Alessia, un o raddedigion PDC, am roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned

19 Mai, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Alessia_pic_crop.jpg

Mae un o raddedigion Prifysgol De Cymru (PDC) wedi ymgymryd â rôl arbennig i helpu i feithrin cysylltiadau'r sefydliad â'r cymunedau ger ei dri champws.

Alessia Evans yw Swyddog Ymgysylltu Cymunedol cyntaf PDC. Mae wedi'i lleoli yn Nhîm Ymgysylltu a Menter Cyfnewidfa PDC, ac mae'n gweithio ar brosiectau fydd yn defnyddio’r arbenigedd, y profiad a'r  adnoddau sydd ar gael yn y Brifysgol i greu arloesedd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd.  

Un o'r ffyrdd mae PDC yn gweithio ar gynnig cymorth ychwanegol yw trwy'r Daleb Defnyddio Mannau Cymunedol, fydd yn cynnig  mynediad i sefydliadau'r trydydd sector at fannau cyfarfod ar gampysau PDC yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd.

"Mae'r cynllun wedi'i greu ar gyfer elusennau, sefydliadau di-elw ac anllywodraethol a mentrau cymdeithasol, yr ydyn ni’n gobeithio y byddan nhw am ddefnyddio campysau PDC ar  gyfer digwyddiadau sydd â'r bwriad o gael effaith gadarnhaol ar y gymuned," dywed Alessia sy’n un o gyn fyfyrwyr PDC ac sydd â  gradd mewn Seicoleg. Mae hi bellach yn astudio gradd Meistr drwy Ymchwil yn y Brifysgol.

"Pwrpas y daleb yw helpu sefydliadau i oresgyn y straen ariannol sydd ynghlwm wrth gynnal digwyddiad, a rhannu ein cyfleusterau gyda'r gymuned ehangach."

Yn ogystal, mae Hybiau’r Gyfnewidfa ym Mhontypridd a Chasnewydd yn hyrwyddo'r defnydd o'u mannau gwaith am ddim.  Mae'r rhain yn fwyfwy poblogaidd ymhlith sefydliadau'r trydydd sector yn  ogystal â busnesau, ac mae'r Gyfnewidfa yn parhau i godi ymwybyddiaeth o hyn fel rhan o’r hyn mae’r Brifysgol yn ei gynnig i’r gymuned.

Yn ogystal â helpu i adnabod grwpiau a allai elwa o ddefnyddio mannau PDC, rôl Alessia hefyd yw   cysylltu'r sgiliau, y dalent a'r arbenigedd sydd ar gael yn y Brifysgol â chymunedau lleol.   

"Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn tynnu sylw at y rôl bwysig y dylai prifysgolion ei chyflawni wrth lunio dyfodol mwy disglair i ieuenctid Cymru," dywed Alessia.

"Gweledigaeth y Brifysgol, fel rhan o'i strategaeth 2030, yw cefnogi hyn drwy ddangos y gwerth y gallwn ei ychwanegu i gymunedau a chefnogi eu heconomi a'u lles."

Mae cydweithwyr yn PDC eisoes wedi bod yn rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned leol drwy gymryd rhan yn y Cynllun Gwirfoddoli Dinesig Staff – lle gallan nhw ofyn am hyd at bum diwrnod o absenoldeb â thâl  bob blwyddyn i gefnogi achosion dinesig.

Mae Alessia hefyd yn ymchwilio i’r angen am Raglen Fentora Cymunedol drwy'r Arolwg Angen am Fentora Cymunedol, ac mae’n dyfnhau partneriaeth PDC gyda Busnes yn y Gymuned, sydd eisoes wedi gweld sawl digwyddiad yn cael eu cynnal yng Nghasnewydd, i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, a'u goresgyn, fel rhan o Brosiect Lle.

I Alessia, mae cyfrannu at waith ymgysylltu cymunedol y Brifysgol yn rhoi cyfle iddi roi rhywbeth yn ôl i'r sefydliad.