygu y gallaf edrych ar opsiynau gyrfa yn y maes. Rwy’n dal i edrych o gwmpas beth i’w wneud nesaf, ond nawr mae’r cymhwyster hwn gen i mae gen i nifer o opsiynau ar gael i mi y gallwn eu dilyn yn yr ychydig flynyddoedd nesaf.”