Dydd Gŵyl Dewi: Lois yn dylunio pecynnau cynaliadwy ar thema Gymreig ar gyfer Lush
1 Mawrth, 2023
Wrth i ni ddathlu Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth), mae myfyriwr Hyrwyddo Ffasiwn, Lois Hemmings, yn dadorchuddio ei dyluniad ar gyfer pecynnu cynaliadwy newydd ar gyfer colur Lush, wedi’i ysbrydoli gan un o symbolau enwocaf Cymru – defaid.
Mae’r ferch 21 oed, o’r Coed Duon, yn ei hail flwyddyn gradd ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), a bydd nawr yn gweld ei dyluniad ar yr ystod ddiweddaraf o ddeunydd papur lapio addurnol a ddefnyddir gan Lush – dewis amgen i ddefnyddio papur lapio tafladwy i becynnu ei gynhyrchion – mewn siopau ar draws y DU.
Wedi'i ysbrydoli gan furoshiki, traddodiad Japaneaidd hynafol sy'n defnyddio technegau tebyg i origami, darn o ffabrig addurnedig y gellir ei ddefnyddio i lapio bron unrhyw beth yw papur lapio addurnol (knot wrap). Mae papur lapio addurnol Lush wedi'u gwneud o gotwm organig a'u nod yw annog cwsmeriaid i osgoi deunyddiau untro i fynd â'u siopa adref.
Llwyddodd Lois i frwydro yn erbyn gweddill ei chyd-fyfyrwyr cwrs i gael ei dewis ar gyfer y prosiect, a osodwyd gan Lush i ddod o hyd i ddyluniad a oedd yn ddigamsyniol o Gymru, ar ôl cyflwyno dyluniadau yn cynnwys llwyau caru a chennin Pedr yn ogystal â defaid.
“Cefais sioc lwyr pan ddywedodd Lush wrthyf fy mod wedi ennill y briff dylunio,” meddai Lois, a fynychodd Ysgol Gyfun Coed Duon a Choleg Cross Keys cyn astudio yn PDC.
“Rwyf wrth fy modd â’r cwmni, felly roedd gallu gweithio’n agos gyda nhw ar greu’r papur lapio addurnol yn gwireddu breuddwyd.”
Gofynnodd tîm dylunio Lush i Lois gyfuno elfennau o’i syniadau llwy garu, gan greu patrwm calon enfys i’w gynnwys ar y papur lapio addurnol. Yna gweithiodd gyda nhw i ddewis y lliwiau gorau a thrafod y broses gynhyrchu. Mae Lush bellach wedi cynhyrchu 50,000 o lapiadau cwlwm gan ddefnyddio dyluniad Lois, sydd ar gael i’w prynu ar-lein ac yn siop Caerdydd nawr: https://www.lush.com/uk/en/p/baaa-ch-knot-wrap
Ychwanegodd Lois: “Roedd yn llawer o hwyl cymryd mwy o ran yn ochr dylunio graffeg Ffasiwn, gan nad yw’n rhywbeth rydw i wedi’i wneud o’r blaen. Ond mae bellach yn un o fy hoff elfennau o fy nghwrs, ac mae wedi fy ysbrydoli i edrych ar yrfa mewn graffeg neu frandio o fewn y diwydiant.
“Mae cael y cyfle i weithio gyda chwmni cenedlaethol fel Lush wedi bod yn wych, gan ei fod wedi fy helpu i sylweddoli beth sy’n mynd i mewn i greu’r cynhyrchion hyn a sut gallwn i weithio ar rywbeth tebyg yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Emma Jones, arweinydd cwrs Hyrwyddo Ffasiwn yn PDC: “Ysgogir y radd BA (Anrh) Hyrwyddo Ffasiwn gan ymagwedd gynaliadwy at ddylunio mewn theori ac ymarfer.
"Fy angerdd yw cau’r bwlch rhwng y dosbarth a’r diwydiant ffasiwn, ac rwy’n anelu at roi cyfleoedd i fyfyrwyr gymhwyso eu dysgu cyn gynted â phosibl i friffiau byw, neu yn y gweithle. Mae hyn yn datblygu ymwybyddiaeth fasnachol, hyder ac yn tanio dyheadau gyrfa.
“Mae cydweithio â’r arloeswyr moesegol Lush yn enghraifft berffaith o’r modd yr ydym yn integreiddio cynaliadwyedd, brandio a chreadigedd masnachol yn ein cwricwlwm. Roedd y briff byw hwn yn galluogi myfyrwyr i brofi heriau a wynebwyd yn y byd go iawn, megis cystadleuaeth, gweithio i derfynau amser tynn a chyflwyno eu dyluniadau i'r cleient. Ymatebodd y dosbarth yn wych gan fwynhau’r profiad dysgu yn fawr.”
Dywedodd Suzie Hackney, Arweinydd Anrhegion Creadigol a Chategori yn Lush: “Roeddwn yn falch iawn o fod yn rhan o’r briff hwn gyda PDC ac mae’n gyfle gwych i ddathlu dylunio o Gymru. Mae Lois wedi gwneud gwaith gwych gyda’r dyluniad llachar, beiddgar a llawen hwn – dyluniad i’w groesawu’n fawr i’w ychwanegu at archif Lush o bapur lapio addurnol, a ffordd arall i’n cwsmeriaid lapio eu hanrhegion mewn ffordd hardd a chynaliadwy!”