Anrhydeddau mawr i PDC yng Ngwobrau STEM Cymru

14 Hydref, 2023

Dr Leshan Uggalla a Dr Mabrouka Abuhmida yn dal eu gwobrau STEM Cymru

Sicrhaodd Prifysgol De Cymru (PDC) nifer o anrhydeddau blaenllaw yng Ngwobrau STEM Cymru.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, enwyd arbenigwr blaenllaw o PDC yn Fenyw STEM y Flwyddyn, gyda Dr Mabrouka Abuhmida, Uwch-ddarlithydd mewn Cyfrifiadura a Gwyddorau Mathemategol, yn rhannu’r wobr â Michelle Slee o’r DVLA. Y llynedd enwyd Sharan Johnstone, Pennaeth Seiberddiogelwch PDC, yn Fenyw STEM y Flwyddyn.

Enillodd tîm dan arweiniad yr uwch ddarlithydd Dr Leshan Uggalla gategori Prosiect Ymchwil STEM y Flwyddyn am y gwaith sy’n cael ei wneud yn PDC i symleiddio’r broses o gasglu data ym maes monitro amgylcheddol.

Cyrhaeddodd PDC y rhestr fer yn y tri chategori arall – gyda Holly Lidbury, Arweinydd Prosiect CyberFirst, yn rownd derfynol categori Llysgennad STEM y Flwyddyn, CEMET o PDC ymhlith rownd derfynol Tîm STEM y Flwyddyn, a Rhaglen Allgymorth Seiber PDC yn rownd derfynol categori Rhaglen Addysg STEM y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus).

Ar ôl cael ei henwi yn Fenyw STEM y Flwyddyn, dywedodd Dr Abuhmida: “Diolch i’r rhai fu’n rhan o feirniadu’r gwobrau hyn, ac i’m cyd-enwebeion. Tra fy mod wedi ennill y wobr hon, teimlaf ein bod i gyd yn enillwyr gan fod yr hyn a wnawn yn wirioneddol bwysig.

“Nid dyna’r diwedd, dim ond dechrau rhywbeth mwy a gwell ydyw. Diolch i Brifysgol De Cymru am gredu yn yr achos, gan fod yr achos yn llawer mwy na mi fy hun.

“Mae’n fraint cael bod yma heno, i gael y podiwm hwn. Dyma pam rydw i wedi ymrwymo i ddefnyddio fy mraint i helpu eraill.

“Cefais fy ysbrydoli gan rywbeth a ddarllenais mewn blog gan yr Athro Donna Whitehead, sy’n Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol De Cymru, ‘dyma neges ryngwladol i bawb sy’n eiriol dros fenywod mewn addysg STEM ac addysg menywod yn gyffredinol – yn lle ceisio newid pobl, gadewch i ni ganolbwyntio ar newid meddylfryd. Fy nghyngor i yw dechrau yn uned sylfaenol ein cymdeithasau—teuluoedd, yn eu holl ffurfiau amrywiol’.

“Safaf ar ysgwyddau cewri; nid fy ngwaith unigryw i yw hyn. Mae’n ymdrech gyfunol timau rhagorol sy’n fy nghefnogi, fy rheolwyr, fy Nghyfadran, ymchwilwyr ac arloeswyr, staff addysgu, y staff cymorth proffesiynol, ein tîm allgymorth, ac i dîm CyberFirst yn y Brifysgol.

“Heb eich gwaith caled, ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl. Mae’r wobr hon yn perthyn i chi i gyd.”

Ar ôl ennill Prosiect Ymchwil STEM y Flwyddyn, dywedodd Dr Leshan Uggalla: “Yn gyntaf oll, hoffem longyfarch yr holl aelodau eraill ar y rhestr fer o fewn pob categori am eu teithiau gwych hyd yn hyn.

“Rydym yn falch iawn o dderbyn y wobr am Brosiect Ymchwil Gorau’r Flwyddyn 2023, gan fod hwn yn gydnabyddiaeth ragorol o effaith ein prosiect ar gymdeithas yma yng Nghymru a ledled y byd a gwaith caled yr holl bartneriaid tîm a’u haelodau.

“Hoffem ddiolch yn arbennig i Brifysgol De Cymru am gredu ynom a chefnogi’r prosiect a’r tîm. Diolchwn yn ddiffuant i Gyngor Addysg Uwch Cymru (HECFW) a Chymru Fyd-eang am ariannu a galluogi'r prosiect.

“Hoffwn hefyd ddiolch i bartneriaid eraill, sef Llywodraeth Cymru, Cyngor Rhondda Cynon Taf, Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI), Cymru Fyd-eang, Arloesedd Anadlol Cymru (RIW), Prifysgol Bangor, a Phrifysgol Can Tho Fietnam, am eu cyfraniad rhagorol tuag at y prosiect.

“Yn olaf, diolch enfawr i dîm Gwobrau STEM Cymru am drefnu digwyddiad mor wych.”

Dywedodd Dr Paul Davies, Deon y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth yn PDC, lle lleolir holl enwebeion PDC: “Mae’n wych gweld cydweithiwr o PDC yn cael ei hanrhydeddu fel Menyw STEM y Flwyddyn am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae Dr Abuhmida yn arloeswr yn ei maes, yn llais blaenllaw yn ei sector, ac yn ysbrydoliaeth i fenywod sydd am wneud eu marc mewn unrhyw un o’r amrywiaeth enfawr o feysydd STEM.

“Mae Dr Uggalla a’i dîm hefyd yn arloeswyr, gan ddefnyddio eu harbenigedd i ddatblygu system effeithiol i gefnogi llawer o gymwysiadau a all gael effaith fawr ar y byd o’n cwmpas.

“Mae gwaith ein tîm Allgymorth Seiber wedi bod heb ei ail, ac mae’n dangos yr ystod eang o arbenigedd sydd ar gael yn PDC i gynyddu diddordeb y genhedlaeth nesaf yn y sector hanfodol hwn, gwaith sydd wedi’i ddatblygu ymhellach gan Holly Lidbury, ein Harweinydd Prosiect Cyber First - rwy’n canmol yn arbennig waith ei thîm yn tynnu sylw menywod a merched at y cyfleoedd gyrfa yn y diwydiant.

“Mae hefyd yn dda gweld cydnabyddiaeth o waith cwbl arloesol CEMET, gyda’r effaith eithriadol y mae’r arbenigwyr yn y tîm wedi’i chael (ac yn parhau i’w chael) ar ystod eang o fusnesau ar draws Cymru – heb os, bydd eu hymdrechion parhaus yn llywio Ymchwil a Datblygu technoleg i lefelau newydd.

“Rwy’n cymeradwyo fy holl gydweithwyr ar eu buddugoliaethau a’u henwebiadau yng Ngwobrau STEM Cymru. Maent yn haeddiannol iawn. Diolch hefyd iddynt am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i Brifysgol De Cymru.

“Yr ymrwymiad hwn sy’n gwneud i’r Brifysgol sefyll allan fel un o’r arweinwyr ym maes STEM, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y DU a thu hwnt. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw – mae’n anrhydedd haeddiannol iawn ac mae’n fraint cael gweithio ochr yn ochr â nhw.”