Sut y gall gwasanaethau defnyddio sylweddau gefnogi pobl LHDTC+ yn well

30 Hydref, 2023

Agoslun o fathodyn baner enfys wedi'i binio ar siaced denim

Mae pobl LHDTC+ yn y DU yn wynebu rhwystrau mawr i gael mynediad at wasanaethau defnyddio sylweddau, oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys ofn gwahaniaethu a stigma. Mae ein hymchwil wedi taflu goleuni ar y rhwystrau hyn ac yn cynnig syniadau ar gyfer helpu'r gymuned hon yn well.

Fe wnaethom ofyn i 38 o bobl LHDTC+ am eu profiadau o ddefnyddio alcohol a chyffuriau eraill, cael triniaeth a sut maent yn meddwl y gallai gwasanaethau cymorth a thriniaeth wella.

Mae rhai pobl LHDTC+ yn wynebu heriau fel gwrthod, stigma a chamdriniaeth a all gael effaith negyddol ar eu hunan-barch. Yn brin o leoliadau cymdeithasol eraill, efallai mai lleoliadau masnachol fel tafarndai a chlybiau yw eu hunig gysylltiad â’r gymuned, a allai arwain at ddefnyddio sylweddau.

Nododd y cyfranogwyr heriau megis normaleiddio diwylliant yfed a mynd at glybiau yn y gymuned. Fel yr eglurodd un: “Gall bod yn rhan o’r gymuned LHDTC+, i rai pobl, fod yn straen ynddo’i hun. Mae’r byd clybio mewn rhai ardaloedd yn canolbwyntio’n fawr ar gyffuriau/alcohol”.

Hefyd dywedodd cyfranogwr arall: “Yn hanesyddol, rwy’n meddwl bod cyffuriau adloniadol wedi’u cysylltu â’r gymuned LHDTC+, yn enwedig ymhlith dynion, y gallai hyn arwain at bobl yn meddwl y dylen nhw hefyd oherwydd bod ‘pawb yn cymryd cyffuriau’”.

Ni chafodd llawer o ymatebwyr fynediad at wasanaethau cymorth oherwydd eu bod yn ofni stigma, gwahaniaethu, a rhwystrau i driniaeth. Roedd rhai hefyd yn amau effeithiolrwydd gwasanaethau triniaeth neu wedi cael profiadau negyddol yn ceisio cymorth yn y gorffennol.

Dywedodd un cyfranogwr wrthym: “Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n cael unrhyw gymorth pe bawn i’n ei geisio oherwydd ni chefais gymorth ar gyfer pethau eraill pan oeddwn yn ei geisio a’i angen, ac oherwydd bod pobl eraill yn waeth na fi”.

Agwedd bwysig o'r ymchwil hwn oedd gwrando ar leisiau'r rhai â phrofiad bywyd o ddefnyddio sylweddau ac ymgysylltu â gwasanaethau triniaeth cyffuriau. Wrth wneud hynny, fe wnaethom nodi pum awgrym ar gyfer gwella ymgysylltiad â’r gymuned LHDTC+:

1. Hyfforddiant

Gallai hyfforddi staff ar hunaniaeth, profiadau ac anghenion LHDTC+ helpu i sicrhau bod gwasanaethau triniaeth yn fwy croesawgar a sensitif. Gall hyn leihau ofnau stigma neu wahaniaethu sy'n atal pobl LHDTC+ rhag cael mynediad at gymorth.

2. Recriwtio

Cyfeiriwyd at deimlo’n anghyfforddus wrth siarad am ryw neu hunaniaeth o ran rhywedd fel rhywbeth a oedd yn atal pobl rhag cael mynediad at wasanaethau.

Er enghraifft, esboniodd un cyfranogwr ei bod yn anodd siarad â gweithwyr proffesiynol heterorywiol am Gemryw, sef y defnydd o gyffuriau cyn neu yn ystod gweithgaredd rhywiol a gynlluniwyd i wella neu hwyluso'r profiad. Mae Cemryw fel arfer yn digwydd mewn partïon neu achlysuron a drefnir yn benodol at y diben hwn.

Mae angen i ddarparwyr triniaeth ddeall diwylliant LHDTC+ i helpu pobl i deimlo'n fwy cyfforddus wrth drafod materion personol fel cemryw, y gallai llawer o weithwyr proffesiynol heterorywiol fod yn llai cyfarwydd â nhw.

Gallai cyflogi aelodau o staff LHDTC+ o gefndiroedd amrywiol hefyd helpu i wneud i wasanaethau deimlo’n fwy cynhwysol a chefnogol.

3. Cymhwysedd diwylliannol

Er bod rhai pobl yn gwerthfawrogi gwasanaethau cynhwysol presennol, dywedodd mwy na hanner o’r cyfranogwyr eu bod yn dal i wynebu rhwystrau wrth geisio cael mynediad atynt. Awgrymodd llawer o’n cyfranogwyr y byddai cael gwasanaethau sydd wedi’u teilwra at faterion LHDTC+ yn ddefnyddiol.

Ond byddai hefyd yn helpu pe bai darparwyr triniaeth presennol yn dysgu mwy am ddiwylliannau LHDTC+. Gelwir hyn yn “gymhwysedd diwylliannol”, sy’n golygu bod yn ymwybodol o’ch credoau a’ch gwerthoedd diwylliannol eich hun, a sut y gallant fod yn wahanol i rai pobl o ddiwylliannau eraill. Mae hefyd yn golygu bod yn agored i ddysgu am wahanol ddiwylliannau fel y gallwch ddeall a diwallu anghenion y gymuned.

Gallai gwasanaethau grŵp sydd wedi’u cynllunio ar gyfer a chan bobl LHDTC+ leihau’r risg o deimlo’n ymylol mewn grwpiau cymysg. Byddai darparwr sy’n gymwys mewn diwylliannau LHDTC+ yn cael ei addysgu am brofiadau LHDTC+, yn ymwybodol o’u rhagfarnau posibl eu hunain, ac yn gallu cynnig lle croesawgar ar gyfer trafodaeth agored heb farn na chamddealltwriaeth.

4. Allgymorth

Gallai mynychu digwyddiadau Balchder a mannau cymunedol helpu i feithrin ymddiriedaeth a gwella cysylltiadau â phobl LHDTC+. Gallai hyn hefyd wneud gwasanaethau'n fwy gweladwy, hawdd mynd atynt, ac ar gael i'r bobl sydd eu hangen.

5. Hysbysebu

Roedd arwyddion gweladwy o gynhwysiant LHDTC+ hefyd yn bwysig i'n hymatebwyr. Gallai symbolau fel baneri enfys a nodi’n benodol “croeso i bobl LHDTC+” mewn deunyddiau hyrwyddo helpu i gyfathrebu bod gwasanaethau’n cadarnhau hunaniaethau pobl LHDTC+ ac yn fannau diogel.

Dywedodd un person wrthym: “Yn gyffredinol, pe bai’n croesawu pobl LHDT yn amlwg, efallai y byddai’n lleihau unrhyw bryder”.

Mae angen i ni nawr weithio'n galetach i ddeall y materion cymhleth hyn gyda grwpiau mwy a mwy amrywiol o gyfranogwyr LHDTC+.

Mae pawb yn haeddu gofal cadarnhaol, tosturiol tuag at faterion yn ymwneud â defnyddio sylweddau. Mae ymgysylltu'n feddylgar â chymunedau LHDTC+ a gwrando ar eu safbwyntiau yn hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau teg. Mae gweithredu arferion sy’n gynhwysol i bobl LHDTC+ yn gofyn am ymrwymiad ond mae'n gwbl ymarferol.

Mae gwasanaethau defnyddio sylweddau sy’n barod i ddysgu, addasu a thyfu, yn gallu creu amgylcheddau croesawgar i bobl LHDTC+ yn llwyddiannus. Yn y pen draw, mae camau bach tuag at gynhwysiant yn galluogi mwy o fynediad at gymorth i gymunedau sydd wedi teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu ers cyfnod hir.

Mae'r erthygl hon yn cael ei hailgyhoeddi o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.