Llwybr celf blynyddol yn arddangos doniau creadigol myfyrwyr

24 Mai, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Donna_Ponty_Art_Trail.PNG

Mae myfyrwyr Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig o Brifysgol De Cymru (PDC) wedi arddangos eu gwaith celf blwyddyn olaf, mewn lleoliadau amrywiol ledled canol tref Pontypridd, fel rhan o'u sioe raddedigion flynyddol.

Roedd y sioe, pART of Ponty, yn arddangos gwaith celf myfyrwyr o ddydd Gwener 19 i ddydd Sul 21 Mai mewn lleoliadau ar hyd a lled Pontypridd, gan gynnwys marchnad, llyfrgell, parc, caffis a siopau’r dref. Datblygodd yr artistiaid berthynas â sefydliadau lleol a ysbrydolodd eu gwaith, a’r nod oedd dangos eu brwdfrydedd dros gefnogi lles cymunedol.

Cefnogwyd y sioe gan Gyngor Tref Pontypridd, Ardal Gwella Busnes Eich Pontypridd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a chwmni Website Sorted.

Am y tro cyntaf, roedd Martha's Home Store yn rhan o’r llwybr celf, yn arddangos gwaith gan Donna Whittington, myfyrwraig drydedd flwyddyn.

Dywedodd Jayne Coleman, perchennog Martha's Home Store: "Mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o’r llwybr celf eleni. Roedd Donna mor hawdd gweithio gyda hi, ac roedd y gwaith o osod y celf yn rhyfeddol o drefnus a didrafferth.

"Rwyf wrth fy modd â'r agwedd hygyrch ar waith Donna. Mae wedi bod yn atyniad go iawn wrth i bobl aros i edrych a thrafod yr hyn maen nhw’n gallu ei weld a'i gyffwrdd. Rwyf wrth fy modd bod y prosiect hwn yn dod â'r cwrs CCTh, a'r Brifysgol, yn agosach at fusnesau bach, annibynnol y dref.

"Pob lwc i'r myfyrwyr i gyd eleni, a dyma obeithio gallu cydweithio eto yn y dyfodol!"

Dywedodd y Darlithydd Heloise Godfrey-Talbot: "Rydyn ni mor falch o allu cydweithio â phobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus Pontypridd eto eleni. Mae myfyrwyr wedi creu gweithiau amrywiol fel llên gwerin newydd, tatŵs, cerfluniau, a darnau tecstilau o amgylch y dref. Mae Pontypridd yn lle arbennig, ac mae ein myfyrwyr wedi dangos hyn unwaith eto. "

Mae'r arddangosfa ar gael i'w gweld ar-lein, gyda map rhyngweithiol sy'n dolennu at ddetholiad o ffotograffau o waith pob artist.