PDC yn ymrwymo i lofnodi’r Adduned Addysg Uwch GTRSB

12 Gorffennaf, 2023

logo gtrsb

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi ymrwymo i fabwysiadu’r Adduned Addysg Uwch Sipsiwn, Roma, Teithwyr, Cychwyr a Sioewyr (GTRSB). Gwnaethpwyd yr adduned hwn yn ystod Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr (Mehefin) 2023.

Mae'r Adduned yn cynrychioli ymrwymiad cadarn gan sefydliad addysgol i gymryd camau i gefnogi myfyrwyr o gymunedau GTRSB i mewn ac o fewn addysg uwch.

Wrth lofnodi’r Adduned, mae PDC wedi cytuno i greu mannau teg, mynd i’r afael â stigmas, a dileu rhwystrau i fyfyrwyr GTRSB. Mae mesurau ychwanegol hefyd wedi’u haddo, gan gynnwys ymrwymiad i ddylunio a chyflwyno rhaglen allgymorth ac ymgysylltu aml-ymyrraeth i hyrwyddo mynediad i addysg uwch a chyfranogiad mewn addysg uwch yn benodol ar gyfer y gymuned GRTSB, ac adduned i nodi cyswllt penodol ar gyfer cydweithwyr GTRSB a myfyrwyr GTRSB.

Dywedodd yr Athro Donna Whitehead, Dirprwy Is-Ganghellor PDC: “Ar ran pawb yn y Brifysgol, rwyf am ddweud pa mor falch ydym i gofrestru i’r Adduned Addysg Uwch Sipsiwn, Roma, Teithwyr, Cychwyr a Sioewyr (GTRSB).

“Yn PDC, ein cenhadaeth yw newid bywydau a’r byd er gwell yfory. Ein nod yw newid bywydau pob un person sy’n dod i’r Brifysgol, beth bynnag fo’u cefndir neu eu profiadau. Mae hyn yn cynnwys pawb yn y gymuned GTRSB, ond rydym hefyd yn cydnabod y rhwystrau sy'n bodoli i gael mynediad i addysg uwch i gymunedau GTRSB. Dyna pam yr ydym yn gwneud yr ymrwymiad hwn drwy ymrwymo i’r adduned i weithredu i greu mannau teg a chyfiawn i bawb.”