Myfyrwyr PDC yn creu celf ar gyfer gardd gymunedol
11 Mai, 2023
Mae myfyrwyr o Brifysgol De Cymru (PDC) wedi creu arddangosfa gelf ar gyfer gardd gymunedol yn Nhrefforest.
Dathlwyd y cydweithrediad rhwng Gardd Gymunedol Meadow Street a myfyrwyr BA (Anrh) Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig BA (Anrh) mewn parti gardd ar 10 Mai.
Ar themâu bioamrywiaeth, lles, a'r gymuned, cynhyrchodd y myfyrwyr blwyddyn gyntaf gelf ar gyfer yr ardd synhwyraidd i annog ymwelwyr i fwynhau natur yn eu hamgylchedd lleol.
Gosododd Talia Simons ddehongliad o 'Hen Bont' Pontypridd, wedi’i greu gydag un o hen deils cartref ei theulu, a adeiladwyd ym 1904. Dywedodd: "Cenhadaeth Gardd Meadow Street yw grymuso pobl drwy wybodaeth, sgiliau, a phrofiad. Gwnaeth hynny fy ysbrydoli i greu darn o gelf sy’n adrodd hanes treftadaeth Pontypridd."
Dywedodd y darlithydd Johana Hartwig: "Mae'r myfyrwyr wedi gwneud gwaith gwych yn cynnal y digwyddiad yng Ngardd Gymunedol Meadow Street. Daeth llawer o bobl ynghyd, er gwaethaf ambell gawod.
"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Dawn Parker, a phawb yng Ngardd Meadow Street, am eu holl gefnogaeth, ac yn hynod ddiolchgar hefyd i'r myfyrwyr sydd wedi rhoi eu celf i'r ardd."
Oriel gelf isod