Partneriaeth PDC a’r GIG yn pontio’r bwlch ymchwil a gofal caethiwed
11 Hydref, 2023
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi partneru ag Ymddiriedolaeth GIG Sandwell a Gorllewin Birmingham (SWB) i werthuso eu Tîm Gofal Alcohol arobryn a hyrwyddo ymwybyddiaeth o niwed i’r ymennydd sy’n gysylltiedig ag alcohol (ARBD).
Ers 2015, mae’r Grŵp Ymchwil Caethiwed ym Mhrifysgol De Cymru wedi bod yn cynhyrchu ymchwil ar lefel ryngwladol. Mae eu gwaith yn cwmpasu codi ymwybyddiaeth, atal, adnabod a diagnosis cynnar, a datblygu triniaeth. Mae’r grŵp wedi chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad cynllun gweithredu cenedlaethol cyntaf o’i fath i gefnogi a thrin ARBD, cyflwr nad yw’n cael ei gydnabod yn ddigonol sy’n adlewyrchu effeithiau hirdymor o alcohol ar yr ymennydd.
Dros y ffin, mae SWB yn arwain y ffordd o ran darparu gwasanaethau alcohol. Fel un o’r timau gofal alcohol cyntaf a sefydlwyd yn y DU, fe’i defnyddiwyd fel astudiaeth achos ‘safon aur’ gan GIG Lloegr ac fe’i hystyrir yn arweinydd cenedlaethol ar gyfer darparu gofal o ansawdd uchel i’r rhai sy’n byw ag anhwylderau defnyddio alcohol. Ers ei sefydlu yn 2018, mae’r tîm wedi tyfu o ran niferoedd ac arbenigedd, ac wedi ennill gwobrau amrywiol, gan gynnwys Gwobr ‘Nursing Times’.
Mae’r bartneriaeth genedlaethol hon wedi creu pont rhwng arbenigedd gwasanaeth a’r byd academaidd, gan ategu’r sgiliau presennol o fewn y Tîm Gofal Alcohol trwy fynediad at arbenigedd mewn seicoleg caethiwed, dadansoddi data, llunio argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth, ac ARBD.
Nod y cydweithrediad yw gwerthuso gweithgareddau'r Tîm Gofal Alcohol, helpu i hyrwyddo eu model gofal effeithiol ymhlith cynulleidfaoedd academaidd a gofal iechyd, a pharhau darganfod cyfleoedd ymchwil a chyllid yn y dyfodol a fydd yn arwain at welliannau mewn gofal i gleifion.
Yn ogystal, mae cwrs hyfforddi ARBD ar-lein ar gael. Wedi'i greu gan ymchwilwyr PDC, bydd yr hyfforddiant yn cael ei gyflwyno’n genedlaethol i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r cyflwr.
I ddathlu'r cydweithio hwn, mae'r bartneriaeth wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Rhwydwaith Ymchwil Clinigol y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal yn y categori cydweithredu/partneriaeth mewn ymchwil.
Dywedodd Darren Quelch, Uwch Gynorthwyydd Ymchwil PDC: “Mae’r Tîm[SH1] Gofal Alcohol yn SWB yn arloeswyr yn eu maes. Mae hyrwyddo eu hymagwedd at ddarparu gofal ar gyfer y grŵp hwn sy’n agored i niwed, ac sy’n cael ei esgeuluso’n aml, yn hanfodol ar gyfer datblygu gwelliannau cenedlaethol i reoli anhwylderau defnyddio alcohol.
“Yn ganolog i’r cydweithio mae datblygu argymhellion arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’w gweithredu’n ehangach. Gellir trosglwyddo'r technegau ymchwil ac arloesi a ddefnyddir gan y Timau PDC a Gofal Alcohol yn uniongyrchol i dimau a lleoliadau gofal tebyg. Mae’r ymchwil sydd ar y gweill ar hyn o bryd wedi bod yn hanfodol i ddangos yr effaith hon.”
Dywedodd Arlene Copland, Prif Nyrs ACT: “Rydym yn ymwybodol bod llawer o bobl mewn perygl o gael ARBD ac mae hyn yn peri pryder. Mae'r cyflwr hwn yn aml yn anodd ei ddiagnosio, felly mae'n hanfodol bwysig ein bod yn codi ymwybyddiaeth ac mae cleifion yn cael eu rhoi ar gynllun triniaeth cydnabyddedig. Mae ARBD yn cael ei achosi gan berson sy’n yfed gormod o alcohol yn rheolaidd neu oryfed mewn pyliau dros nifer o flynyddoedd, a phobl sydd â gwerth maethol isel sy’n wynebu’r perygl mwyaf. Yn gyffredinol, mae symptomau ARBD yn effeithio ar bobl rhwng 40 a 50 oed ond gallant fod yn hŷn na hyn.
“Trwy weithio gyda’r Grŵp Ymchwil Caethiwed a gweithredu’r hyfforddiant, byddwn yn gwella gofal i’n cleifion sy’n cyflwyno gyda’r cyflwr hwn. Gwyddom pe bai person yn rhoi’r gorau i yfed, yn parhau i fod yn rhydd o alcohol ac yn cael cefnogaeth dda, gallent wella’n rhannol neu hyd yn oed yn llwyr.”
Meddai’r Athro Sally Bradberry, Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Gwybodaeth Gwenwynau Cenedlaethol sydd wedi’i leoli yn Ysbyty’r Ddinas Birmingham: “Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda chydweithwyr o’r Grŵp Ymchwil Caethiwed ac am y gydnabyddiaeth gan y Rhwydwaith Ymchwil Clinigol.
“Mae Dr Darren Quelch a’i gydweithwyr, yr Athro Bev John a’r Athro Gareth Roderique-Davies, mewn dim ond tri mis, wedi darparu mewnwelediad, arbenigedd a brwdfrydedd heb ei ail sydd wedi trawsnewid allbwn academaidd a gweledigaeth ymchwil y Tîm Gofal Alcohol. Rydym wedi cael ein cyffroi a’n hysbrydoli gan y cyfleoedd y mae’r cydweithio hwn yn eu cyflwyno ar gyfer astudiaethau academaidd a datblygiadau gwasanaeth yn y dyfodol i wella gofal cleifion y mae alcohol yn effeithio’n niweidiol ar eu hiechyd.”
Digwyddodd y cydweithio ar ôl i Kelly Hard, Pennaeth Ymchwil a Datblygu’r Ymddiriedolaeth hwyluso’r bartneriaeth.
Ychwanegodd yr Athro Bradberry: “Rydym yn ddyledus i Kelly Hard.”