Darlithydd yn cael ei goroni'n Hyrwyddwr y Coroni i gydnabod gwaith gwirfoddol

5 Mai, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Vida_Greaux.jpg

Mae darlithydd o Brifysgol De Cymru a hyrwyddwr cydraddoldeb hiliol wedi cael ei dewis yn Hyrwyddwr y Coroni gan Ei Fawrhydi Y Brenin a’r Frenhines Gydweddog, i gydnabod ei hymroddiad i waith gwirfoddol.

Bydd Vida Greaux, darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol yn PDC, yn mynychu Cyngerdd y Coroni yn Windsor ddydd Sul (7 Mai) ar ôl cael ei henwebu gan Heddlu Gwent i fod yn un o 500 o Hyrwyddwyr y Coroni a ddewiswyd ar draws y DU.

Fel Cadeirydd Grŵp Cynghori Annibynnol (GCA) Heddlu Gwent, mae Vida yn helpu i feithrin cydlyniant rhwng cymunedau a pholisi drwy sicrhau llais cymunedol a chraffu cyhoeddus. Trwy ei gwaith, mae Vida wedi helpu'r heddlu i ymgysylltu'n well â chymunedau a chael gwell dealltwriaeth o'r tensiynau sy'n effeithio ar y rhai sy'n byw ac yn gweithio yn rhanbarth Gwent; gan weithio yn y pen draw tuag at wreiddio diwylliant gwrth-hiliaeth o fewn yr heddlu.

Mae Vida hefyd yn aelod o’r GCA rhanbarthol ar gyfer Heddlu Trafnidiaeth Prydain, ac mae wedi gwasanaethu’r gymuned grefyddol trwy ei chysylltiadau â mannau addoli.

Mae ei hangerdd dros weithio tuag at ddileu gwahaniaethu hiliol, crefyddol a diwylliannol yn parhau yn ei rôl fel Cadeirydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol PDC, sy’n cynnwys cydweithwyr o bob rhan o’r Brifysgol ac sy’n cynnig lle i aelodau gefnogi ei gilydd ar faterion a rennir o bwysigrwydd.

Nod y Rhwydwaith yw hyrwyddo cyfleoedd i bawb, waeth beth fo'u cefndir; creu a chefnogi diwylliant lle gall holl aelodau cymuned PDC gymryd rhan a chyflawni eu potensial mewn amgylchedd lle cânt eu gwerthfawrogi a’u parchu.

Lansiwyd Gwobrau Hyrwyddwyr y Coroni fel rhan o ddathliadau swyddogol y Coroni, ar y cyd â’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, i gydnabod gwirfoddolwyr eithriadol o bob rhan o’r DU. Ar ôl galwad genedlaethol, gwnaed bron i 5,000 o enwebiadau ar gyfer unigolion rhwng 14 a 103 oed.

Gwnaeth Vida gryn argraff ar y beirniaid gyda’i hangerdd i ddefnyddio’i llais ar gyfer y rhai nad ydynt yn cael digon o wasanaeth ac am ei harweiniad tosturiol wrth ddod â gwirfoddolwyr ynghyd i wella plismona ar gyfer cymunedau Gwent.

Mae Vida a’i chyd-Hyrwyddwyr y Coroni i gyd wedi’u gwahodd i fynychu un o ddathliadau swyddogol y Coroni, a byddant yn derbyn pin swyddogol Hyrwyddwyr y Coroni a ddyluniwyd yn arbennig a thystysgrif wedi’i llofnodi gan Ei Fawrhydi.

Wrth glywed y newyddion am ei henwebiad, dywedodd Vida: “Mae hyn yn gydnabyddiaeth wirioneddol o gael fy ngwerthfawrogi ac yn rhoi ymdeimlad o falchder a chyflawniad i mi o wybod bod fy ngwaith gwirfoddoli wedi gwneud gwahaniaeth i eraill. Rwy'n mwynhau gwirfoddoli, gan fy mod yn teimlo fy mod yn rhoi rhywbeth yn ôl.

“Dros y blynyddoedd, mae gwirfoddoli a fy rôl fel ‘ffrind beirniadol’ wedi rhoi’r cyfle i mi gael gwell dealltwriaeth a mewnwelediad o blismona a’r gallu i fynegi barn lleisiau nas clywir. Mae gwirfoddoli hefyd wedi rhoi hwb i fy hunanhyder ac ymdeimlad o gyflawniad.

“Mae hi’n anrhydedd a dw i’n hynod ddiolchgar i Heddlu Gwent am eu henwebiad caredig, ac rwy’n gyffrous iawn i fynychu’r cyngerdd gyda fy mab, Zhivago. Bydd yn brofiad bywyd rhyfeddol.”