Gwobr yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes i un o raddedigion Prifysgol De Cymru
5 Mai, 2023
Mae un o raddedigion Prifysgol De Cymru (PDC) wedi cael ei anrhydeddu yng Ngwobrau Ffilm pwysig Cannes 2023.
Cwblhaodd Mahesh Madhu Naidu radd Meistr mewn Cyfarwyddo Ffilm yn PDC yn 2021, a’r penwythnos diwethaf enillodd ei ffilm fer, Lazy Bones, Wobr Arbennig y Rheithgor am y Ffilm Gorau gan Fyfyriwr.
Cyn dod o PDC, cafodd ei hyfforddi fel actor yn Ysgol Actio Radaan yn India, ac fe berfformiodd mewn nifer o brosiectau cyn ymestyn ei sgiliau i'r byd gwneud ffilmiau. Ysgrifennodd a chyfarwyddodd ei ffilm fer broffesiynol gyntaf, drama o'r enw No Evom, a ddaeth ar gael ar Amazon Prime ym mis Gorffennaf 2019.
Penderfynodd ddilyn y cwrs yn PDC i hyrwyddo ei yrfa, a dyna lle cyfarfu â'i bartner busnes Sam Griffiths. Sefydlon nhw Running Cliché Production House, sy'n gweithredu o'r Stiwdio Sefydlu, deorydd busnes i raddedigion PDC.
Eglurodd Mahesh sut datblygodd y prosiect.
"Ar gyfer fy ngwaith cychwynnol yn creu briff prosiect mawr, amlinellais syniad Lazy Bones, ac fe drodd yr awdur Dave Slocombe y syniad yn sgript sgrin," dywedodd.
"Roedd Lazy Bones yn ffilm 15 munud i ddechrau, ond wedi i fi gwblhau fy nghwrs Meistr yn 2021 roeddwn i'n teimlo bod angen mwy o fireinio arni ac felly fe dreuliais i’r flwyddyn nesaf yn canolbwyntio ar ailgyfansoddi’r gerddoriaeth ac ail-saethu’r diweddglo a’r golygfeydd agoriadol.
"Mae Lazy Bones yn ffilm fer sy'n dilyn taith Ted, dyn-blentyn 25 oed, sy'n byw yng nghartref ei gariad Sarah. Mae'n gyfrifydd clyfar a gwybodus, ond mae ei ddiogi yn ei gwneud hi'n anodd iddo ddod o hyd i swydd, a'i chadw. Mae eisiau gallu rhoi mwy i'w gariad na chefnogaeth emosiynol yn unig, felly mae’n mynd ar daith i ddod o hyd i swydd iddo'i hun.
"Rhywsut, mae'n dod o hyd i broffesiwn sy’n wahanol iawn i bob un arall, sy'n cyd-fynd yn berffaith â'i bersonoliaeth a'i ffordd o fyw, ac sy’n ei helpu i gynnal ei gariad.
"Roeddwn i’n anghrediniol pan glywais i fod y ffilm wedi cyrraedd y rhestr fer. Roedd yn rhaid i fi edrych ddwywaith ar y wefan i sicrhau ei fod e’n wir, cyn dweud wedyn wrth fy mam a ’nhad, a fy mrawd."
Ychwanegodd Mahesh bod cymorth gan nifer o wahanol bobl, gan gynnwys ei deulu, wedi bod yn anhepgor i’w lwyddiant yn Cannes.
"Roedd fy nhad a mam, a fy mrawd yn credu yn fy ngweledigaeth a nhw wnaeth gomisiynu cynhyrchiad Lazy Bones," meddai.
"Yna, llynedd, pan ddes i'n aelod o’r Stiwdio Sefydlu, fe ddes i o hyd i amgylchedd mwy proffesiynol i weithio ohono. Rhoddodd hyn gyfle hefyd i fi gael adborth ar Lazy Bones gan aelodau eraill o’r Stiwdio, oedd yn amhrisiadwy.
"Gwnaeth y Stiwdio Sefydlu ddarparu gofod deori ar gyfer Lazy Bones, ac mae’n parhau i helpu Running Cliché i dyfu, gan ei fod e’n ofod ardderchog ar gyfer rhwydweithio, ac yn fan proffesiynol gwych i gwrdd â chleientiaid a gweithwyr proffesiynol eraill o’r diwydiant ffilm."
Ers mis Chwefror mae Lazy Bones wedi gwneud cryn argraff mewn gwyliau ffilm, ar ôl ennill Gwobr am y Ffilm Amgen Gorau gan Fyfyrwyr yng Ngŵyl Gomedi Ryngwladol UDA; cael ei henwebu ar gyfer gwobr y Comedi Byr Gorau yng Ngŵyl Ffilm Nomadic International Los Angeles; cyrraedd rownd derfynol y Wobr Ffilm Ryngwladol Orau yng Ngŵyl Ffilm Gomedi Georgia, yn Atlanta, UDA; yn ogystal â’r wobr yn Cannes.
Dywedodd Richie Turner, rheolwr holl raglenni entrepreneuriaeth Stiwdios Sefydlu PDC: "Rwyf mor falch o'r hyn mae Mahesh wedi'i gyflawni’n barod ers ymuno â ni.
"Yn anffodus, dyw cael talent fawr a sgiliau creadigol rhagorol ddim yn gwarantu llwyddiant y dyddiau hyn – rydyn ni wedi gallu helpu Mahesh i ehangu ei rwydweithiau proffesiynol ledled Cymru a’r byd a helpu'r cwmni cynhyrchu i gael ffocws ar eu model busnes.
"Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld peilot y comedi diweddaraf, sef 'Odd Jobs', ymhen ychydig fisoedd."