PDC yn datblygu dyfais hyfforddi ar-lein ar gyfer meddygon filoedd o filltiroedd o’r 'claf'

26 Ionawr, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Screenshot_2022-05-05_at_10.43.04.png

Mae arbenigwyr meddygol a thechnoleg yng Nghymru wedi cydweithio i ddatblygu dyfais hyfforddi rithwir all ganiatáu i feddygon 'gyffwrdd' claf, hyd yn oed os ydyn nhw filoedd o filltiroedd ar wahân.

Mae arbenigwyr yn y Ganolfan Ragoriaeth mewn Technoleg Symudol a Datblygol (CEMET), sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), wedi bod yn gweithio gydag Advanced Medical Simulation Online (AMSO) o Gaerdydd ar ddatblygu prawf cysyniad ar gyfer y dechnoleg ddiweddaraf.

Os profir ei bod yn gweithio'n llwyddiannus, bydd y dechnoleg yn chwyldroi gallu AMSO i gynnig hyfforddiant o bell i ddefnyddwyr ledled y byd.

Eglurodd yr Athro Nazar Amso, Prif Weithredwr AMSO, yr heriau fu ynghlwm wrth eu gwaith yn y gorffennol.

"Cafodd y busnes ei sefydlu yn 2015 i gefnogi hyfforddiant sgiliau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gyda llawer yn defnyddio ein hadnoddau o bob cwr o'r byd. Roedd hyn yn cynnwys pobl yn y Bahamas, y Dwyrain Canol, Fiji,  a Seland Newydd, all gyrchu’r hyfforddiant o bell ddydd a nos," meddai.

"Er ein bod yn trosglwyddo’r wybodaeth ac yn gallu asesu a oeddent yn deall y damcaniaethau oedd yn cael eu dysgu, doedden ni ddim yn gallu asesu a oedd elfennau 'ymarferol' yr hyfforddiant wedi cael eu deall yn iawn oni bai bod y myfyrwyr yn gallu dod i’n canolfan efelychu yng Nghaerdydd - fyddai'n amlwg yn gostus i fyfyrwyr sy'n byw filoedd o filltiroedd i ffwrdd.

"Daeth y cyfyngiad hwn yn amlycach yn ystod pandemig Covid-19 a'r effaith a gafodd ar fyfyrwyr yn cyrchu hyfforddiant clinigol yn eu man gwaith eu hunain. Felly, roedd angen i ni ddatblygu system a allai ganiatáu i'r myfyrwyr brofi eu sgiliau drwy realiti rhithwir ymdrochol."

Ar ôl trafod anghenion cymorth gyda Busnes Cymru, cyfeiriwyd AMSO at arbenigwyr yn CEMET i gael help i ddatblygu system a allai ddod â nifer o ddefnyddwyr mewn lleoliadau gwahanol at ei gilydd, a’u galluogi i ryngweithio â gwrthrychau yn rhithwir gan ddefnyddio menig wedi'u cynllunio'n arbennig i gyfleu teimlad ac ymwrthiant teimlad, a dirgryniadau.

"Roedd cael ein cyflwyno i CEMET yn foment drawsnewidiol yn hanes y cwmni," dywedodd yr Athro Amso.

"Gan weithio o bell gyda nhw dros gyfnod o wyth mis, bu modd i ni amlinellu ein gweledigaeth, ein nodau, a'n disgwyliadau o'r cydweithio. Yna, darparwyd senarios clinigol i dîm CEMET a fyddai, yn yr amgylchedd rhithwir, yn dangos prawf cysyniad ein gweledigaeth.

"Cafodd hyn wedyn ei droi'n sefyllfa glinigol mewn amgylchedd rhithwir oedd yn ystyried pa help oedd ei angen ar feiciwr oedd wedi disgyn oddi ar ei feic a’i gludo i uned frys gyda phoen ysgwydd."

Trwy'r dechnoleg, roedd y rhai a oedd yn ymgymryd â'r hyfforddiant yn gallu trafod yr anaf gyda'r claf, cynnal archwiliadau corfforol, yna gweithredu peiriannau uwchsain yn gywir, a chynhyrchu sgan - y cyfan o bell a gydag adborth a chyngor perthnasol gan yr hyfforddwr. Roedd modd gwneud hyn yn unigol, neu’n rhan o grŵp.

Mae AMSO wedi sefydlu cwmni pwrpasol - Metaverse Education and Training Applications Ltd – META Learning - i ddatblygu'r cysyniad ymhellach ac mae’n chwilio am fuddsoddiad i allu mynd â'r system i'r farchnad.

Mae'r Athro Amso yn hael ei glod ynghylch y gefnogaeth mae CEMET wedi'i gynnig.

"Mae ein cydweithrediad â thîm CEMET wedi bod yn werthfawr iawn. Mae wedi bod yn ddefnyddiol, yn bleserus, ac wedi rhoi boddhad mawr. Yn anad dim, mae wedi gwireddu ein nod o ddangos potensial amgylchedd rhithwir ymdrochol mewn dysgu o bell a chaffael sgiliau mewn amgylchedd gofal iechyd," dywedodd.

Yn ôl Clayton Jones, Rheolwr Rhaglenni yn CEMET, mae'r gwaith gydag AMSO yn enghraifft arall o sut y gall arbenigwyr technoleg y Ganolfan ddod â gweledigaeth entrepreneuriaid yn fyw.

"Ers sefydlu CEMET yn 2016 rydyn ni wedi helpu dwsinau o gwmnïau bach yng Nghymru i ddatblygu prosiectau unigryw, yn amrywio o brofion llygaid arbenigol i blant bach, afatars teledu i helpu gydag addysg plant, a monitro ceudyllau ar y ffyrdd, i helpu i sicrhau bod gweithwyr rheilffordd yn ddiogel, datblygu drymiau arbenigol ar gyfer cerddorion drwy ap, a helpu sylwebwyr chwaraeon i gael data amser real ar y chwaraewyr sydd o'u blaen.

"Roedd gweledigaeth AMSO yn cyd-fynd yn berffaith â'n strategaeth a'n harbenigedd, ac rydyn ni’n falch iawn bod y busnes yn mynd o nerth i nerth o ganlyniad i'r bartneriaeth."

Mae CEMET yn galluogi busnesau bach a chanolig cymwys i gael mynediad at ymchwil a datblygu cydweithredol wedi'i ariannu drwy broses Ymchwil a Datblygu tri cham unigryw, sy'n trawsnewid syniad arloesol yn gynnyrch o ansawdd uchel. Mae'r broses yn sicrhau bod entrepreneuriaid yn y sefyllfa orau i fanteisio ar y cydweithio, gyda'r nod o ysgogi twf busnes.

Lleolir CEMET ym Mhrifysgol De Cymru, o fewn y Gyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth, ac fe'i cyllidir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru.