Sut gall therapi cerdd helpu i ailadeiladu bywydau ffoaduriaid

5 Gorffennaf, 2023

Three musicians smile while playing their instruments - including an acoustic guitar, a double bass and percussion instruments - together while sat down in front of a white wall

Gan Dr Elizabeth Coombes, Uwch Ddarlithydd mewn Therapi Cerddoriaeth

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae nifer y bobl sydd wedi'u dadleoli'n orfodol o'u cartrefi ledled y byd oherwydd gwrthdaro wedi cyrraedd mwy na 90 miliwn. Mae hyn wedi mwy na dyblu ers dechrau'r 1990au, cyfnod sydd wedi’i labelu’n "ddegawd o ddadleoli" gan Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig. Nid yw'r gyfradd hon o gynnydd yn dangos unrhyw arwyddion o arafu ac mae wedi cael ei hybu gan y sefyllfaoedd presennol yn Syria a'r Wcráin.

Beth bynnag fo’r rheswm dros ddadleoli, nid oes amheuaeth bod cael eich gorfodi i adael eich mamwlad yn drawmatig. Gall y daith i le mwy diogel fod yn heriol yn gorfforol ac yn emosiynol. Sioc a gwadu yn aml yw'r emosiynau cyntaf a brofir gan ffoaduriaid.

Mae problemau hirdymor yn cynnwys emosiynau na ellir eu rheoli, ôl-fflachiadau, ac anawsterau gyda pherthnasoedd. Gall symptomau corfforol fel cyfog a chur pen ddigwydd hefyd. Er bod cymorth ymarferol fel darparu diogelwch corfforol, bwyd a dillad a chymorth meddygol yn hanfodol, mae angen cynnig cymorth seicolegol hefyd.

Therapi cerddoriaeth

Mae therapi cerdd mewn sefyllfa dda i ddarparu cymorth i fynd i'r afael â thrawma a gwella lles. Mae'n therapi seicolegol sy'n cael ei reoleiddio gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (CPIG) yn y DU. Mae therapyddion cerdd yn defnyddio amrywiaeth o ymyriadau'n seiliedig ar gerddoriaeth, gan gynnwys creu cerddoriaeth ryngweithiol, cyfansoddi caneuon a gwrando ar gerddoriaeth. Mae'r rhain yn helpu i adeiladu perthynas therapiwtig gyda chyfranogwyr.

Mae therapi cerdd yn cynnig ffordd hyblyg a hygyrch o gefnogi lles a rhannu profiadau anodd. Gall hefyd ddod ag atgofion cadarnhaol o ddiwylliannau brodorol ffoaduriaid. Gellir rhannu'r rhain ag eraill a helpu i adeiladu gwytnwch.

Yng nghyfnodau cynnar trawma, gall cerddoriaeth fod yn rhan o becyn Cymorth Cyntaf Seicolegol (CCS). Fel arfer cynigir CCS yn sgil digwyddiad trawmatig cychwynnol yn ogystal ag yn y cyfnodau diweddarach. Mae'n ceisio darparu diogelwch, cysylltiadau a gobaith i bobl. Mae integreiddio'r elfennau hyn mewn ymyriadau’n seiliedig ar gerddoriaeth a therapi cerddoriaeth yn ddefnyddiol i ffoaduriaid.

Mae cerddoriaeth yn rhywbeth a geir ym mhob diwylliant. Mae pobl yn mynd â’u profiadau cerddorol eu hunain gyda nhw i ble bynnag yr ân nhw, a gallan nhw alw arnyn nhw am gysur. Gall cerddoriaeth hefyd fod yn adnodd i'r rhai sydd angen cysur. Gydag amrywiaeth mor enfawr o fathau ac arddulliau cerddorol, mae rhywbeth at ddant pawb.

Oherwydd bod cerddoriaeth yn cynnwys cyfres o batrymau gwahanol - rhywbeth mae'r ymennydd yn cael ei ddenu ato ac y mae’n eu ceisio’n weithredol - mae cyfleoedd i reoleiddio emosiynol. Mae hyn yn ganolog i gefnogi lles ffoaduriaid.

Yn ogystal, mae creu cerddoriaeth gyda therapydd cerdd yn syth ar ôl trawma yn cynnig cyfle i adeiladu perthnasoedd, sefydlogi teimladau a lleihau pryder. Mae'r rhain yn gamau hanfodol wrth liniaru effaith trawma.

Yn ystod fy ymchwil, rwyf wedi gweithio gydag amrywiaeth o bobl sydd wedi'u dadleoli, gan gynnwys ffoaduriaid a theuluoedd sy'n ceisio lloches, yn canolbwyntio ar deuluoedd â phlant o dan 3 oed. Mae fy astudiaethau wedi dangos bod pobl sydd wedi cael therapi cerdd yn ei gael yn ddefnyddiol ac yn gynhaliol am nifer o resymau.

Mae'n cynnig lle diogel i gwrdd ag eraill mewn cerddoriaeth heb yr angen am eiriau neu esboniadau. Mae'r gofod hwn yn helpu i ddatblygu teimladau o ddiogelwch yn ogystal â deffro creadigrwydd – rhywbeth sy'n hanfodol i iechyd meddwl. Mae therapi cerdd hefyd yn meithrin ac yn cryfhau cysylltiadau ag eraill sydd yn yr un sefyllfa.

Defnyddiodd fy mhrosiectau egwyddorion craidd CCS yn gysylltiedig â therapi cerdd ar gyfer grwpiau bach o deuluoedd oedd yn ceisio lloches o Albania, yr Aifft, Syria a Phacistan. Roedd y gweithgareddau syml, strwythuredig angen ychydig iawn o Saesneg, felly roeddent yn hygyrch.

Defnyddiwyd symud i gerddoriaeth, cyfathrebu trwy gemau rhythm, byrfyfyrio rhydd a chaneuon o famwledydd y cyfranogwyr yn ogystal â cherddoriaeth o'r DU i ennyn diddordeb y grwpiau. Roedd hyn yn helpu teuluoedd i fagu ymdeimlad o berthyn yn eu cartref newydd.

Teimlo'n ddiogel

Roedd y ffaith bod cynnwys y sesiynau’n hawdd ei ragweld hefyd yn ddefnyddiol. Mae angen help ar bobl sy'n dioddef trawma i deimlo'n ddiogel, ac mae darparu sesiwn strwythuredig yn gwneud hyn. Fe wnaethant hefyd hwyluso datblygiad iaith a sgiliau cymdeithasol i'r plant.

Cafodd bondio o fewn teuluoedd, rhywbeth y gall trawma darfu arno, ei wella hefyd. I hybu hyn, gall therapyddion ddefnyddio hwiangerddi a chaneuon plant o ddiwylliannau gwreiddiol y teuluoedd, yn ogystal ag alawon y DU – mae Twinkle Twinkle Little Star bob amser yn boblogaidd iawn.

Mae therapi cerddoriaeth a cherddoriaeth yn ddefnyddiol wrth gynllunio CCS a chymorth therapiwtig parhaus i ffoaduriaid. Er ei bod yn bwysig bod yn sensitif i ddymuniadau teuluoedd ffoaduriaid nad ydynt efallai'n barod i gymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol, mae'n hanfodol bod y ddarpariaeth hon ar gael i'r rhai sy'n dymuno cael mynediad ati.

Mae ffoaduriaid sy'n ymgysylltu â therapi cerddoriaeth a cherddoriaeth yn eu cartrefi newydd yn aml yn sôn am welliannau yn eu gallu i reoli eu sefyllfa a symud yn eu blaen. Bydd dod o hyd i ffyrdd o gynnig mynediad i'r cyfleoedd hyn yn ehangach o fudd i nifer fwy o'r rhai sy'n ceisio adeiladu bywydau newydd.

 

 


Ailgyhoeddir yr erthygl hon o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.