Gwobr nodedig i raddedig peirianneg
6 Hydref, 2023
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2023/10-october/news-october-top-award-for-engineering-graduate.jpg)
Mae Tom Burgess, un o raddedigion Prifysgol De Cymru, wedi’i anrhydeddu â gwobr nodedig gan gorff proffesiynol.
Ar ôl cwblhau gradd ran-amser mewn Peirianneg Fecanyddol, cyflwynwyd Gwobr Myfyriwr Gorau Frederic Barnes Waldron Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol i Tom gan Dr Paul Davies, Deon y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol De Cymru.
Dywedodd Dr Meinwen Taylor, Arweinydd Cwrs ar gyfer Peirianneg Fecanyddol: “Argymhellodd y brifysgol i Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol y dylai Tom dderbyn y wobr, gan amlygu agwedd ragorol Tom at ei astudiaethau, ei bresenoldeb rhagorol, a’r ffordd yr ymgysylltodd â’r dosbarth – mae yn chwilfrydig ac yn ymholgar, ansawdd rhagorol mewn myfyrwyr a pheirianwyr.
“Dangosodd dycnwch mawr ac agwedd hynod broffesiynol at ei flwyddyn olaf, gan gyrraedd ei nod terfynol o brosiect diwydiannol rhagorol.
“Roedd ei waith ysgrifenedig a ffurfiau eraill yn rhagorol ac adlewyrchir hyn yn ei ganlyniadau, gyda chyfartaledd cyffredinol o dros 80%. Myfyriwr rhagorol a derbynnydd haeddiannol o Wobr Myfyriwr Gorau Frederic Barnes Waldron.”
Ychwanegodd Dr Davies: “Ni ellir amau perfformiad academaidd Tom, sydd i’w ganmol, ond mae’r wobr hon yn ymwneud cymaint â’i agwedd â’i farciau. Mae wedi enghreifftio popeth y mae Prifysgol De Cymru yn credu ynddo - cael agwedd broffesiynol at ei astudiaethau yn yr un ffordd ag y byddech chi'n ei wneud i swydd, ymrwymo i rywbeth a'i wireddu hyd y diwedd, bod yn ymatebol a chwrdd â'r her honno bob amser, a bod yn greadigol ac yn arloesol wrth ddod o hyd i atebion i broblemau.”