PDC yn cynnal Diwrnod Her Admiral ar gyfer arbenigwyr seiber y dyfodol
26 Mai, 2023
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi cynnal Diwrnod Her Admiral, sydd wedi rhoi cyfle i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn seiberddiogelwch brofi eu sgiliau.
Wedi'i drefnu gan Goleg Seiber Cymru ac yn cynnwys y partneriaid o’r diwydiant, Admiral, Thales, Dŵr Cymru, Fujitsu, Bridewell, a Performanta, rhoddodd y digwyddiad ar Gampws Casnewydd PDC gipolwg ar y cyfleoedd sydd ar gael yn y sector seiberddiogelwch.
Cafodd y myfyrwyr hefyd her seiberddiogelwch i brofi eu sgiliau technoleg, gyda'r enillwyr yn cael eu hanrhydeddu mewn seremoni wobrwyo ar ddiwedd y dydd.
Sharan Johnstone yw Cyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth Academaidd PDC, sydd wedi'i henwi'n Brifysgol Seiber y Flwyddyn am bedair blynedd yn olynol, a Phennaeth Pwnc Seiberddiogelwch a Fforenseg Ddigidol y Brifysgol. Dywedodd wrth y myfyrwyr oedd yn rhan o’r Her: "Hoffwn eich canmol am y dewisiadau gwych rydych chi wedi'u gwneud o ran eich cyrsiau. Y byd digidol, boed hynny’n seiber, TG, technoleg weithredol, neu systemau TG swyddfa gefn, yw un o'r diwydiannau sy'n tyfu gyflymaf yn y byd ar hyn o bryd. Mae'r farchnad swyddi yn enfawr, ac mae’r amrywiaeth eang o fathau o swyddi sydd ar gael, a'r cyfleoedd i’ch datblygu eich hun, yn anhygoel.
"Mae tua 99% o’n graddedigion yn PDC yn ein gadael yn gwybod bod ganddyn nhw swydd eisoes, a byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi’n dod aton ni i barhau â'ch addysg, gyda nifer o opsiynau gwych ar gael ar gyfer eich dysgu, gan gynnwys graddau a phrentisiaethau gradd, y mae llawer ohonyn nhw’n cynnwys gweithio gyda'n partneriaid yn y diwydiant.
"Mae'r byd wir yn agored i chi. Y cyngor gorau y gallaf ei roi i chi yw i chi fanteisio’n llawn ar bob cyfle a ddaw i’ch rhan."
Mae Coleg Seiber Cymru’n cynnig mynediad i fyfyrwyr at sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o'r diwydiant fel eu bod yn gallu symud yn eu blaen i'r brifysgol neu sicrhau prentisiaeth neu brentisiaeth gradd.
Dywedodd Mike Halliday o Goleg Seiber Cymru: "Mae Coleg Seiber Cymru’n rhaglen o'r radd flaenaf sy'n helpu pobl ifanc 16 i 18 oed i ddatblygu'r sgiliau seiberddiogelwch sydd eu hangen ar y diwydiant.
"Yn cael ei hystyried fel y rhaglen fwyaf blaenllaw ar gyfer myfyrwyr o'r oedran hwn yn y DU, mae Coleg Seiber Cymru bellach yn cefnogi dros 140 o fyfyrwyr mewn pedwar coleg, gyda myfyrwyr yn cael eu cefnogi gan bartneriaid i ddatblygu a chyflymu eu sgiliau seiberddiogelwch er mwyn iddyn nhw fod yn barod ar gyfer y byd gwaith."