Clwstwr Diwydiannol De Cymru yn cyhoeddi eu hadroddiad Cynllun Clwstwr
14 Mawrth, 2023
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2023/03-march/Carbon_dioxide_industry.jpg)
Mae Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC) wedi lansio eu hadroddiad Cynllun Clwstwr yn swyddogol.
Mae SWIC yn credu'n gryf y gall diwydiant de Cymru gyflymu cyfraniad Cymru at yr ymdrech i leihau cynhesu byd-eang a helpu i gadw ffyniant economaidd y rhanbarth os bydd rhanddeiliaid yn gweithredu ar frys ar y gyrwyr polisi sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad.
Teitl yr adroddiad, sy'n benllanw ar 26 mis o waith gan tua 40 o fusnesau Cymreig, y byd academaidd - gan gynnwys Prifysgol De Cymru (PDC) - a chyrff cyhoeddus, yw "Diwydiant De Cymru – Cynllun ar gyfer Twf Glân".
Mae'r adroddiad yn amlinellu 30 o yrwyr polisi mae SWIC yn credu eu bod yn hanfodol i ddatgarboneiddio diwydiant. Mae'r meysydd blaenoriaeth allweddol yn cynnwys:
- Sicrhau bod polisïau ynni a charbon, ynghyd â mecanweithiau cymorth, yn gystadleuol ar lefel ryngwladol.
- ·Ar hyn o bryd mae diwydiant a busnesau yn y DU yn talu mwy am ynni, ac yn enwedig am drydan, na gwledydd Ewropeaidd eraill, gan ychwanegu at bwysau economaidd ar gwmnïau naill ai barhau i ddefnyddio ynni traddodiadol a pheidio â newid i ddulliau trydan, neu symud i wledydd gyda phrisiau ynni mwy fforddiadwy a chystadleuol.
- Darparu cymorth o ran model busnes ar gyfer trydaneiddio a Dal a Defnyddio Carbon (DDC).
- Bydd hyn yn creu diwydiannau effeithlon ac yn cefnogi datblygiad yr economi gylchol. Mae creu economi gylchol (lle mae cynhyrchion gwastraff yn cael eu defnyddio i bweru diwydiannau eraill, a'i chynnyrch gwastraff terfynol hefyd yn cael ei ailddefnyddio mewn lleoliad diwydiannol) yn allweddol i ddatgarboneiddio Cymru yn y dyfodol.
- Datblygiad grid trydan ac isadeiledd hydrogen de Cymru ar frys.
- Heb gysylltedd grid a rhwydwaith hydrogen, ni fydd gan ddiwydiant yr isadeiledd sydd ei angen i weithredu eu llwybr datgarboneiddio gorau posibl a chynyddu potensial gwynt arnofiol y Môr Celtaidd.
- Mae angen cynnwys cludo CO2 a SWIC yn rhaglen dilyniannu clwstwr Llywodraeth y DU i gyflymu isadeiledd DDC ar gyfer y rhanbarth a de'r DU.
- Mae gwaith peirianneg sy'n cael ei wneud gan y Prosiect Adleoli, sydd hefyd yn cael ei ariannu gan Ymchwil ac Arloesedd Llywodraeth y DU, yn dangos bod gan SWIC y potensial i arwain datblygiad gallu cludo CO2 y DU.
- Mae cydweithio yn hanfodol ar gyfer clystyru - Mae cydweithio yn allweddol ar gyfer cynnydd sgiliau, cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi, manteision ymchwil ac arloesedd a datblygu Hybiau Twf Glân.
Wrth sôn am yr adroddiad, dywedodd Dr Chris Williams, pennaeth datgarboneiddio diwydiannol Diwydiant Cymru - sydd wedi bod yn arwain SWIC ers ei sefydlu yn 2019: "Mae'r adroddiad hwn yn nodi map ffordd cam wrth gam ar gyfer datgarboneiddio diwydiant de Cymru a'r seilwaith sydd ei angen i gyflawni sero-net. Mae'n bosib y gallai ddatgloi buddsoddiad digynsail o £30biliwn yn ne Cymru, gan greu diwydiannau newydd, cynhyrchu degau o filoedd o swyddi a sicrhau miloedd yn rhagor.
"Mae angen cynllun cadarn ar ein diwydiannau, gyda chefnogaeth polisïau cefnogol, i'w galluogi i gynnal eu siwrnai datgarboneiddio unigol eu hunain, a fydd yn ei dro yn cefnogi ein cymunedau yn ne Cymru a chenedlaethau'r dyfodol."
Ychwanegodd Dr Williams: "Mae gennym gyfleoedd unigryw yn ne Cymru gyda phorthladd Aberdaugleddau - sy'n cyflenwi 20% o gyflenwad ynni'r DU - i fod ar flaen y gad yng ngweithgareddau datgarboneiddio’r DU. Byddai gwneud dim byd nawr yn golygu ein bod ni bob amser yn dal i fyny ac nid yw hynny'n opsiwn.
"Mae'r adroddiad hwn yn allweddol ar gyfer dyfodol diwydiant Cymru. Mae cyrraedd y pwynt hwn yn hynod bwysig a bydd ganddo le am byth mewn hanes fel dechrau chwyldro economaidd newydd i ddiwydiant de Cymru. "
Dywedodd Tony Parton, Rheolwr Gyfarwyddwr CR Plus, sydd wedi arwain prosiect y Cynllun Clwstwr: "Prif neges yr adroddiad hwn yw bod rhaid i ni wneud rhywbeth nawr - nid yw'r sefyllfa bresennol yn ddigonol i sicrhau bod diwydiant Cymru'n gystadleuol ar raddfa fyd-eang.
"Mae hyn yn benllanw dwy flynedd a mwy o waith lle bu SWIC yn archwilio'r hyn sydd ei angen i helpu ein diwydiannau i ddatgarboneiddio a diogelu cannoedd o swyddi i'r rhanbarth. Nawr mae'n hanfodol ein bod yn gweithio’n gydweithredol gyda Llywodraethau'r DU a Chymru i wireddu'r polisïau hyn er mwyn datgloi’r buddsoddiadau sydd eu hangen i gyrraedd sero-net erbyn 2050 neu'n gynt."
Dywedodd David TC Davies AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: "Mae Llywodraeth y DU yn falch o ariannu prosiectau fel Clwstwr Diwydiannol De Cymru sy'n dod â diwydiant at ei gilydd i ddatblygu llwybrau at ddatgarboneiddio. Rydym am sicrhau bod economi Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol, darparu swyddi medrus, a sbarduno ffyniant ochr yn ochr â chyrraedd ein targedau sero-net. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i'n helpu i gyflawni'r nodau hyn."
Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru: "Mae heddiw'n gyfle pwysig i gydnabod gwaith a chymeradwyo pawb sy'n ymwneud â chyflawni Cynllun Clwstwr Diwydiannol De Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at ddysgu mwy am eu canfyddiadau."
Dyfarnwyd £1.5 million i'r Clwstwr gan gronfa 'Her Datgarboneiddio Diwydiannol' Ymchwil ac Arloesi Llywodraeth y DU i gefnogi'r rhaglen £2.2 million. Nod yr Her yw rhoi hwb i gystadleurwydd rhanbarthau diwydiannol allweddol a sbarduno buddsoddiad o'r tu allan, gan greu a diogelu swyddi ar gyfer economi fyd-eang carbon isel gyda marchnadoedd allforio carbon isel cynyddol.
Y cydweithwyr ym mhrosiect Cynllun Clwstwr SWIC yw CR Plus Limited, Associated British Ports, Capital Law, Carbon 8 Systems, Celsa Steel, Confederation of Paper Industries, Connect and Convey Ltd, Costain, Dragon LNG, Energy Systems Catapult, ERM, Front Door Communications, Diwydiant Cymru, Liberty Steel, Porthladd Aberdaugleddau, National Grid Electricity Transmission, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Offshore Renewable Energy Catapult, Cyngor Sir Penfro, Progressive Energy, ROCKWOOL Ltd, RWE, Siemens, Tata Steel, Tarmac, Prifysgol De Cymru, Vale Europe, Valero Energy, Western Bio-Energy, Western Power Distribution a Wales & West Utilities.
Mae adroddiad Cynllun Clwstwr SWIC i'w weld yn eu hystafell rithwir, ystafell ar-lein lle gellir gweld yr adroddiadau manwl i bob maes a archwiliwyd gan SWIC ar gyfer y Cynllun Clwstwr, neu yn https://www.swic.cymru/