Y cynhyrchydd teledu Jane Tranter yn derbyn gradd er anrhydedd gan PDC
11 Ionawr, 2023
Mae'r cynhyrchydd teledu hynod lwyddiannus, Jane Tranter, wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol De Cymru (PDC) yr wythnos hon.
Derbyniodd Jane, cyd-sylfaenydd Bad Wolf, cwmni cynhyrchu o Gaerdydd, y radd er anrhydedd mewn seremoni raddio yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru) ar ddydd Mercher 11 Ionawr.
Mae'n gynhyrchydd gweithredol sy’n hynod uchel ei pharch yn y diwydiant, ac yn un o’r rhai mwyaf llwyddiannus. Mae wedi derbyn Gwobr Arbennig BAFTA am ei chyfraniad i deledu, a chyn mynd yn annibynnol, bu’n Bennaeth Rhaglenni Ffuglen y BBC ac yn Is-lywydd Gweithredol Rhaglennu a Chynhyrchu gyda BBC Worldwide.
Yn 2005, bu'n goruchwylio ail-eni Doctor Who, gan adleoli’r cynhyrchiad i Gaerdydd. Yn 2015, cydsefydlodd gwmni cynhyrchu Bad Wolf yng Nghaerdydd, gyda chynhyrchydd teledu arall o Gymru, sef Julie Gardner. Dyma gwmni cynhyrchu mwyaf y DU y tu allan i Lundain, ac mae’n gyfrifol am gyfresi arobryn fel His Dark Materials, a'r gyfres lwyddiannus I Hate Suzie ar gyfer teledu Sky.
Yn 2018, sefydlodd Jane hefyd Screen Alliance Wales – cwmni unigryw, nid-er-elw wedi’i leoli yn Wolf Studios yng Nghaerdydd sy’n gweithredu fel porth rhwng y diwydiant ffilm a theledu a’i weithlu, gan roi addysg a hyfforddiant wrth galon cynyrchiadau teledu a mynd â hyfforddiant i ysgolion, colegau a chymunedau ar draws Cymru.
Dywedodd Tom Ware, Deon Cyswllt, Trawsnewid Cyfryngau a Phartneriaethau yn PDC: “Rydym yn falch o ddweud mai PDC oedd y sefydliad cyntaf i fod yn bartner gyda Screen Alliance Wales a, dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld manteision uniongyrchol y bartneriaeth honno, gyda channoedd o’n myfyrwyr yn mwynhau mynediad i ddosbarthiadau meistr, hyfforddiant, gweithdai, ymweliadau set a lleoliadau gwaith ar rai o’r cyfresi drama mwyaf yn y byd. O’r 30,000 o fyfyrwyr a disgyblion ysgol y mae Screen Alliance Wales wedi’u cefnogi drwy eu rhaglenni, mae llawer wedi mynd ymlaen i newid wyneb y diwydiannau sgrin er gwell.
“Mae Screen Alliance Wales yn cynrychioli ymrwymiad Jane i ddyfodol teledu – diwydiant sydd, fel hithau, yn deall mai dim ond trwy greu cyfleoedd i bobl o bob cefndir y gall ddod yn fwy cynhwysol, yn fwy amrywiol ac yn fwy cyfartal. Mae’r rhain yn werthoedd yr ydym ni yn PDC yn falch o’u cefnogi a’u rhannu.”
Wrth siarad yn y seremoni graddio ddydd Mercher, dywedodd Jane: “Mae’n anrhydedd gwirioneddol derbyn y Gymrodoriaeth er Anrhydedd hon gan Brifysgol De Cymru. Yn Bad Wolf, rydym i gyd wedi dysgu llawer iawn o’n partneriaeth â PDC a’r myfyrwyr a’r academyddion yno.
"Felly, er fy mod yn hynod falch o gael fy nghydnabod fel hyn, hoffwn rannu hyn gyda’r 32,000 o bobl sydd wedi bod yn rhan o fenter hyfforddi ac allgymorth Screen Alliance Wales dros y pum mlynedd diwethaf. Rydyn ni wir wedi dysgu llawer iawn ganddyn nhw i gyd ac yn gobeithio y bydd y gronfa dalent hon yn parhau i dyfu, gan ganiatáu buddsoddiad parhaus yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru.”