Arbenigwr o PDC yn arwain ar waith Hyb Arloesedd Seiber ar sgiliau

9 Mai, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Sharan_Johnstone.jpg

Mae gan Bennaeth Seiberddiogelwch Prifysgol De Cymru, Sharan Johnstone, rôl arweiniol yn yr Hyb  Arloesedd Seiber (HAS) sydd newydd ei sefydlu.

Cenhadaeth yr HAS, a ddatgelwyd yn ddiweddar gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC), yw trawsnewid de Cymru yn glwstwr seiberddiogelwch blaenllaw erbyn 2030.  Ei nod yw gwneud hyn drwy greu piblinell o gynhyrchion seiberddiogelwch newydd o'r radd flaenaf, busnesau twf uchel, a thalent â sgiliau technegol.

Mrs Johnstone, a enwyd yn Brif Fenyw STEM y Flwyddyn Cymru yn ystod yr hydref y llynedd, yw Pennaeth Pwnc Seiberddiogelwch a Fforenseg Ddigidol PDC, a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Addysg Seiberddiogelwch, sydd wedi ennill safon aur gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC). Mae hi hefyd yn rheoli timau Allgymorth Seiber yn Gyntaf a’r Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol (NDEC) yn PDC.

Fel pennaeth y tîm Talent a Sgiliau yn yr HAS ar ran PDC, mae hi'n falch iawn o fod yn arwain ymdrechion i adeiladu sector seiber y rhanbarth.

"Nod gwaith sgiliau’r Hyb Arloesedd Seiber, sy'n brosiect ar y cyd rhwng Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Tramshed Tech ac Alacrity, yw ailhyfforddi ac uwchsgilio 1,500  a mwy o bobl yng Nghymru i'w helpu i fynd i'r sector seiberddiogelwch, sy'n tyfu'n gyflym ac sy'n rhychwantu pob sector diwydiant, " meddai.

"Mae'n anrhydedd bod yn rhan o'r tîm talent a sgiliau, sydd ar hyn o bryd yn cynnal arolwg ymhlith cyflogwyr a gweithwyr i ddeall eu barn ar fwlch sgiliau’r presennol a’r dyfodol a, a lle mae angen cymorth drwy hyfforddiant, er mwyn sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn rym cystadleuol yn y sector."

Yn lansiad yr HAS yng Nghaerdydd, ymunwyd â gwleidyddion, arweinwyr diwydiant, ac academyddion gan gyllidwyr o bob cwr o'r DU.

Yn y digwyddiad, dywedodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething: "Mae Llywodraeth Cymru’n falch o gyd-ariannu'r HAS a’i chenhadaeth i drawsnewid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn un o brif glystyrau seiber y DU erbyn 2030.

"Bydd yr HAS yn hanfodol i’r gwaith o gefnogi economi Cymru trwy greu swyddi â gwerth uchel a gweithlu medrus i gwrdd â gofynion y sector seiber-ddiogelwch.

"Bydd yr Hyb hefyd yn helpu i wireddu'r weledigaeth a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru a lansiwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, drwy hyrwyddo partneriaethau a chydweithio cryf fel y gallwn adeiladu ar ein hecosystem seiber a'i thyfu, gan ddod â manteision pellach fyth i'r economi a sicrhau dyfodol ffyniannus a gwydn i Gymru."

Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £3 miliwn yn yr Hyb newydd dros ddwy flynedd, gyda £3 miliwn o gyllid ar y cyd gan P-RC a £3.5 miliwn mewn nwyddau (a/neu wasanaethau) ac arian cyfatebol gan bartneriaid consortiwm.

Pwysleisiodd Kellie Beirne, Prif Swyddog Gweithredol, P-RC, bwysigrwydd y clwstwr i'r ardal.

"Mae’r HAS yn cynnig cyfle unigryw i ddod â phedair elfen - y byd academaidd, y llywodraeth, busnesau a chyfalaf – ynghyd, i greu grym ar gyfer creu sgiliau menter newydd, a’u defnyddio mewn ffordd arloesol i roi mantais gystadleuol i P-CR yn erbyn rhanbarthau eraill yn y DU."

Dywedodd yr Athro Pete Burnap, Cyfarwyddwr HAS: "Diolch i Lywodraeth Cymru a chefnogaeth P-RC, mae gan yr HAS gyfle i gyflymu twf y sector seiber yn Ne Cymru.  Mae’n gyfle unigryw i symbylu’r arbenigedd a'r buddsoddiad presennol yn y rhanbarth drwy ddod â phethau at ei gilydd i weithio fel clwstwr sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau."

Yn ôl dadansoddiad o’r Sector Seiberddiogelwch gan Lywodraeth y DU yn 2022, mae tua 46 o fusnesau sy’n gysylltiedig â seiber wedi'u cofrestru yng Nghymru, yn cyflogi 4% o'r holl weithwyr seiberddiogelwch proffesiynol sydd yn y DU, gyda chyflog o £49,600 ar gyfartaledd yn ôl yr hysbysebion. Mae hefyd yn nod gan yr HAS ddenu cwmnïau nad ydyn nhw eto wedi’u hangori yng Nghymru i symud yma, ar sail y gweithgareddau datblygu talent heb eu hail sy’n digwydd yma, a fyddai'n creu mwy o swyddi gwerth uchel i bobl leol.

Mae'r Hyb Arloesedd Seiber yn sbarc|spark. Yn hafan i bobl dalentog sy'n creu mentrau newydd, mae sbarc|spark yn cysylltu entrepreneuriaid, sefydliadau, ac arweinwyr sector cyhoeddus gydag ymchwilwyr o'r radd flaenaf ac ymgynghorwyr proffesiynol.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Hyb Arloesedd Seiber a'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol, ewch i wefan yr Hyb yn https://canolfanarloeseddseiber.cymru/