PDC yn lansio Cronfa Datblygu Llawryddion Media Cymru
10 Gorffennaf, 2023
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2023/07-july/sincerely-media-rLySNDRKYcw-unsplash.jpg)
Gall llawryddion y sector sgrin yng Nghymru nawr wneud cais am gymorth ariannol i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi, diolch i gronfa ddatblygu a ddarperir gan Brifysgol De Cymru.
Mae prosiect Sgiliau a Hyfforddiant Media Cymru yn cynnig hyd at gyfanswm o £1,500 y pen i dalu am golli enillion wrth ymgymryd â hyfforddiant sy'n berthnasol i ddatblygiad gyrfa personol.
Ar gyfer hyfforddiant a gaffaelir yn breifat gyda ffi ynghlwm, gellir ategu’r Gronfa Datblygu Llawryddion gan Raglen Sgiliau Hyblyg Llywodraeth Cymru, a fydd yn cyfrannu hyd at 50% o gyllid tuag at gost yr hyfforddiant.
Daw’r gronfa ar ôl i dîm yn PDC gynnal Arolwg Gweithlu Sgrin Cymru y llynedd – yr arolwg cyntaf ledled Cymru i asesu sgiliau, anghenion hyfforddi, agweddau a phrofiad y rhai sy’n gweithio ar draws y sector sgrin.
Dywedodd Dr James Davies, Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol De Cymru a Media Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod yn lansio Cronfa Datblygu Llawryddion PDC x Media Cymru. Diffyg amser, arian a gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi oedd y tri phrif reswm dros beidio ag ymgysylltu â hyfforddiant a nodwyd gan weithwyr llawrydd y sector sgrin yn ein Harolwg Gweithlu Sgrin Cymru.
“Mae bob amser yn rhoi boddhad mawr pan all ymchwil arwain at ymateb uniongyrchol i angen, a gobeithiwn fod y gronfa ddatblygu yn fenter a all gael effaith gadarnhaol, wych ar y sector sgrin. Gobeithio mai dim ond y dechrau yw hyn!”
I gael manylion ynghylch pwy all wneud cais am y Gronfa Datblygu Llawryddion a sut mae’n gweithio, ewch i wefan Canolfan Astudio’r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach PDC.