Pêl-rwyd Cymru a PDC yn cyhoeddi partneriaeth swyddogol
21 Gorffennaf, 2023
Mae Pêl-rwyd Cymru wedi cyhoeddi partneriaeth heddiw gyda Phrifysgol De Cymru (PDC). Bydd y cytundeb hwn yn gweld PDC yn dod yn bartner swyddogol ar gyfer Welsh Feathers cyn Cwpan y Byd.
Mae cyfleoedd lleoli myfyrwyr wedi’u gwreiddio yn y bartneriaeth, ar gyfer myfyrwyr o bob rhan o gyrsiau chwaraeon PDC.
Ochr yn ochr â chyfleoedd addysg hyfforddi, canolfan perfformio ym Mharc Chwaraeon PDC, a nawdd ar gyfer cit, a fydd yn cael ei ddatgelu yn y gêm gyntaf yn Ne Affrica.
Dywedodd Vicki Sutton, Prif Swyddog Gweithredol Pêl-rwyd Cymru: “Mae’r bartneriaeth hon wedi bod ar y gweill ers cryn amser, ac mae’r daith hyd yn hyn gyda PDC wedi bod yn hynod gadarnhaol. Mae PDC yn prysur ddod yn ganolbwynt i Bêl-rwyd ac mae’r buddsoddiad y maent wedi’i roi mewn i Bêl-rwyd eisoes wedi bod yn effeithiol.
"Mae'n wych cael eu cefnogaeth cyn Cwpan y Byd. Mae’n hwb gwych i’r garfan i gael partner mor werthfawr i’w cefnogi.”
Dywedodd Jay Probert, Pennaeth Pwnc Chwaraeon: “Rydym yn falch ac yn gyffrous i lansio ein partneriaeth â Phêl-rwyd Cymru yn swyddogol ar adeg mor gyffrous i’r gamp.
"Mae creu, sefydlu a thyfu partneriaethau strategol yn allweddol i lwyddiant yma yn PDC a bydd y cyfle i weithio’n agos gyda sefydliad sydd â gwerthoedd wedi’u halinio o’r fath yn dod â llawer o fanteision i’n myfyrwyr yn ddi-os.”