Pennaeth ymchwil yn derbyn anrhydedd gan y Gymdeithas Frenhinol
18 Hydref, 2023
Mae uwch academydd ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi derbyn gwahoddiad i ddod yn aelod o Bwyllgor Cymrodoriaethau Rhyngwladol Newton y Gymdeithas Frenhinol.
Bydd yr Athro Duncan Pirrie, sy'n Ddeon Cyswllt - Ymchwil ac Arloesedd, yng Nghyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth PDC, yn ymgymryd â'r swydd ddechrau'r flwyddyn nesaf.
Mae'r Athro Pirrie wedi cyhoeddi dros 130 o bapurau a llyfrau gwyddonol sy'n canolbwyntio ar rôl daeareg mewn cymdeithas gan gynnwys astudiaethau fforensig ac amgylcheddol a phwysigrwydd daeareg wrth drosglwyddo i ddyfodol carbon isel.
Mae Pwyllgor Cymrodoriaethau Rhyngwladol Newton y Gymdeithas Frenhinol yn gyfrifol am adolygu ceisiadau a wneir i'r Gymdeithas ar gyfer cymrodoriaethau rhyngwladol. Mae'r rhain yn darparu cymorth i ymchwilwyr gyrfa gynnar rhagorol o bob cwr o'r byd i gymryd y cam cyntaf tuag at ddatblygu gyrfa ymchwil annibynnol drwy ennill profiad ar draws ffiniau rhyngwladol.
"Mae'n anrhydedd mawr i mi ac i PDC fy mod wedi derbyn gwahoddiad gan y Gymdeithas Frenhinol i ddod yn aelod o’r Pwyllgor Cymrodoriaethau," meddai'r Athro Pirrie.
"Mae hyn yn adeiladu ar waith y Brifysgol o gefnogi'r Cyngor Academyddion Mewn Perygl (CARA) ac mae'n dda gwybod y byddaf yn gallu cefnogi ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i ddatblygu eu sgiliau a'u profiad mewn llawer o feysydd ymchwil hanfodol".
"Rwy'n edrych ymlaen at ddechrau'r gwaith hwn ac i edrych dros yr hyn y disgwyliaf i fod yn geisiadau cyfareddol am gymorth."