PDC yn ymuno â phrosiect £5m i ddatblygu adeiladau sero net
12 Hydref, 2023
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn rhan o brosiect sydd wedi derbyn grant o £5m i gyflymu datblygiad adeiladau sero net.
Mae adeiladau - fel cartrefi a swyddfeydd - yn gyfrifol am 40% o holl allyriadau carbon y DU.
Bydd y prosiect hwn, o'r enw Switch to Net Zero Buildings, yn galluogi adeiladau ledled de Cymru i gynhyrchu, storio a rhyddhau eu gwres a'u trydan eu hunain.
Yn hanfodol, byddai adeiladau'n cael eu cysylltu gyda'i gilydd mewn system ynni ranbarthol sydd nid yn unig yn garbon isel ond sydd hefyd yn rhoi mwy o reolaeth i ddefnyddwyr ynni.
Mae'r prosiect yn gonsortiwm dan arweiniad Prifysgol Abertawe gyda Phrifysgol Caerdydd a PDC, mewn partneriaeth â Chyngor Castell-nedd Port Talbot, Llywodraeth Cymru, a Diwydiant Sero Net Cymru.
Y syniad yw gweld 'adeiladau fel pwerdai', cysyniad dylunio a arloeswyd gan Brifysgol Abertawe ar gyfer cartrefi ac adeiladau annomestig. Dangoswyd eisoes bod yr egwyddor yn gweithio, er enghraifft yn yr Adeiladau Gweithredol ar gampws Prifysgol Abertawe.
Nod y prosiect newydd yw cyflymu'r gyfradd y caiff arloesiadau eu mabwysiadu, sy'n golygu bod y technolegau hyn yn dod yn fwy fforddiadwy ac yn cael eu defnyddio'n ehangach. Bydd yr ecosystem arloesedd hon hefyd yn creu cadwyni cyflenwi lleol cryf, gan hybu twf economaidd yn y rhanbarth.
Mae'r cyllid gwerth £5 miliwn wedi'i ddyfarnu gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) yr UKRI, ar ffurf Cyfrif Cyflymu Effaith ar Sail Lle
Mae'r SWITCH to Net Zero Buildings yn un o 10 prosiect i gael y dyfarniad hwn gan yr EPSRC, ac mae tri ohonynt yn cynnwys cydweithredwyr o Gymru.
Meddai'r Athro Alan Guwy: "Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r prosiect cyffrous hwn sy'n adeiladu ar y cydweithio cryf mewn ymchwil a datblygu sero net yr ydym wedi'u meithrin yng Nghymru ers blynyddoedd lawer. Bydd gwaith SERC yn SWITCH yn canolbwyntio ar gynhyrchu ynni glân, deunyddiau cynaliadwy a lleihau allyriadau tŷ gwydr o'r amgylchedd adeiledig."
Dywedodd George Freeman, Gweinidog Gwyddoniaeth Llywodraeth y DU: "Mae De Cymru yn ganolfan gynyddol ar gyfer sectorau'r dyfodol, gan chwarae rhan ganolog ar ein taith i adeiladau sero net, gan hyrwyddo economi hydrogen y DU a thrwy ei chwmnïau lled-ddargludyddion arloesol.
"Bydd ein buddsoddiad gwerth dros £9m mewn prosiectau dan arweiniad prifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn cefnogi hyfforddiant cynhwysfawr a miloedd o swyddi newydd, gan osod y sylfeini sy'n dod â buddsoddiad preifat pellach am flynyddoedd i ddod - gan dyfu economïau Cymru a'r DU ehangach."
Bydd cyfrif SWITCH to Net Zero Buildings yn rhan o SWITCH, Cyflymydd Sero Net Cymru. Mae SWITCH yn rhwydwaith cydweithredol eang ar draws y byd academaidd, y llywodraeth a’r diwydiant, gan ddod at ei gilydd i gefnogi uchelgeisiau sero net y rhanbarth.
Mae'r cyllid hwn yn dilyn cyhoeddiadau diweddar eraill yn y rhwydwaith SWITCH, gan gynnwys penodi'r contractwr Morgan Sindell i adeiladu SWITCH Harbourside a N0W Skills, sy'n creu meithrinwr sgiliau gwyrdd mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig â gweithgynhyrchu.