GIG yn 75 | Myfyrwyr a chleifion yn ymgysylltu drwy gelf

17 Mai, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/CTA_MHSOP_llandough_FV.png

Cafodd arddangosfa gelf gan fyfyrwyr PDC, mewn cydweithrediad â chleifion ysbyty, ei hagor yn swyddogol yr wythnos hon.

Mae'r arddangosfa, yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, yn gasgliad o ddarnau mae myfyrwyr BA (Anrh) y Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig wedi'u creu, gyda chleifion o'r Uned Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn (UGMBH).

Gweithiodd y myfyrwyr yn agos gyda staff yr UGMBH cyn creu bocsys gweithgareddau ar gyfer y wardiau, wedi’u hysbrydoli gan 'GIG yn 75'. Roedd y bocsys gweithgareddau yn sail ar gyfer gweithdai gyda chleifion yr UGMBH lle gwnaethon nhw weithio gyda syniadau a deunyddiau artistig. Arhosodd y bocsys gweithgareddau ar y wardiau er mwyn i gleifion a staff allu weithio gyda nhw ymhellach.

Dywedodd Tarah Kandial, myfyrwraig yn ei hail flwyddyn: "Gwnaeth y profiad gyffwrdd yno i’n fawr iawn achos ges i weld y pŵer o fod gyda'n gilydd, yn gwrando ar gerddoriaeth ac yn cyd-ganu a gwrando ar storïau. Sylweddolais fod y math hwn o gysylltiad a hunanfynegiant yn rhan mor hanfodol o fywyd pawb ohonon ni.

"Gwnaeth y cyfranogwyr sy'n byw gyda dementia argraff fawr arna i, eu cynhesrwydd, eu cymeriad a'u diddordebau. Roedd yn hyfryd gweld pobl yn chwerthin, dawnsio, gwneud celf, neu ddim ond bod yng nghwmni rhywun ar adeg anodd. Roedd ymdeimlad o undod, o berthyn a derbyn, hyd yn oed am ennyd fer neu mewn ffordd fach."

Dywedodd y Darlithydd, Heloise Godfrey-Talbot: "Mae wedi bod yn wych cydweithio â chleifion a staff ar wardiau’r UGMBH a’r Tîm Celf ar gyfer Iechyd a Lles yn Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro. Mae'r myfyrwyr wedi dysgu cymaint am werth y celfyddydau o ran Iechyd a Lles drwy gyd-greu ac mae'r arddangosfa'n wych."

Dywedodd Melanie Wotton, Rheolwr y Prosiect Celf ar gyfer Iechyd a Lles: "Rydyn ni’n falch iawn o weld ein cydweithrediad â PDC yn mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r prosiect eleni a'r arddangosfa fywiog, ynghyd â'r sesiynau gafodd eu cyflwyno gan fyfyrwyr a staff PDC yn yr UGMBH, yn dangos yn glir y manteision niferus a'r llawenydd mawr y gall ymgysylltu â'r celfyddydau creadigol eu cynnig.

"Diolch i'r myfyrwyr talentog, i'n staff ac i'n cleifion."

Bydd yr arddangosfa yn Oriel yr Aelwyd tan 19 Mehefin 2023.