Digwyddiad i ddathlu datblygiadau technolegol ledled Cymru
15 Mai, 2023
Mae digwyddiad i nodi llwyddiant y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Technoleg Symudol a Datblygol (CEMET) yn cael ei gynnal ym mis Mehefin.
Wedi’i lleoli ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), mae CEMET wedi bod yn gyrru arloesedd ledled Cymru ers ei sefydlu yn 2015.
Bydd y digwyddiad, yng Ngwesty'r Village yng Nghaerdydd ar fore Mercher 14 Mehefin, yn dathlu'r gwaith mae CEMET wedi'i wneud gyda phartneriaid, ac yn trafod cyflawniadau ymchwil a datblygu a’r hyn sydd nesaf ar agenda’r Ganolfan.
"Bydd y digwyddiad yn anrhydeddu ac yn gwerthfawrogi llwyddiannau rhyfeddol y prosiect a'i bartneriaid ers ei sefydlu," dywed Clayton Jones, Rheolwr Rhaglenni CEMET.
"Wrth i ni gyrraedd penllanw rhaglen y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd (ERDF), mae'r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i ni edrych ar y gwaith cydweithredol mae CEMET wedi'i gyflawni, ac arddangos yr effaith fawr mae wedi'i chael ar economi Cymru.
"Mae'r gefnogaeth hon i fusnesau yng Nghymru wedi helpu i gyflymu’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu technolegau newydd, fel Realiti Rhithwir, Deallusrwydd Artiffisial, a Rhyngrwyd y Pethau.
"Drwy bartneriaethau gyda diwydiant, y byd academaidd, a'r llywodraeth, maen nhw wedi gallu cyflawni prosiectau ymchwil a datblygu llwyddiannus a chreu atebion arloesol sydd wedi cyfrannu at dwf a chystadleurwydd economi Cymru. "
I gadw lle yn y digwyddiad, ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/celebrating-cemet-inspiring-future-innovation-tickets-601520151967