Wythnos Ymwybyddiaeth Byddardod 2023 | "Rwy'n hapus fy mod i’n fyddar"

3 Mai, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/images/Hashim_and_Andrew_resized.width-1000.format-jpeg.jpg

Hashim a Andrew

Mae Hashim Mahmood yn astudio hyfforddi pêl-droed ym Mhrifysgol De Cymru (PDC). Mae wedi ei leoli yn Barnsley FC, mae ganddo uchelgais i fod yn chwaraewr pêl-droed lled-broffesiynol, ac mae'n fyddar.

Pan oedd Hashim ychydig fisoedd oed cafodd haint ar y glust a arweiniodd ato'n mynd yn ddwys-fyddar. Fodd bynnag, dyw’r nam ar ei glyw ddim wedi rwystro ei ymdrechion addysg na chwaraeon.

"Rwyf wedi bod yn fyddar erioed. Rwy’n hapus fy mod i’n fyddar," dywed.

"Mae fy nyled yn fawr i fy rhieni. Fe wnaethon nhw fy rhoi mewn ysgol brif ffrwd oedd ag uned fyddar, felly roedd gen i gyfoedion byddar, ac roeddwn i’n rhan o gymuned fyddar. Fyddai hynny ddim wedi bod yn wir mewn ysgol heb uned fyddar.

"Dyw fy myddardod erioed wedi bod yn siom i fi. Rwyf wedi derbyn fy mod i’n fyddar. Gwnaeth fy ffrindiau a fy mrodyr a chwiorydd dysgu sut i ddefnyddio iaith y corff ac arwyddo.  Mae'r cyfan yn gadarnhaol iawn. Rwyf wastad wedi teimlo fy mod wedi fy nghynnwys ym mhopeth."

"Os oes gen i unrhyw broblemau, rwy’n gallu cyfathrebu drwy arwyddo, ysgrifennu pethau, neu ddefnyddio negeseuon testun. Rwyf jyst yn trio fy ngorau."

Mae’n cyfaddef iddo fod ychydig yn ddrygionus pan ddechreuodd yn yr ysgol uwchradd, ond gwnaeth athrawon Hashim iddo sylweddoli bod angen iddo weithio os oedd am lwyddo. Dywedodd: "Es i ati i weithio’n galed ar bynciau roeddwn i’n eu mwynhau. Roedd yr ochr academaidd yn anodd, ond fe ddes i wybod pa ddulliau dysgu oedd yn gweithio i fi, ac fe wnes i wella'n barhaus. Rwy'n falch iawn o hynny."

I'w gynorthwyo, mae Hashim yn gweithio'n agos gydag Andrew, ei ddehonglydd. Dywedodd, "Rydyn ni wedi gweithio gyda'n gilydd ers yr ysgol uwchradd, trwy'r chweched dosbarth, BTECs, a hyfforddi pêl-droed. Rwy’n ei werthfawrogi'n fawr, ac rydyn ni’n ffrindiau da."

Yn gefnogwr pêl-droed gydol oes, mae Hashim yn cefnogi Manchester United ac yn chwarae i ddau dîm -  Farsley Celtic Deaf FC, sydd newydd ennill Cwpan Her Pêl-droed Byddar Lloegr, a Thîm Byddar Lloegr. 

"Pêl-droed fuodd fy hoff beth i'w wneud erioed. Pan oeddwn i'n ystyried fy opsiynau gyrfa, roedd hyfforddi’n teimlo fel dilyniant naturiol. Mae chwarae a hyfforddi yn mynd law yn llaw," dywed.

Ac yntau’n graddio eleni, dechreuodd Hashim y cwrs yn ystod y pandemig. Dywedodd: "Roedd dysgu ar-lein yn anodd i fi. Fel person byddar, mae'n well gen i weithio wyneb yn wyneb. Roedd yn rhaid i fi weithio ddwywaith yn galetach na fy nghyfoedion sy’n clywed.

"Mae PDC wedi bod mor gefnogol. Mae'r darlithwyr wastad yn holi oes angen unrhyw beth arna i, ac yn rhoi gwybod i fi pa gymorth sydd ar gael. Rwy’n bwrw yn fy mlaen mor normal ag y galla i - os oes rhwystr, rwy’n gwneud y cyfan alla i i’w dymchwel.

"O ran pobl fyddar ifancach, fy nghyngor i fyddai iddyn nhw weithio’n galed, ymdrechu i fod y gorau y gallwn nhw fod, a meddwl wastad am y cam nesaf. Os oes unrhyw beth yn eich rhwystro, chwiliwch am y gefnogaeth sydd ar gael i chi. Rwy’n hapus i helpu unrhyw un sydd eisiau cysylltu."