PDC yn ymuno ag uwchglwstwr hydrogen rhanbarthol

17 Hydref, 2023

Llun o'r awyr o gampws Trefforest

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn rhan o brosiect gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn datblygu uwch-glwstwr hydrogen yn Ne-orllewin Lloegr a De Cymru.

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn rhan o brosiect gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn datblygu uwch-glwstwr hydrogen yn Ne-orllewin Lloegr a De Cymru.

Bydd y prosiect 'GW-SHIFT: Uwchglwstwr y Gorllewin o Effaith Hydrogen ar gyfer Technolegau'r Dyfodol' yn dod â phartneriaid academaidd, dinesig a diwydiant ynghyd i ddatgloi potensial enfawr ecosystem hydrogen y rhanbarth, gan ddarparu atebion ar gyfer storio a dosbarthu, trafnidiaeth, a'r sector ynni sy'n cefnogi hyd at 100,000 o swyddi erbyn 2050.

Mae GW-SHIF, dan arweiniad Prifysgol Caerfaddon a Phrifysgol Caerwysg, wedi sicrhau £2.5m gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) fel rhan o'i dyfarniadau Cyfrif Cyflymu Effaith Seiliedig ar Le (PBIAA).

Bydd PDC yn ymuno ag ymchwilwyr o Brifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd, Caerwysg, Abertawe a Plymouth, ynghyd â 25 o bartneriaid dinesig a diwydiant, gan gyfrannu mwy na £1.5m mewn cronfeydd ychwanegol a chymorth cyfatebol, i wneud y mwyaf o botensial enfawr ecosystem hydrogen De-orllewin Lloegr a De Cymru. Bydd GW-SHIFT hefyd yn galluogi partneriaethau traws-sector i yrru datblygiad sgiliau, seilwaith a thechnoleg hydrogen.

Fel y dengys ymchwil hirsefydlog PDC, bydd technolegau hydrogen yn chwarae rhan bwysig wrth ddatgarboneiddio diwydiant, trafnidiaeth ac ynni i gyrraedd targed Sero Net 2050 llywodraeth y DU. Bydd GW-SHIFT yn alluogwr allweddol i'r blaenoriaethau hyn, gan gefnogi'r broses o drawsnewid y DU i gynhyrchu a defnyddio hydrogen carbon isel.

Dros y pedair blynedd nesaf, bydd GW-SHIFT yn cefnogi ymchwil a gweithgareddau arloesol i greu uwchglwstwr hydrogen carbon isel ffyniannus sy'n canolbwyntio ar themâu allweddol fel cynhyrchu, storio a dosbarthu, trawsnewid a thrafnidiaeth.

Gan weithio gyda phartneriaid presennol a nodi rhai newydd i fod yn rhan o'r prosiect, bydd yn cyd-greu atebion hydrogen carbon isel ar gyfer hedfan a llongau, gwresogi adeiladau, a'r sector pŵer. Mae Llwybr Cyflenwi Hydrogen Porth y Gorllewin yn cyfrifo y gallai buddsoddi mewn seilwaith hydrogen yn yr ardal greu hyd at 40,000 o swyddi newydd a diogelu 60,000 arall.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru, Dr Ben Calvert: "Mae bod yn rhan o'r prosiect hwn yn adeiladu ar ymgyrch y Brifysgol i fod yn rym blaenllaw yn y genhadaeth i adeiladu byd mwy cynaliadwy, a bydd yn cryfhau ein perthynas â diwydiant a phartneriaid eraill wrth i ni weithio gyda'n gilydd i ddatrys problemau'r byd go iawn."

Dywedodd Jon Maddy, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Hydrogen PDC: "Rydym yn falch iawn o fod wedi ymuno ag academyddion arbenigol ledled De Cymru a De-orllewin Lloegr ar gyfer y prosiect pwysig hwn. Mae ein gwaith gyda Hydrogen yn cefnogi nod y Brifysgol i ymdrechu am ragoriaeth ymchwil ac effaith arloesi. Mae GW-SHIFT yn enghraifft glir o ymchwil effeithiol sy'n cyfrannu at ddatrys problemau gwirioneddol sy'n wynebu ein cymdeithas.

"Bydd y timau ymchwil cyflenwol ac amlddisgyblaethol yn GW-SHIFT yn cydweithio â diwydiant, cymunedau a sefydliadau'r llywodraeth i ddatblygu atebion hydrogen a fydd yn arwain at ddatgarboneiddio traws-sector a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau."