"Rydych chi’n cychwyn ar yrfa yn un o'r proffesiynau gorau" - Geiriau Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wrth fyfyrwyr addysg PDC
2 Mai, 2023
Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, a myfyrwyr USW
Wythnos ddiwethaf, (27 Ebrill), bu Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, yn annerch myfyrwyr Addysg, Blynyddoedd Cynnar, a Gwaith Ieuenctid a Chymunedol Prifysgol De Cymru (PDC).
Agorodd Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru, y digwyddiad ar gampws y Brifysgol yng Nghasnewydd, gan groesawu cydweithwyr, myfyrwyr, a'r Gweinidog. Dywedodd "Mae addysg yn daith o dwf a goleuo gydol oes.
"Bydd y wybodaeth, y sgiliau, a'r datblygiad proffesiynol a ddaw o'ch astudiaethau a'ch ymarfer yma yn PDC, a’r gwerthoedd a'r cymeriad rydych chi'n eu datblygu yma, o fudd parhaol wrth i chi fynd i'r proffesiwn addysgu, a phan fyddwch chi, yn eich tro, yn mynd ag eraill ar daith o ddarganfyddiadau a chyfleoedd.
"Rydym wedi datblygu perthynas waith agos â Llywodraeth Cymru ac rydym yn falch o chwarae ein rhan yn eu cynlluniau ysbrydoledig ac uchelgeisiol ar gyfer addysg plant a phobl ifanc Cymru.
"Mae addysgu’n fraint. Mae'n fraint i ni weithio gyda chi, ac fe fydd yn fraint i chithau weithio gydag eraill."
Yn rhan o'i gyfres o ddigwyddiadau Ymgysylltu a Chyfoethogi, siaradodd y Gweinidog yn uniongyrchol ag addysgwyr y dyfodol, ac wedyn fe gynhaliwyd sesiwn holi ac ateb.
Dywedodd Jeremy Miles: "Rwy'n falch iawn o gael y cyfle hwn i siarad â chi i gyd ar ddechrau eich gyrfaoedd. Mae llawer o bobl dalentog yn yr ystafell hon fydd yn cael cyfle i effeithio ar fywydau cannoedd a miloedd o bobl ifanc.
"Diolch am wneud y dewis hwnnw. Fodd bynnag, nid yw brwdfrydedd a bwriad yn ddigon. Rydym wedi ymrwymo i'ch cefnogi chi drwyddi draw. Er enghraifft, rydym yn buddsoddi mewn iechyd a lles, datblygiad proffesiynol, dysgu cyfrwng Cymraeg, ac yn mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad.
"Rydych chi’n cychwyn ar yrfa yn un o'r proffesiynau gorau - fe welwch ganlyniadau eich gwaith yn amlwg bob dydd."