Ymchwilwyr PDC yn gweithio ar ap allai helpu meddygon teulu i adnabod problemau posibl gyda'r croen
3 Mai, 2023
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2023/05-may-/01._Melanoma_app.jpg)
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn gweithio i ddatblygu ap allai helpu i symleiddio'r broses o wneud diagnosis o ganser y croen.
Dan arweiniad yr Athro Cysylltiol Dr Janusz Kulon, mae tîm PDC, mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, wedi bod yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu i ddadansoddi data dienw wedi’i gasglu o blith cleifion y GIG.
Sefydlwyd y prosiect i ddatblygu teclyn allai helpu meddygon teulu i adnabod canserau posibl ar y croen yn haws, ac yna atgyfeirio'r cleifion at arbenigwyr i reoli unrhyw driniaeth ofynnol.
"Mae dermatolegwyr wedi cael eu llethu yn y gorffennol gan nifer yr atgyfeiriadau maen nhw’n eu derbyn gan feddygon teulu yn chwilio am arbenigwr i benderfynu a oes angen ymchwiliad pellach ar friwiau croen," meddai Dr Kulon.
"Gan nad yw meddygon teulu wedi'u hyfforddi'n benodol i sylwi ar farciau a allai fod yn niweidiol ar groen claf, roedd yn rhaid iddyn nhw anfon pob achos posib i'w ddadansoddi."
Ar ôl cael mynediad at ddata miloedd o gleifion y GIG, a chanlyniadau dadansoddi eu problemau croen posib, mae'r tîm wedi bod yn gweithio i ddatblygu'r ap i helpu meddygon teulu i benderfynu a oes angen atgyfeirio at arbenigwr.
"Trwy gael mynediad at ddata'r cleifion a chanlyniadau archwiliadau gan arbenigwyr, gan gynnwys canlyniadau histopatholeg, gallwn nodi nodweddion penodol unrhyw annormaleddau sy'n arbennig o heriol yn ddiagnostig a datblygu system fwy gwrthrychol i gefnogi meddygon teulu wrth ddiagnosio briwiau croen," dywedodd Dr Kulon.
"Gyda'r data hwnnw, mae'r system deallusrwydd artiffisial wedi gallu dysgu beth i chwilio amdano, i dynnu sylw at unrhyw nodweddion sy'n glinigol bwysig, ac wedyn i dynnu sylw’r staff meddygol ato."
Dywedodd Dr Kulon fod y prosiect wedi edrych ar amrywiaeth o dechnegau sy’n gallu dadansoddi nodweddion clinigol pwysig - fel siâp, lliw, cymesuredd, afreoleidd-dra ochrau a strwythur dermoscopig y briwiau – all awgrymu presenoldeb tyfiant niweidiol.
Trwy dynnu delweddau rheolaidd o'r briwiau, mae modd nodi unrhyw newidiadau i helpu i sicrhau bod pryderon yn cael eu codi gyda'r arbenigwyr.
"Fodd bynnag, nid yw hyn yn disodli arbenigedd dynol," dywedodd Dr Kulon. "Dydyn ni ddim yn creu blwch du meddygol arall ond yn hytrach, algorithm DA all gael ei ddehongli'n llawn i gefnogi asesiadau diagnostig. Pan fydd yn cael ei ddatblygu bydd yr ap yn declyn sy'n cefnogi'r arbenigwyr wrth eu gwaith, pâr arall o lygaid all helpu i wneud y system ddiagnosio yn fwy effeithlon."
Er bod y cysyniad sydd wrth wraidd yr ap wedi'i ddatblygu, mae angen mwy o waith i sicrhau bod modd ei ddefnyddio yn y byd go iawn.
"Pwynt terfynol y prosiect hwn yw ap sydd wedi'i ddilysu drwy dreial clinigol," dywedodd Dr Kulon.
"Yr hyn sydd gennym ar hyn o bryd yw set o algorithmau sy'n cael eu datblygu i helpu'r system i ddysgu'n barhaus a deall sut mae newidiadau yn y briwiau wedi effeithio ar gleifion yn y gorffennol, a sut y gellid defnyddio'r wybodaeth honno yn y dyfodol i gefnogi prosesau penderfynu arbenigwyr."