Trochi! 2023 yn argoeli i fod y gorau eto

6 Ionawr, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Immersed_2023_logo_wide.png

Bydd gŵyl gerddoriaeth sy’n cael ei rhedeg gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru yn dathlu pum mlynedd o gefnogi talent newydd wrth iddi ddychwelyd ym mis Chwefror.

Cynhelir Trochi! 2023 rhwng 17 a 19 Chwefror, mewn partneriaeth ag Orchard Live a Libertino Records, gan godi arian ar gyfer yr elusen newid hinsawdd Music Declares Emergency.

Eleni bydd yr ŵyl yn cael ei lansio ar Gampws Caerdydd PDC gyda’r seremoni gwobrwyo 5ed pen-blwydd Trochi! yn dathlu artistiaid allweddol sydd wedi cyfrannu at ei llwyddiant dros y pum mlynedd diwethaf. Bydd y gwobrau'n cynnwys perfformiadau byw trwy garedigrwydd Libertino Records, ffair gyrfaoedd diwydiant cerddoriaeth a gig ymylol gan gyfranogwyr Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Ddydd Sadwrn 18 Chwefror bydd y rapiwr Lady Leshurr sydd wedi ennill gwobrau MOBO yn camu i lwyfan Tramshed Caerdydd fel prif berfformiwr Trochi! Yn adnabyddus am ei gwaith elusennol, dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i’r Fonesig Leshurr yn Anrhydeddau Pen-blwydd Ei Mawrhydi’r Frenhines yn 2020, ar ôl rhoi’r holl elw ar gyfer ei ‘Haraith Cwarantîn’ i’r GIG.

Ymhlith yr artistiaid sy’n cefnogi mae’r rapiwr Cymreig Sage Todz, y daeth ei record ‘O Hyd’ yn anthem answyddogol i dîm pêl-droed Cymru yn ystod Cwpan y Byd yn Qatar, a Minas, a fydd yn perfformio traciau o’i albwm newydd, ‘All My Love Has Failed Me’.

Yn cwblhau arlwy’r prif lwyfan bydd y band pync o Gaerdydd, Terrapins, y ddeuawd hip-hop Diffjaxx a’r triawd roc Shlug.

Bydd yr ŵyl yn gweld mwy na 50 o artistiaid a bandiau’n perfformio ar bedwar llwyfan yn ystod Trochi!, sydd hefyd yn cynnig bwyd stryd, theatr fyw, gweithdai, parlwr tatŵ a marchnad ffasiwn uwchgylchu.

Bydd Trochi! yn cloi ddydd Sul 19 Chwefror gyda Immersed TV, darllediad byw ar-lein yn cynnwys uchafbwyntiau o’r prif lwyfan, cyfweliadau ag artistiaid a dangosiad o ‘Pum Mlynedd’, rhaglen ddogfen ar etifeddiaeth Trochi!

Fel rhan o'i waith partneriaeth gyda Music Declares Emergency, nod Trochi! yw tynnu sylw at effeithiau newid yn yr hinsawdd a helpu i hyrwyddo dyfodol gwyrddach, mwy cynaliadwy. Am y tro cyntaf, bydd yr ŵyl yn cynnig profiad naratif rhyngweithiol, gyda phob un o’r pedwar llwyfan yn cynrychioli’r pedair elfen – tân, daear, aer a dŵr – gyda myfyrwyr Drama PDC yn perfformio fel amrywiaeth o gymeriadau.

Dywedodd Lucy Squire, Pennaeth Cerdd a Drama Prifysgol De Cymru: “Rydym wrth ein bodd yn dod â Trochi! yn ôl am flwyddyn arall o dalent gerddorol gyffrous, gan arddangos sîn gerddoriaeth amrywiol, sy’n esblygu’n barhaus yn Ne Cymru gyda neges bwysig o gynaliadwyedd.

“Rydym yn parhau i gydweithio ag amrywiaeth eang o gerddorion, hyrwyddwyr, labeli a sefydliadau i wneud i Trochi! ddigwydd, ac eleni rydym yn anelu at greu profiad newydd cyffrous i gynulleidfaoedd yn ogystal â digwyddiadau ymylol a seremoni wobrwyo.”

Am fwy o wybodaeth ar Trochi! ewch i http://immersedfestival.co.uk/ neu e-bostiwch [email protected]