Cyfres Tyson Fury ar Netflix yn amlygu’r heriau iechyd meddwl y mae cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn eu hwynebu
29 Hydref, 2023
Mae’r gyfres o raglenni dogfen ar Netflix, At Home With The Furys, yn rhoi cipolwg diddorol ar fywyd dyddiol Tyson Fury, dyn teulu a phencampwr byd yn y maes bocsio pwysau trwm.
Un peth y mae Tyson yn ymfalchïo’n fawr ynddo yw ei dreftadaeth fel aelod o’r gymuned Teithwyr, ac mae’n defnyddio’r llysenw bocsio “The Gypsy King”. Ond er yr holl sbloets a sbri a ddaw yn sgil bod yn filiwnydd enwog, bu’n rhaid i Fury wynebu ei frwydrau mewnol yn ogystal â’r rhai allanol. Ymysg y rhain roedd gyfnod hir o orbryder ac iselder, cyflwr deubegynol, camddefnyddio sylweddau ac ystyried hunanladdiad.
Ers cryn amser, mae problemau iechyd meddwl ymysg cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr wedi cael eu disgrifio fel argyfwng o ganlyniad i gyfuniad o ffactorau cymhleth nad oes dealltwriaeth lawn ohonynt oherwydd diffyg ymchwil. Yn wir, cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yw un o’r grwpiau sydd fwyaf dan anfantais yn gymdeithasol ac yn economaidd yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon.
Mae’r sefyllfa yn un sy’n effeithio ar dai, addysg, cyflogaeth, ac, yn hollbwysig, iechyd meddwl a mynediad i ofal iechyd, ond nid ydym yn gwybod digon am yr achosion na sut i atal hyn rhag digwydd.
Cynhaliodd fy nhîm a minnau astudiaeth ar anghenion cymorth iechyd meddwl pobl o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Fe wnaethom gyfweld â naw o bobl o bob cwr o’r DU gan eu holi am eu hiechyd meddwl a’u profiadau o gael cymorth: pedair merch, pedwar dyn ac un unigolyn anneuaidd.
Deilliodd tair prif thema o’r cyfweliadau:
1. Dyheu am gael eu derbyn
Roedd hyn yn ymwneud â’r teimlad o gael eu heithrio o’r gymuned ehangach. Meddai un cyfranogwr: “Rydym yn wynebu llawer o hiliaeth a gwahaniaethu yn ein bywyd bob dydd ac mae hynny’n effeithio ar ein hiechyd meddwl. Hefyd, ceir hiliaeth a gwahaniaethu mewnol ymysg gweithwyr meddygol proffesiynol hyd yn oed.”
2. Bod yn fwy agored i niwed
Mae’r thema hon yn ymwneud ag effaith amddifadedd economaidd, diffyg rhagolygon addysgol ac uchelgais yn y dyfodol, yn ogystal â phrofiadau bywyd niweidiol.
Gan ganolbwyntio ar addysg yn benodol, dywedodd un person wrthym: “Barn llawer o bobl yw ‘mae’n rhy hwyr, ni aeth fy nhad i’r ysgol, na’i dad ef, es i am gyfnod byr a chael fy mwlio a rhoi’r gorau i fynd ar ôl hynny. Felly beth alla i ei wneud?’ Mae llawer o bobl yn teimlo na allant wneud dim.”
Mae’r cyfuniad o amddifadedd economaidd a diffyg rhagolygon addysgol yn golygu bod aelodau o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn fwy agored i ddioddef salwch meddwl.
3. Rhwystrau i gael cymorth
Roedd y rhwystrau i gael cymorth ar gyfer salwch meddwl a amlygwyd gan y rhai a gyfwelwyd yn arwydd cryf o’r argyfwng yn y gymuned hon. Gwelsom broblemau yn ymwneud ag ymwybyddiaeth o wasanaethau cymorth iechyd meddwl, yn arbennig yr her o wybod pa gymorth sydd ar gael tra’n teithio.
Problem arall oedd gwasanaethau anaddas. Disgrifiodd un cyfranogwr pa mor anodd oedd cael cymorth brys hyd yn oed: “Ni fyddai ambiwlans yn fodlon dod i’r safle [Teithwyr] tan fod yr heddlu ar gael i’w hebrwng, ac rydych chi’n ystyried hunanladdiad, ac maen nhw’n eich trin chi fel troseddwr ac yn meddwl eich bod am ymosod arnyn nhw.”
Cyfeiriwyd hefyd at y stigma sy’n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl. “Mae fy mam a fy mrawd yn teimlo’n anghyfforddus iawn yn trafod fy mhroblemau. Dydyn nhw ddim yn eu cydnabod nhw a dydyn nhw ddim eisiau siarad amdanynt,” meddai un person wrthym.
Disgrifiodd y cyfranogwyr eu diffyg hyder yn y gwasanaethau cymorth hefyd. Meddai un: “Yn aml iawn, dydyn ni ddim yn defnyddio’r pethau hyn gan fod gormod o ofn arnom. Mae’n ymwneud â gwahaniaethu ac ofn bod y gwasanaethau am alw a mynd â’ch plant oddi wrthoch chi. Pe byddech yn gofyn am gymorth ar gyfer eich iechyd meddwl, gallant ddefnyddio’r salwch meddwl hwnnw fel rheswm dros fynd â’ch plant oddi wrthoch chi neu er mwyn cynnwys y gwasanaethau cymdeithasol.”
Cafodd pob un o’r ffactorau hyn effaith negyddol ar iechyd meddwl aelodau o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr gan eu hatal rhag manteisio ar wasanaethau cymorth perthnasol.
Dengys ein hymchwil pa mor bwysig yw darparu gwasanaethau i’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ogystal â dealltwriaeth, gwybodaeth ac adnoddau diwylliannol i’w cefnogi. Man cychwyn menter o’r fath fyddai cynnal ymchwiliad manwl i’r ffactorau seicolegol, cymdeithasol, amgylcheddol a sefydliadol sy’n golygu bod y gymuned hon yn agored i niwed ac o dan anfantais mewn perthynas â gofal iechyd meddwl.
Mae meithrin ymddiriedaeth o fewn y cymunedau hyn hefyd yn hollbwysig i wella eu hymgysylltiad â gwasanaethau. Gall timau allgymorth penodedig, ynghyd â gwell mynediad i wasanaethau prif ffrwd fod yn ddull effeithiol o gyflawni hyn.
Mae’r dewrder y mae Tyson Fury wedi’i ddangos wrth drafod ei broblemau iechyd meddwl yn enghraifft wych i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr eraill gan ei fod yn dangos nad yw salwch meddwl yn arwydd o wendid, a bod cymorth yn fuddiol ac ar gael i unrhyw un sydd ei angen.
Mae'r erthygl hon yn cael ei hailgyhoeddi o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.