PDC yn arwain prosiect addysg sgiliau seiber cenedlaethol
30 Mai, 2023
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn arwain prosiect cenedlaethol i ddatblygu sgiliau arbenigwyr seiberddiogelwch y dyfodol.
Yn arweinydd mewn addysg seiber, mae PDC yn cael ei gydnabod fel sefydliad o Safon Aur gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC), sy'n rhan o GCHQ. Yn ogystal, ar ôl cael ei henwi'n Brifysgol Seiber y Flwyddyn bedair blynedd yn olynol rhwng 2019 a 2022, mae PDC yn arwain rhaglen Ysgolion a Cholegau CyberFirst yr NCSC yng Nghymru, mewn partneriaeth â phrifysgolion Bangor ac Abertawe.
Cefnogir y rhaglen hefyd gan ddau gorff sy'n darparu allgymorth cyfrifiadureg a seiber yng Nghymru - Technocamps a’r Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol (NDEC) yng Nglyn Ebwy, a ddatblygwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, PDC, a'r cwmni technoleg Thales.
Mae CyberFirst yn rhaglen a grëwyd gan yr NCSC i helpu pobl ifanc i fanteisio i’r eithaf ar eu hangerdd dros dechnoleg trwy eu cyflwyno i fyd cyffrous seiberddiogelwch.
Yn rhan o hyn, bydd gwobr ysgolion a cholegau CyberFirst yn gwobrwyo’r rhai sydd wedi dangos ymagwedd ragorol at addysg seiber a chyfrifiadureg. Yng Nghymru, ar ôl ennill y wobr, mae'r ysgolion a'r colegau’n cael eu partneru â busnes seiber neu dechnoleg i weithio ar 'fframwaith ymgysylltu' ar thema seiber i helpu’r ysgol neu'r coleg i gyflawni ei strategaeth addysg seiber a chyfrifiadureg.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Mae CyberFirst yn gyfle anhygoel i ddysgwyr ddatblygu sgiliau a gwybodaeth seiber pwysig o oedran cynnar.
"Bydd y prosiect hwn yn gwella profiadau dysgu myfyrwyr yng Nghymru a bydd hefyd yn cadw ein pobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yn ddiogel, nawr ac yn y dyfodol.”
“Rwy'n annog pob ysgol a choleg yng Nghymru i gymryd rhan".
Dywedodd Sharan Johnstone, Cyfarwyddwr y Ganolfan er Rhagoriaeth Academaidd yn PDC, Pennaeth Pwnc Seiberddiogelwch a Fforenseg Ddigidol y Brifysgol, ac enillydd gwobr Menyw STEM y Flwyddyn yng Nghymru yr hydref diwethaf: "Mae arwain ar y prosiect hwn yng Nghymru yn gyfle gwych i PDC, ac mae'n dangos sut mae chwaraewyr mawr y diwydiant yn cydnabod ein rhagoriaeth ac yn ymddiried ynom i addysgu'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr seiberddiogelwch.
"Mae’n gyffrous iawn gallu cefnogi CyberFirst a helpu Cymru i wella ei henw da ymhellach fel arweinydd byd yn y diwydiant hanfodol hwn."
Ychwanegodd Holly-Marie Lidbury, Arweinydd Prosiect CyberFirst PDC: "I ddod yn ysgol neu goleg CyberFirst, mae angen i sefydliad gyflwyno cais gyda sylwebaeth a thystiolaeth yn erbyn 10 o ofynion sy'n dangos rhagoriaeth yn ei ddull o ymdrin ag addysg cyfrifiadureg a seiber.
"Dyw hyn ddim yn golygu bod yn rhaid iddo fod yn berffaith ar hyn o bryd - dyna pam mae tair lefel: Aur, Arian ac Efydd - ond mae angen i’r sefydliad ddangos eu bod yn deall pam mae addysg cyfrifiadureg a seiber yn bwysig, ei fod o ddifrif yn ei gylch, ac wedi ymrwymo at ddatblygiad strategol y pwnc.
"Rydyn ni eisiau gweld, os byddwn ni'n rhoi gwobr i ysgol neu goleg ac yn ymdrechu i weithio gyda nhw, y byddan nhw'n derbyn hyn yn frwdfrydig ac yn rhoi’r gefnogaeth briodol ar waith i'w gwneud yn bartneriaeth lwyddiannus."
Yn rhan o'r ymdrechion i ddatblygu ysgolion a cholegau o dan gynllun CyberFirst yng Nghymru, maen nhw hefyd yn cael eu cofrestru ar gynllun partneriaeth ysgolion a diwydiant CyberFirst, lle maen nhw’n gweithio ochr yn ochr â busnes "seiber" i ddarparu fframwaith ymgysylltu blynyddol o weithgareddau ar thema seiber.
"Yn ôl adroddiad Ipsos yn 2022, mae gan tua 697,000 o fusnesau fwlch sgiliau seiberddiogelwch sylfaenol, sy'n gwneud gwaith CyberFirst yn bwysicach nag erioed," ychwanegodd Miss Lidbury.
"Dyna pam rydyn ni eisoes yn partneru ysgolion a cholegau yng Nghymru gyda chwmnïau technoleg a seiber mawr fel PWC, Thales, Airbus, a chwmnïau seiber lleol llai. Rydyn ni hefyd yn trafod â chwmnïau technoleg ariannol, banciau, cyflenwyr pŵer, a thrinwyr data sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o'r cynllun.
"Mae gan yr holl gwmnïau hyn un peth hanfodol yn gyffredin o ran cefnogi CyberFirst - gallant helpu i ddangos i ddysgwyr y llu o ffyrdd mae technoleg yn cyffwrdd â bywydau pawb, a'r rolau amrywiol a diddorol sydd ar gael yn y sector."
Bydd CyberFirst yn agor ceisiadau i ragor o ysgolion a cholegau ymuno ym mis Mehefin 2023 ac maen nhw’n gofyn am anfon datganiadau o ddiddordeb at [email protected]. Mae'r tîm yn hapus i drafod y broses ymgeisio a dyfarnu gydag unrhyw staff ysgol neu goleg sydd â diddordeb.